Cyhoeddi c芒n newydd i roi hwb i Fenter yr Eagles

Ffynhonnell y llun, IOLO PENRI

Disgrifiad o'r llun, Mae menter wedi gosod targed i godi 拢500,000 er mwyn datblygu tafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn

Mae fersiwn Gymraeg o'r g芒n Hotel California wedi ei chyhoeddi fel rhan o'r ymdrechion i godi arian i ddatblygu tafarn enwog yr Eryrod yn Llanuwchllyn.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y perchnogion presennol eu bod yn ymddeol, ac fe gafodd Menter yr Eagles ei sefydlu i sicrhau dyfodol y dafarn.

Mae'r fenter wedi gosod targed i godi 拢500,000 er mwyn ei rhedeg fel tafarn, t欧 bwyta a siop gymunedol.

Fel rhan o'r ymdrechion, mae criw o gantorion a cherddorion enwog, sydd 芒 chysylltiadau yn lleol, wedi dod at ei gilydd i recordio'r fersiwn Gymraeg.

Y pedwar yw Osian Huw Williams, Branwen Haf, Marged Gwenllian ac Ifan Prys o fandiau Candelas a'r Cledrau.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Disgrifiad o'r llun, Prif leisydd Candelas, Osian Huw Williams, ydi un o'r rheiny tu 么l i'r g芒n

Ar raglen Dros Frecwast ar 成人快手 Radio Cymru fore Iau, fe esboniodd Osian o ble ddaeth y syniad am greu fersiwn Gymraeg o g芒n enwog yr Eagles.

"Ges i'r syniad bod rhaid gwneud rhyw fath o g芒n neu cover ar gyfer yr ymgyrch i ysgafnhau bob dim a dod 芒 phawb at ei gilydd i helpu'r fenter," meddai.

"Ond fy mrawd-yng-nghyfraith sy'n cael y clod am gael y syniad, a na - doeddan ni ddim yn yr Eagles pan gafon ni'r syniad!"

Ychwanegodd: "Dwi a'n chwaer yn dal i fyw yn y pentref, ac mae Marged ac Ifan Prys o'r Cledrau i gyd yn dod o Lanuwchllyn - 'sa'n wirion 'sa ni ddim yn creu rhywbeth tebyg i hyn.

"Dwi ar y pwyllgor, ac ma' petha' yn gallu mynd mor ddifrifol - mae pobl yn mynd i boeni a meddwl os wyt ti am hel y pres - felly mae'n atgoffa pobl mai rhywbeth positif ydi hyn."

'Dipyn o swm'

Mae'r ymdrechion yn parhau i gyrraedd y nod o godi 拢500,000.

Hyd yma mae'r swm yn agos谩u at y 拢200,000 ac mae Osian yn ffyddiog y gallan nhw gyrraedd y targed.

Ffynhonnell y llun, IOLO PENRI

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Osian y byddai colli'r dafarn yn "glec fawr" i'r gymuned

"Mae o'n dipyn o swm. Mae pethau yn mynd yn ofnadwy o dda ar y funud - newydd basio y 拢200,000, sy'n anhygoel i bentref mor fach.

"Os 'dan ni yn cael 'chydig mwy - ryw 拢250,000 - croesi bysedd buasen ni'n cael arian cyhoeddus wedyn.

"Mae 'na gefnogaeth i bopeth yn yr ardal yma, ac o safbwynt personol, 'da ni'n mynd yno 'chydig yn rhy aml yn enwedig ar nos Iau ar 么l ymarfer c么r.

"Mae'n dafarn, ond hefyd yn siop a chymaint o gymdeithasau yn cwrdd yno o'r Ffermwyr Ifanc i'r to h欧n - dwi'n meddwl os fysan ni'n colli rhywle fel hyn mi fasa fo'n glec fawr.

"Dwi'n erfyn ar bawb i fynd i hel eu ceiniogau - mi fasa ni'n gwerthfawrogi lot."

Ac o ran y g芒n, mae Osian yn gobeithio y bydd yn hwb gwerthfawr i'r ymdrechion.

"Mae'n un o'r rheiny, os 'newch chi wrando arni, alla i sicrhau fydd hi'n sownd yn eich pennau drwy'r dydd - mae'n un o'r rheiny sy'n gweithio."