Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cabinet yn pleidleisio dros gau ysgol leiaf Gwynedd
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio dros gau ysgol leiaf y sir, sydd ag ond wyth o ddisgyblion.
Brynhawn Mawrth cyhoeddwyd rhybudd statudol swyddogol wedi i'r cabinet benderfynu'n unfrydol i fwrw ymlaen gyda'r cynllun i gau Ysgol Felinwnda.
Gydag ond wyth disgybl yn yr ysgol, bydd gan wrthwynebwyr fis i gofnodi eu gwrthwynebiad ffurfiol i benderfyniad Cyngor Gwynedd.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol yn yr hydref.
Gan fod yr ysgol 芒 llai na 10 o ddisgyblion, mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi nad oedd angen i'r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i'w chau.
Ond dywedodd cynghorydd lleol ei fod yn "siomedig" na chynhaliwyd ymgynghoriad i ystyried barn pobl leol.
Dewis ysgol newydd
Wedi ei lleoli ger pentrefi Saron a Dinas ar gyrion Caernarfon, bwriad Cyngor Gwynedd yw cau'r ysgol yn swyddogol ar 31 Rhagfyr 2023.
Byddai'r disgyblion presennol yn cael y dewis o drosglwyddo i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog.
Fel rhan o'r penderfyniad bydd y cyngor hefyd yn edrych ar newid dalgylchoedd rhai ysgolion cyfagos.
Mae nifer y disgyblion yn Ysgol Felinwnda wedi syrthio'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, o 31 yn 2012.
Erbyn Medi 2024, medd y cyngor, mae disgwyl i'r niferoedd syrthio ymhellach i bump ac yna i dri y flwyddyn wedyn.
Mae cost y pen pob disgybl, meddai'r awdurdod, yn 拢14,643 o'i chymharu 芒'r cyfartaledd sirol o 拢4,509.
'Colli bwrlwm'
Yn ymateb i adroddiad y cyngor dywedodd y cynghorydd lleol, Huw Rowlands: "Derbyniaf y gellir dilyn proses gynt er mwyn cau ysgolion sydd 芒 llai na 10 o blant, ond nid yw hyn yn rhwystro cynnal ymgynghoriad.
"Rwy'n parhau i fod yn bryderus ar effaith posibl cau'r ysgol ar Ganolfan Bro Llanwnda a Chylch Meithrin Llanwnda, ac felly ar y gymuned yn ehangach.
"Er bod Canolfan Bro Llanwnda yn sefyll ar ei thraed ei hun, gall colli bwrlwm ysgol drws nesaf leihau'r cyswllt cymunedol sydd wedi bodoli rhwng yr ysgol a'r ganolfan."
Er o'r farn fod Ysgol Felinwnda yn "darparu addysg dda, ac yn gaffaeliad i'r gymuned", fe dderbyniodd: "Does dim dadl nad yw niferoedd presennol disgyblion a rhagamcanion y dyfodol yn fregus.
"Rhaid derbyn fod penderfyniadau anodd weithiau i'w gwneud, ond hyderaf y bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried yn ddiffuant unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir fel rhan o'r broses honno."