成人快手

Cau rhan o Ganolfan Hamdden Arfon ar 么l canfod RAAC

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Hamdden Arfon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ardal pwll nofio Canolfan Hamdden Arfon wedi ei gau oherwydd presenoldeb RAAC

Bydd rhan o ganolfan hamdden yng Ngwynedd yn cau ar unwaith ar 么l i goncrit diffygiol RAAC gael ei ganfod yno.

Dywedodd Canolfan Hamdden Arfon mai to ardal y pwll nofio sydd wedi ei effeithio, a bydd gweddill y safle'n parhau ar agor.

Yn y cyfamser, does dim ysgolion eraill yng Nghymru wedi canfod y concrit yn eu hadeiladau hyd yn hyn, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Fe gyhoeddon nhw hefyd y byddai arolwg o'r newydd i adnabod RAAC mewn adeiladau cyhoeddus eraill megis theatrau, cyfleusterau hamdden a swyddfeydd, gyda'r canfyddiadau i'w cyhoeddi ar 15 Medi.

Fe ddaw'r diweddariad ar 么l i ddwy ysgol ar Ynys M么n gau yn gynharach yn yr wythnos - gydag Ysgol David Hughes wedi agor yn rhannol erbyn hyn.

Ond ddydd Gwener fe gyhoeddodd Cyngor Ynys Mon y bydd Ysgol Uwchradd Caergybi yn ail-agor yn rhannol ddydd Llun i hyd at ddau gr诺p blwyddyn ar y tro.

Disgrifiad,

Ein gohebydd Meleri Williams sy'n esbonio beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Mae arolygon wedi bod yn cael eu cynnal ar 么l i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ddweud fod y math o goncrit wedi pasio ei gyfnod diogel.

Mae RAAC (Reinforced autoclaved aerated concrete) oedd yn cael ei ddefnyddio rhwng y 50au a'r 90au yn goncrit ysgafnach sydd yn gallu dymchwel yn ddirybudd.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Canolfan Hamdden Arfon eu bod yn cau rhan o'r adeilad fel "cam cyfrifol i ddiogelu staff a chwsmeriaid".

"Rydym wedi derbyn gwybodaeth prynhawn 'ma [ddydd Gwener] fod concrit RAAC wedi darganfod yn rhan o do adeilad y Ganolfan Hamdden yng Nghaernarfon.

"Ardal y pwll nofio yn unig sydd dan sylw. Nid oes tystiolaeth o'r deunydd mewn rhannau eraill o'r adeilad na'r safle yn ehangach.

"Tra y bydd ymchwil pellach i'r strwythur, mi fyddwn ni'n cau'r pwll am 14:30 [ddydd Gwener] tan yr hysbysir yn wahanol.

"Mi fydd gweddill yr adeilad a'r safle yn parhau ar agor fel arfer."

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim ysgolion eraill wedi canfod RAAC yn eu hadeiladau ar hyn o bryd, yn ol y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles

Ddydd Llun fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau fod RAAC wedi cael ei ddarganfod yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi.

Erbyn hyn mae Ysgol David Hughes wedi ailagor i rai blynyddoedd.

Ond mewn diweddariad brynhawn Gwener fe gyhoeddodd Cyngor Ynys M么n y bydd Ysgol Uwchradd Caergybi hefyd yn ail-agor yn rhannol i hyd at ddau gr诺p blwyddyn ar y tro o ddydd Llun ymlaen.

Ychwanegodd llefarydd: "Yn ogystal, bydd adeilad yr ysgol yn ail-agor yn rhannol i flynyddoedd 12 a 13 ar gyfer gwersi unigol (o ddydd Llun 11 Medi).

"Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda'r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted 芒 phosibl."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysgol Uwchradd Caergybi wedi bod ar gau i ddisgyblion ers wythnos

Dywedodd Mr Miles ei fod yn ymwybodol fod gan rieni a staff bryderon am y deunydd ac mai blaenoriaeth y llywodraeth yw sicrhau diogelwch.

Wrth i arolygon rhai awdurdodau lleol barhau, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y dylai fod darlun llawn o'r sefyllfa ar gael erbyn 15 Medi.

Heblaw am y ddwy ysgol ar Ynys M么n, mae'r deunydd wedi ei ganfod mewn ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill.

Fe gafodd rhan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ei gau ac mae'r concrit wedi ei ganfod yn nho Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd sydd hefyd wedi ei gau dros dro.

'Angen mwy o frys'

Ond dywedodd llefyarydd Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Laura Anne Jones AS: "Mae datganiad diweddaraf y llywodraeth Lafur yn profi eu bod yn parhau ar ei h么l hi o ran RAAC yn ysgolion Cymru.

"Er fy mod yn croesawu'r Gweithgor Concrit a chydweithrediad trawslywodraethol, bydd angen datganiadau pellach."

Fe ychwanegodd: "Mae yna anghysondebau difrifol gydag adroddiadau cynghorau ar gyfer RAAC mewn ysgolion, gyda rhai yn dweud nad oes 'dim pryderon uniongyrchol' a llinell amwys gan Gyngor Caerdydd yn dweud nad yw 'mwyafrif o ysgolion' yn cael eu heffeithio. Ni fydd hyn yn tawelu meddyliau rhieni.

"Mae cyfaddefiad y gweinidog Llafur na fydd llun cyflawn ar gael am wythnos arall yn annerbyniol.

"Mae rhieni a disgyblion Cymru yn haeddu eglurder gyda llawer mwy o frys."

Pynciau cysylltiedig