成人快手

Adroddiadau am golli swyddi Tata yn 'ddychrynllyd'

  • Cyhoeddwyd
Tata Port talbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn rhan annatod o economi'r de orllewin

Dywed gweithwyr dur bod yr adroddiadau am ddiswyddiadau posib ym Mhort Talbot yn "ddychrynllyd" ac maen nhw wedi galw ar lywodraeth y DU i roi sicrwydd iddyn nhw yn sgil cytundeb i ddatgarboneiddio gweithfeydd Tata yn y DU.

Ddydd Iau fe wnaeth ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Jonathan Reynolds gwrdd 芒 chynrychiolwyr ar ran y gweithwyr.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal wedi adroddiadau y gallai llywodraeth y DU gynnig 拢500m i helpu Tata Steel gyrraedd sero net.

Dywedodd Mr Reynolds ei fod yn ymddangos bod gweinidogion yn "gwario hanner biliwn i wneud 3,000 o bobl yn ddi-waith".

Dywed Tata Steel eu bod yn ymrwymo'n llwyr i ymgynghori ystyrlon a phroses briodol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl gyda rhanddeiliaid - gan gynnwys partneriaid yn yr undebau llafur a chynrychiolwyr gweithwyr.

Fe fydd hynny'n digwydd, medd llefarydd, cyn gwneud penderfyniad ar gynigion perthnasol gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud 芒 datgarboneiddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y byddai unrhyw gytundeb yn "hynod arwyddocaol" gan ychwanegu fod busnes Tata'r DU wedi bod yn gwneud colledion ers blynyddoedd.

Mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi ddydd Gwener faint o arian y maen nhw'n fodlon ei wario i helpu cwmni Tata Steel i foderneiddio eu gweithrediadau yn y DU.

'Brawychus iawn'

Dywedodd Alan Coombs, aelod o undeb Community, nad oedd gweithwyr "wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau" am ddyfodol Port Talbot.

"Dydyn ni ddim yn gwybod pa mor fawr, pa mor fach fydd pethau," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Jonathan Reynolds gwrdd 芒 gwleidyddion Llafur a gweithwyr dur ym Mhort Talbot ddydd Iau

"Rydym wedi clywed rhai pethau yn y wasg.

"Mae rhai o'r adroddiadau yn frawychus iawn i ddweud y gwir - ond mae'n rhaid i ni aros nes gawn ni ddatganiad swyddogol gan Tata.

"Dydyn nhw ddim wedi cyflwyno unrhyw beth i'r undebau ar hyn o bryd."

Yn 么l adroddiadau yn y Financial Times a Sky News mae cytundeb i ariannu datgarboneiddio gweithrediadau Tata Steel UK ar fin digwydd - ac maen nhw'n dweud y bydd llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢500m tuag at y cynllun.

Ond mae yna rybudd y byddai'r newidiadau'n golygu colli tua 3,000 o weithwyr ar draws y DU yn y tymor hir.

Fe ddywedodd Jonathan Reynolds ei fod yn bwysig cynnig sicrwydd i weithwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweithfeydd Tata ym Mhort Talbot yn cyflogi tua 4,000 o weithwyr.

"Yr hyn sy'n fy nychryn yn fawr yw bod y gweithwyr yma, yn gyntaf wedi cael addewid mor ddiweddar 芒 phythefnos yn 么l y bydden nhw'n rhan annatod o unrhyw gynlluniau pontio, y bydden nhw'n rhan o'r broses honno ond maen nhw wedi cael eu cadw yn y tywyllwch.

"Mae hynny'n annerbyniol... ond rwyf hefyd yn poeni, os yw'r adroddiadau'n wir, bod llywodraeth Geidwadol y DU yn cynnig gwario hanner biliwn o bunnoedd i wneud 3,000 o bobl yn ddi-waith.

"Rydyn ni eisiau dur gwyrdd ond mae yna ffyrdd o wneud hynny.

"Ac mae yna ffyrdd o wneud hynny sy'n ei wneud yn stori hynod gadarnhaol i'r DU. Ond nid ydym yn cael hynny ar hyn o bryd.

"Bydd pobl yn gwybod bod y dechnoleg sy'n cael ei chynnig, os yw'r adroddiadau'n wir, yn cyfyngu'n sylfaenol gynnyrch Port Talbot.

"Mae yna 么l-effeithiau enfawr i hynny, mae yna 么l-effeithiau enfawr i'r llyfr archebion presennol heb s么n am y dyfodol."

'Edrych ar bob opsiwn'

Dywedodd yr AS lleol, Stephen Kinnock, y dylai Tata archwilio pob opsiwn yn hytrach nag ymrwymo i ffwrneisi trydan.

"Dylent fod yn edrych ar bob math o opsiynau gwahanol, nid yn unig ffwrneisi trydan ond hefyd dal a storio llai o haearn, hydrogen a charbon fel y gallwn ddiogelu'r llyfr archebion, cadw'r holl swyddi hynny, a hefyd symud tuag at ffordd wyrddach o wneud dur."

Dywedodd swyddog cenedlaethol undeb Community, Alun Davies, ei fod wedi ei siomi gan y cynigion yr adroddwyd amdanynt, a all olygu colli 3,000 o swyddi.

"Dydw i ddim hyd yn oed eisiau meddwl am hynny, a dweud y gwir," meddai.

"Mae gen i lawer o ffrindiau yno, llawer o ffrindiau sy'n ddibynnol ar swydd sy'n talu'n dda."

Wrth ymateb i adroddiadau y gallai Tata a llywodraeth y DU gyhoeddi cytundeb cyn gynted 芒 ddydd Gwener, ychwanegodd Mr Davies: "Os yw hyn yn wir fe ddylai Tata fod wedi dweud wrthon ni beth rydyn ni'n ei ddisgwyl.

"Dylai'r sgyrsiau hyn fod wedi digwydd gryn amser yn 么l.

"Rydym wedi bod yn siarad 芒 nhw am ddatgarboneiddio ers dwy neu dair blynedd ac wedi cael gwybod gydol yr amser y byddent yn ymgynghori'n llawn 芒 ni, felly dyna pam mae hyn yn gymaint o sioc."