Rhybudd am wyntoedd cryfion am y deuddydd nesaf

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Disgrifiad o'r llun, Mae'r rhybudd ar y chwith mewn grym tan 19:00 ddydd Gwener, a'r un ar y dde o 09:00 ddydd Sadwrn

Mae rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion wedi eu cyhoeddi dros rannau helaeth o Gymru am y deuddydd nesaf.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer 19 sir - pob un oni bai am siroedd Dinbych, Y Fflint a Wrecsam - rhwng 07:00 a 19:00 ddydd Gwener.

Yna mae rhybudd arall mewn grym ar gyfer y de a'r canolbarth rhwng 09:00 a hanner nos ddydd Sadwrn.

Mae teithwyr wedi eu rhybuddio am oedi posib i drafnidiaeth rheilffordd, awyr a fferi oherwydd gwyntoedd o hyd at 45mya.

Mae gyrwyr hefyd yn cael eu rhybuddio am dd诺r ar y ffyrdd a all arwain at amodau gyrru anodd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd hyrddiau o 35 i 45mya ar draws ardal y rhybudd, gyda hyrddiau o dros 50mya yn effeithio ar arfordiroedd a thiroedd uwch, yn bennaf yng ngorllewin Cymru.

Newid trefniadau G诺yl Gyhoeddi'r Urdd

Mae'r tywydd hefyd yn golygu bod yna newidiadau i drefniadau G诺yl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ddydd Sadwrn.

Ni fydd gorymdaith yn Y Drenewydd, ond bydd y gweithgareddau eraill yn parhau, er y byddan nhw'n symud o fod yn y parc i fod o dan do yn Ysgol Dafydd Llwyd.