Trydanu rheilffordd yn 'gynllun cefn paced sigar茅ts'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Economi Cymru wedi cwestiynu a fydd Rishi Sunak yn glynu at ei addewid i drydaneiddio'r rheilffordd yng ngogledd Cymru.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn amddiffyn ei benderfyniad i roi'r gorau i'r cynllun rheilffordd cyflym HS2 rhwng Birmingham a Manceinion, gyda'r arian yn cael ei ddargyfeirio i gannoedd o brosiectau trafnidiaeth.
Yn eu plith bydd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe.
Ond mae Vaughan Gething yn dweud fod addewid Llywodraeth y DU i wario 拢1bn ar wella amseroedd teithio ar reilffordd y gogledd "wedi ei ysgrifennu ar gefn paced sigar茅ts" heb "gynllun credadwy".
Mewn ymateb dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, fod y llywodraeth wedi gwneud "ymrwymiad clir", gan hefyd gydnabod "y gall y ffigwr newid".
'Allwch chi ddim rheoli'r costau'
Yn siarad ar raglen Newsnight y 成人快手, dywedodd Mr Gething ei fod yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol yn rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru, a'i fod yn "newyddion da".
Ond ychwanegodd: "Yr anhawster yw'r hygrededd gyda'r cynllun hwn oherwydd mae'r ffigwr 拢1bn wedi ei ysgrifennu ar gefn paced sigar茅ts."
Dywedodd Mr Gething nad oedd unrhyw waith datblygu wedi'i wneud ar y cynllun.
"Os nad oes gennych chi'r gwaith datblygu wedi'i wneud yna allwch chi ddim rheoli'r costau a dydyn nhw ddim wir yn gwybod a fydd 拢1bn yn gwneud hynny."
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar flaenoriaethu prosiectau rheilffyrdd ar draws gogledd Cymru: "Nid yw hyn ynddo'i hun yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi ar frig y rhestr flaenoriaeth honno yr ydym wedi bod yn gweithio arni."
Fe gwestiynodd "a fydd, mewn gwirionedd, 拢1bn yma'n cael ei fuddsoddi heb unrhyw gynllun credadwy".
"Nid cynllun yw hwn, ond llinell ar fap."
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, hefyd wedi dweud na fydd ei phaid yn derbyn bod yr addewid yn "disodli'r mwy na 拢2bn y dylai Cymru fod wedi'i gael eisoes yn symiau canlyniadol Barnett ar gyfer cam cyntaf HS2".
Ond ar Dros Frecwast fore Iau fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, fod y ffigwr o 拢1bn yn deillio o astudiaeth yn 2015.
"Yn hytrach na chanolbwyntio ar y ffigwr gadewch i ni ganolbwyntio ar yr awgrymiad," meddai.
"Ni'n mynd i drydaneiddio'r llinell, fase ni'n disgwyl i'r ffigwr newid ond mae'r ffigwr hwn yn dod allan o study ychydig o flynyddoedd yn 么l ond os mae'n mynd i fyny ychydig bach mae'n mynd i fyny.
"Dychmygwch os fyse'r llywodraeth wedi dweud eu bod ma stopio'r ail leg o HS2 a ddim dweud unrhyw beth? Mae'r llywodraeth yn hollol wybodol o bwysigrwydd levelling up ledled Prydain.
"Mae'r prosiect yn y gogledd yn mynd i fod yn wych a mae'n ddrwg fod aelod Llafur fel Vaughan Gething yn teimlo bob tro bod rhaid bod yn negyddol am bob peth mae'r llywodraeth yn ei wneud."
Dywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn bwriadu gofyn i'r Trysorlys am arian i ddatblygu rhannau eraill o'r rheilffordd yng Nghymru.
"Dwi'n gwybod o'r hyn sy'n adroddiad ARNEP, ac ar ben gogledd Cymru, mae chydig o brosiectau eraill dwi'n mynd i pwshio gyda'r Trysorlys, gan gynnwys y llinell freight yn ne Cymru, prosiect pwysig yn y de, oherwydd bod y llywodraeth [Cymru] ddim yn mynd ymlaen gyda relief road yr M4.
"Mae rhain yn brosiectau eraill ar ben trydaneiddio llinell gogledd Cymru y bydden ni'n disgwyl iddyn nhw fynd ymlaen hefyd."
'Wedi ei frysio rhywfaint'
Hefyd ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd y gohebydd trafnidiaeth Rhodri Clarke y bydd trydaneiddio yn golygu mwy o drenau, ac rhai cyflymach ar hyd arfordir y gogledd, os yw'n cael ei gyflawni.
Ond rhybuddiodd y byddai'n cymryd "sawl blwyddyn" cyn gallu cyflawni dim o'r gwaith gan "nad oes fawr o waith datblygu wedi ei wneud eto".
Byddai'r gwaith, meddai, yn debygol o'i gwblhau mewn cymalau gan ddechrau rhwng Crewe a Chaer.
"O safbwynt peidio cael HS2 i Crewe, i ni yng ngogledd Cymru mae'n beth da oherwydd fyddai wedi rhaid i bobl newid trenau yn Crewe i gael budd o HS2.
"Dwi ddim wedi gweld unrhyw astudiaethau technegol o beth sydd angen ei wneud ar hyd llinell gogledd Cymru o ran trydaneiddio, mae pethau technegol eithaf anodd i'w gwneud oherwydd fod twnelau ar hyd y llinell i'r gorllewin o Gyffordd Llandudno, felly dwi'n meddwl fod hwn wedi ei frysio rhywfaint.
"A dwi'm yn siwr os fydd hi'n bosib 'neud y peth o fewn y biliwn mae Rishi Sunak wedi s么n amdano."
Ychwanegodd: "Yn 2017 ddaru'r un llywodraeth benderfynu peidio [trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe], yn lle hynny roedden nhw wedi cyhoeddi gwelliannau i'r brif linellau yn y de a'r gogledd a 'da ni ddim wedi gweld dim byd yn cael ei wneud yna chwaith, felly mae'r gwleidyddion yn hapus i gyhoeddi'r pethau yma ond 'da ni heb weld llawer o newid."
Ar raglen Newyddion S4C, dywedodd Iwan Prys Jones, sy'n arbenigo mewn strategaeth trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, bod yna nifer o gwestiynau yn parhau ynglyn 芒'r cyhoeddiad.
"Dydi o ddim yn mynd i ddigwydd dros nos," meddai.
"Dwi'n meddwl bo' ni'n s么n am bum mlynedd neu fwy cyn y gwelwn ni unrhyw waith trydaneiddio ar y lein, ac mae 'na lot yn gallu digwydd mewn pum mlynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023