'Byddai safle Tata wedi cau heb gymorth ariannol'
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai cwmni Tata Steel wedi cau eu safle ym Mhort Talbot a chefnu ar y DU yn gyfan gwbl oni bai am eu cytundeb diweddaraf gyda Llywodraeth y DU, yn 么l Ysgrifennydd Cymru.
Mae yna ofnau bod miloedd o swyddi yn y fantol yn sgil y cytundeb i ddiogelu'r safle ac i helpu'r cwmni leihau allyriadau wrth gynhyrchu dur.
Dywedodd David TC Davies wrth raglen Sunday Supplement 成人快手 Radio Wales y byddai miloedd yn rhagor wedi diflannu oni bai am 拢500bn o gymorth gan Lywodraeth San Steffan.
Mae 成人快手 Cymru wedi gofyn wrth Tata am ymateb, ond mae'r cwmni wedi dweud eisoes bod y safle'n gwneud colled o hyd at 拢1.5m y diwrnod.
Mae'r cwmni'n ychwanegu 拢700m ei hun at 拢500m Llywodraeth y DU i symud o gynhyrchu metel crai mewn ffwrneisi chwyth wedi eu pweru gan danwydd ffosil.
Y bwriad yn hytrach yw i gynhyrchu dur wedi ei ailgylchu gan ddefnyddio ffwrneisi arc drydan gydag ynni adnewyddadwy.
Sefyllfa 'hynod o drist'
Dywedodd Mr Davies bod hi'n hysbys ers rhai blynyddoedd bod angen defnyddio technoleg arall gan fod safle Port Talbot yn gwneud colledion mawr.
"Dyw'r un cwmni byth yn mynd i dderbyn colledion fel 'na, felly wnaethon nhw benderfynu bod nhw am gau'r safle yna," dywedodd.
"Pan ddaethon ni i wybod hynny wnaethon ni ddechrau trafodaethau gyda nhw fel llywodraeth i ddweud "edrychwch, allwn ni wneud rhywbeth i gadw cynhyrchu dur yna? Beth sydd angen i ni wneud i gadw Tata yma?'
"Roedden ni'n trafod pris cefnogi ffwrnais arc drydan. Fe gaethon ni'r maen i'r wal yn y diwedd. Rydyn ni'n talu 拢500m nawr i Tata."
Ychwanegodd: "Dydy hynny ddim yn mynd i arbed pob swydd, ond mae yn mynd i achub swyddi ar y cyfan oherwydd roedd Tata yn edrych ar dynnu allan o'r DU."
Mae Mr Davies yn amcangyfrif y byddai'r fath sefyllfa wedi arwain at golli 12,500 o swyddi i gyd. Mae'r ffigwr yna'n cynnwys yr 8,000 o bobl sy'n gweithio i Tata ei hun, a'r gweithwyr sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi.
Dan y cytundeb rhwng y llywodraeth a Tata mae disgwyl tua 3,000 o ddiswyddiadau, ac yn sgil hynny fe ddywedodd bod y sefyllfa'n "hynod o drist"
"Dyw e ddim yn ddiwrnod i ddathlu," dywedodd.
"Naethon ni popeth posib i achub swyddi, ac i wneud yn si诺r bod dur yn dal yn cael ei gynhyrchu ond dydw i ddim yn mynd i guddio rhag y ffaith bod hyn yn dal yn newyddion ofnadwy."
Ddydd Gwener, gan gyfeirio at asedau oedd yn tynnu at ddiwedd eu hoes ym Mhort Talbot, fe ddywedodd rheolwr gyfarwyddwr Tata Steel, T V Narendran wrth 成人快手 Cymru: "Roedden ni'n cyrreedd pwynt ble roedd rhaid i ni wneud penderfyniad ac rydym wedi bod yn agored ynghylch hynny.
"Fe wnaethon ni ddweud, rai misoedd yn 么l, bod gyda ni flwyddyn, mwya' tebyg, ar 么l i benderfynu ar y naill ffordd neu'r llall."
Ychwanegodd bod amseriad y cytundeb "wedi bod yn amserol iawn - o leiaf rydym wedi sicrhau dyfodol y safle".
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn sicrhau "ystod eang o gefnogaeth i unrhyw staff sy'n cael eu heffeithio gan y newid, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Tata Steel i sicrhau bwrdd trawsnewid penodol i gefnogi'r gweithwyr dan sylw a'r economi leol gyda hyd at 拢100m o gyllid".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023