成人快手

Cau dwy ysgol ar 么l canfod concrit RAAC

  • Cyhoeddwyd
RAAC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae concrit RAAC wedi ei ganfod yn rhannau o adeilad Ysgol Maes Owen yn Sir Conwy

Mae dwy ysgol gynradd, y naill yn Sir Conwy a'r llall yn Sir Ddinbych, wedi eu cau ar 么l canfod concrit diffygiol RAAC yno.

Bydd Ysgol Maes Owen ym Mae Cinmel, ac Ysgol Trefnant ar gau "am weddill yr wythnos".

Dywedodd awdurdod lleol Ysgol Maes Owen fod arwyddion cynnar yn dangos fod y deunydd yn yr ysgol "mewn cyflwr da" ond eu bod yn ymateb "yn ofalus".

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod planciau yn Ysgol Trefnant yn "ymddangos yn sefydlog ac mewn cyflwr derbyniol," ond eu bod wedi penderfynu cau'r ysgol er mwyn diogelwch tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles wedi dweud y bydd ymchwiliadau'n parhau.

Mewn llythyr at rieni gan yr ysgol, dywedodd pennaeth Ysgol Maes Owen eu bod wedi dod i ddeall fod deunydd RAAC wedi ei ddefnyddio "yn rhai rhannau o'r ysgol".

"Tra bod y risg ar y pwynt hwn yn isel iawn, yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae'r awdurdod lleol wedi gwneud y penderfyniad gofalus i gau adeilad yr ysgol am weddill yr wythnos, i ddechrau, tra bod ymchwilio pellach yn digwydd," meddai'r llythyr.

Ychwanegodd y bydd adnoddau ar gael i rai disgyblion i'w defnyddio adref ac ar-lein.

Disgrifiad,

Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fod y penderfyniad yn un "rhagofalus tra bod ymchwiliadau pellach yn parhau".

"Hoffwn ddiolch i staff yr ysgol a'r awdurdod lleol am weithredu'n gyflym."

Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd dwy ysgol ar Ynys M么n eu cau oherwydd presenoldeb RAAC.

Ar 么l arolygon gan bob awdurdod lleol, mae'r deunydd wedi ei ganfod mewn adeiladau cyhoeddus eraill yng Nghymru hefyd.

Beth yw RAAC?

Fe gafodd y deunydd ei ddefnyddio rhwng y 50au a'r 90au wrth adeiladu.

Mae'n goncrit ysgafnach na'r arfer, yn haws i'w osod ac yn rhatach i'w gynhyrchu.

Ond mae'n gallu dymchwel yn ddirybudd.

Mae RAAC wedi pasio ei gyfnod diogel erbyn hyn, yn 么l y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Pynciau cysylltiedig