成人快手

'Dim lle i gynghorau sir Cymru wneud mwy o doriadau'

  • Cyhoeddwyd
Llinos Medi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynghorau Cymru 'yn cychwyn o fan ofnadwy o wan' wrth fedwl am orfod gwneud mwy o doriadau, medd Llinos Medi

Does "dim lle" gan awdurdodau lleol i wneud rhagor o doriadau i'w gwasanaethau wedi blynyddoedd o orfod gwneud arbedion, yn 么l arweinydd un o gynghorau'r gogledd.

Roedd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n, yn ymateb i rybudd y Prif Weinidog bod Cymru'n wynebu'r sefyllfa ariannol fwyaf heriol ers datganoli.

Mae Mark Drakeford wedi gofyn i'w weinidogion wneud toriadau yn eu cyllidebau wrth i chwyddiant roi pwysau ar y pwrs cyhoeddus, a bydd aelodau o'r cabinet yn cwrdd dros yr haf i drafod atebion posib.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe rybuddiodd y Cynghorydd Medi bod cynghorau Cymru eisoes wedi gwneud toriadau mawr a bod yna ansicrwydd beth fydd "ar 么l ar ddiwedd hyn i wasanaethu'r cyhoedd".

Dywedodd bod angen i'r cyngor, sy'n cael ei reoli gan gynghorwyr Plaid Cymru, wneud rhwng 拢7m a 拢10m o arbedion dros y flwyddyn nesaf.

Roedd datganiad ysgrifenedig Mr Drakeford i'r Senedd ddydd Mercher, meddai, ond "yn cadarnhau'r hyn oeddan ni'n disgwyl", wedi rhybudd blaenorol bod yna fwlch o 拢900m yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn sgil chwyddiant.

"Ma' nifer o arweinwyr profiadol r诺an yn d'eud: 'Does ginnon ni ddim syniad lle i droi - 'dan ni 'di torri miliyna' ar filiyna' o'n cyllideba' ni a dyna pam bod gwasanaethau cyhoeddus yn y sefyllfa ma' nhw ar hyn o bryd."

'Dim dewis ond edrych ar addysg'

Mae Cyngor M么n, meddai, wedi gwneud toriadau mewnol a chwtogi ar gyllidebau priffyrdd a gwasanaethau gwastraff.

"Mae dros 40% o'n pres ni yn mynd ar addysg felly mae synnwyr yn d'eud mae'n rhaid i rywun edrych yn y maes yna. Ydan ni isio? Nagoes.

"Dyfodol ein cenedl ydi'n plant ni. 'Dan ni fod i roi gymaint 芒 fedran ni iddyn nhw, ond pan ma'r llywodraeth yn rhoi hyn i ni, s'ginnon ni ddim dewis."

Yn gefndir i'r her ariannol sy'n eu hwynebu, dywedodd bod y galw wedi cynyddu ers y pandemig yn achos sawl maes, gan gynnwys gwasanaethau plant, a "mae hyn i gyd angen arian i'w gyflawni".

Ac yn wahanol i gyrff cyhoeddus eraill, does dim modd yn statudol i awdurdodau lleol osod cyllidebau gyda diffyg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford wedi rhybuddio bod angen edrych ar bob agwedd o wariant ei lywodraeth, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd

Mae'r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o wastraffu arian ar brosiectau fel parthau 20 milltir yr awr ac ehangu'r Senedd.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Powys bod cyllidebau dan bwysau "ers hir, hir iawn".

Dywedodd Aled Davies: "Y llywodraeth yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn derbyn y cyllid mwya' yn hanes datganoli.

"Os mae Mark Drakeford wir eisiau gwybod pwy sy'n gyfrifol am y problemau yng Nghymru ar hyn o bryd, mae dim ond angen iddo edrych yn y drych."

'Chwarae gwleidyddol'

Ond "chwarae gwleidyddol" yw'r honiad am y setliad mwyaf erioed, meddai Llinos Medi, pan "'dan ni gyd yn gw'bod pan awn ni i'r siop bod ni'n ca'l llai am ein punt heddiw".

Dywedodd Llinos Medi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru "wedi cael y drafodaeth" gyda'r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd ynghylch rhai o'u blaenoriaethau "achos oeddan ni'n rhagweld be' oedd i ddod".

Ychwanegodd: "'Dan ni 'di gofyn iddyn nhw hefyd ystyried eu cynlluniau er mwyn sicrhau bod ni'n ca'l y basics yn iawn.

"Ma'r esgid yn gwasgu a ma' rhaid i bawb gyfrannu i hyn, ond be' sydd angen cofio ydi 'dan ni 'di torri a torri a torri.

"'Dan ni'm yn cychwyn o'r cychwyn... 'dan ni'n cychwyn o fan ofnadwy o wan a 'dwi ddim yn si诺r iawn be fydd ginnon ni ar 么l ar ddiwedd hyn i wasanaethu'r cyhoedd."