Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwest: Mabli Hall mewn coets adeg gwrthdrawiad angheuol
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth babi wyth mis oed a fu farw ar 么l cael ei tharo gan gar tu allan i ysbyty.
Roedd Mabli Cariad Hall yn ei choets pan gafodd ei tharo y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar 21 Mehefin.
Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi derbyn galwad brys am wrthdrawiad rhwng car a cherddwyr am 11:50.
Cafodd Mabli ei chludo mewn hofrennydd i Gaerdydd, cyn cael ei throsglwyddo'n ddiweddarach i Ysbyty Plant Bryste.
Clywodd Llys Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin bod Mabli wedi marw o anaf difrifol i'w hymennydd yn yr ysbyty plant am 01:25 ar 25 Mehefin, bedwar diwrnod ar 么l y digwyddiad.
Dioddefodd gyrrwr BMW gwyn a'i tarodd anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty yn ogystal 芒 theithiwr arall yn y car, a cherddwr arall a gafodd eu taro hefyd.
Dywedodd Swyddog y Crwner, Carrie Sheridan, fod Mabli wedi bod yn ei choets ar adeg y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd o flaen prif fynedfa'r ysbyty.
Mynegodd yr Uwch Grwner Dros Dro, Paul Bennett, ei gydymdeimlad i deulu Mabli.
'Cyfnod ofnadwy o boenus'
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Mae colli Mabli Cariad wedi newid ein bywydau am byth.
"Mae'r boen a'r galar rydyn ni'n teimlo yn amhosib disgrifio.
"Yn ystod y cyfnod ofnadwy o boenus yma, does dim ateb i'r cwestiwn canolog ynghylch colled ein babi prydferth.
"Pam bod hyn wedi digwydd?
"Rydym yn gobeithio y bydd agor y cwest ac ymdrechion Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi'r wybodaeth sydd ei angen i ateb y cwestiwn.
"Fel teulu rydym yn gobeithio y bydd y broses yn helpu i leihau'r risg o'r fath drychineb yn digwydd i eraill yn y dyfodol."
Cafodd y cwest ei ohirio nes 25 Ionawr, 2024, tra bod ymchwiliad llawn yn parhau.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
Dywedodd llefarydd bod "swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi'r teulu", ac nad oes unrhyw un wedi ei arestio mewn cysylltiad 芒'r ymchwiliad.