Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru i roi 拢40m i adnewyddu Morglawdd Caergybi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod am fuddsoddi gwerth 拢40m i adnewyddu Morglawdd Caergybi, gyda'r gobaith o ddiogelu dyfodol y porthladd.
Mae Morglawdd Fictoria yn helpu i amddiffyn Porthladd Caergybi o'r tywydd garw fel bod y llongau yn medru hwylio.
Erbyn hyn, mae'r morglawdd - sy'n "gyswllt hanfodol" rhwng y DU, Gweriniaeth Iwerddon a'r UE - wedi erydu yn dilyn tywydd stormus.
Mae'r diwydiant yn cyflogi tua 700 o swyddi'n lleol.
Mae'r buddsoddiad o 拢40m yn cynnwys benthyciad o 拢20m a grant o 拢20m gan Lywodraeth y DU sydd am helpu gyda'r gost o ryw 拢110m i adnewyddu'r morglawdd.
Yn 么l Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Bydd y buddsoddiad hwn o 拢40m yn y morglawdd yn helpu i sicrhau dyfodol y porthladd ac yn diogelu swyddi."
Dywedodd fod Porthladd Caergybi - yr ail prysuraf yn y DU - yn "chwarae rhan hanfodol wrth greu ffyniant economaidd i'r rhanbarth".
Ychwanegodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU ei fod yn "croesawu'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru".
Mae'r porthladd yn "allweddol", meddai, i "symud miliynau o dunelli o nwyddau a chludo miloedd o deithwyr bob blwyddyn".
Dywedodd fod "adnewyddu'r morglawdd a diogelu'r porthladd a'r cyffiniau yn hollbwysig i'r cynllun hirdymor hwnnw".
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi ei bod wedi "llythyru gyda sawl gweinidog" o fewn Llywodraeth Cymru ers iddi ddod yn arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n "yn pryderu am y dirywiad yn y morglawdd".
Dywedodd bod y dirywiad hwnnw "wedi gwaethygu mwy na'r disgwyl yn y blynyddoedd dwytha" a bod gwaith adnewyddu o'r herwydd yn "hanfodol" er mwyn amddiffyn y porthladd ac i atal llifogydd yn y dref ei hun.
Fe fydd sicrwydd bod y morglawdd yn ddiogel am flynyddoedd i ddod, meddai, yn "agor mwy o gyfleon economaidd", ochr yn ochr ag elfen o'r Bid Bargen Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru"i ddod 芒'r tir yn 么l i ddefnydd o gwmpas y porthladd".
Yn 么l Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, mae'r gwaith adnewyddu yn debygol o gymryd hyd at ddwy flynedd, ac mae "rhywfaint o amharu yn ystod y cyfnod yna" i'w ddisgwyl.
Ychwanegodd ar raglen Radio Wales Breakfast bod y morglawdd "yn ased sylweddol i economi gogledd Cymru".
Rydym wedi addasu fersiwn flaenorol o'r erthygl yma i nodi fod y buddsoddiad o 拢40m gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys y 拢20m a addawyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni.