Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Niwclear newydd Wylfa: Awgrym cryfaf eto gan Rishi Sunak
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi rhoi ei awgrym cryfaf eto y bydd Wylfa, ar Ynys M么n, yn cael ei enwi fel un o'r safleoedd sy'n cael ei ffafrio ar gyfer atomfa newydd yn ddiweddarach eleni.
Fe'i galwodd yn "safle gwych" a allai ddarparu ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach a ffatri fwy.
Dywedodd Mr Sunak y byddai'r safleoedd a ffefrir yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bod "Wylfa yn rhywle allai wneud y ddau".
Bu'n siarad gyda 成人快手 Cymru cyn cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.
Ym mis Ebrill 2022, lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth diogelwch ynni, a chafodd Wylfa ei chrybwyll fel un o'r safleoedd a allai gael s锚l bendith ar gyfer datblygiad niwclear newydd.
Ym mis Mai eleni, fe wnaeth adroddiad gan ASau ar y Pwyllgor Materion Cymreig annog gweinidogion y DU i ddangos "ymrwymiad mwy pendant" i adeiladu atomfa newydd yn Wylfa, gan rybuddio bod dileu cais Hitachi i wneud hynny yn 2020 wedi gadael "creithiau ar y gymuned leol".
Ddydd Iau, dywedodd Mr Sunak wrth 成人快手 Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ynni niwclear yn gyffredinol oherwydd ei fod yn rhan bwysig o sut rydym yn darparu sicrwydd ynni yn y DU, ond hefyd sut rydym yn datgarboneiddio dros amser i gyrraedd sero net ond mewn ffordd gymesur a phragmatig.
"Mae Wylfa yn safle gwych oherwydd gall wneud p诺er giga-wat o bosibl ond gallai hefyd wneud adweithyddion modiwlaidd bach.
"Heb fynd i mewn i ormod o fanylion, yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyhoeddi'r safleoedd ar gyfer cam nesaf ein proses ar adweithyddion modiwlaidd bach.
"Ni allaf ddweud llawer mwy cyn hynny ond yn amlwg mae Wylfa yn rhywle a allai wneud y ddau."
Gwnaeth y prif weinidog hefyd amddiffyn cytundeb ei lywodraeth gyda Tata i gadw gwaith dur Port Talbot ar agor, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn.
Bydd y gwaith dur, y mwyaf yn y DU, yn derbyn cymhorthdal o hyd at 拢500m gan drethdalwyr i osod ffwrnais arc trydan a chynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach.
Ond mae disgwyl cymaint 芒 3,000 o swyddi i gael eu colli ar draws y DU, yn bennaf ym Mhort Talbot, ac fe wadodd Mr Sunak nad oedd y cynlluniau'n ddigon uchelgeisiol.
"Roedd y ffatri ddur honno yn wynebu cau yn llwyr - byddai 8,000 o swyddi wedi'u colli, dyna beth oedd pobl yn poeni amdano.
"Yr hyn sydd wedi digwydd yma yw bod y llywodraeth wedi camu i'r adwy, dyna Lywodraeth y DU nid Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi camu i mewn ac wedi darparu llawer iawn o gefnogaeth i helpu'r gwaith dur hwnnw i gael dyfodol cynaliadwy hirdymor, gan gynhyrchu dur yn l芒n ac arbed 5,000 o swyddi."