Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Neil Foden i ymddangos mewn llys ar gyhuddiadau rhyw
Bydd prifathro o'r gogledd sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn yn rhywiol yn ymddangos mewn llys fis nesaf.
Mae Neil Foden, 66 o Hen Golwyn, Sir Conwy, wedi ei gyhuddo o dair trosedd, gan gynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn rhwng 13 a 15 oed a chyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 16 Hydref am wrandawiad paratoi at achos llawn.
Cafodd Mr Foden ei gadw yn y ddalfa ar 么l ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno'r wythnos ddiwethaf.