成人快手

Cymro'n gweithio ar 'ddarganfyddiad gwyddonol mwya'r degawd'

  • Cyhoeddwyd
WilliamFfynhonnell y llun, William Lamb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae William yn fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Vanderbilt, Nashville

Yn dilyn pymtheng mlynedd o waith ymchwil, mae data gwyddonol wedi ei ddatgelu all newid y ffordd yr ydym ni'n credu bod y bydysawd yn gweithio.

Mae rhai yn honni ei fod yn 'agor drysau newydd i mewn i theoriau'r byd ffiseg', ac eraill, fel y blogiwr gwyddonol Hank Green, yn dweud nad oes darganfyddiad gwyddonol mor gyffrous a hyn wedi bod ers degawd.

Mae'n deg dweud bod y gwyddonwyr y tu 么l i'r llenni wedi cyffroi'n l芒n gyda'r newyddion, ac un ohonyn nhw yw'r Cymro o Benisarwaun, William Lamb, sy'n fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Vanderbilt yn Nashville.

Drwy hynny, mae wedi bod yn gweithio gyda chorff NANOGRAV (un o nifer o gyrff ar hyd a lled y byd sydd wedi bod yn casglu'r data) yn dadansoddi'r hyn y maen nhw wedi ei ddarganfod dros y pymtheng mlynedd diwethaf.

'Newid ein dealltwriaeth ni o sut mae galaethau yn cael eu ffurfio'

Eglurodd William ar raglen Dros Ginio:

"Da ni wedi defnyddio'r synhwyrydd mwyaf sydd erioed wedi cael ei adeiladu er mwyn trio cael hyd i'r tonnau disgyrchiol [gravitational waves] 'ma, gan ddefnyddio s锚r sydd wedi marw filiynau o flynyddoedd yn 么l, er mwyn trio cael hyd i s诺n y tyllau duon enfawr 'ma sydd yng nghanol pob galaeth dros y bydysawd i gyd"

Efallai mai dyma yw'r darn cyntaf o dystiolaeth sydd yn dangos bod tyllau duon yn amharu ar ofod ac amser wrth iddyn nhw wrthdaro'n erbyn ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, William Lamb

"Un o'r pethau fasa' fo'n gallu newid ydi ein dealltwriaeth ni o sut mae galaethau yn cael eu ffurfio dros amser, a sut mae'r bydysawd wedi cael ei strwythuro ers y glec fawr.

"Hefyd, ella am y tro cyntaf hefo'r signal yma, ella gawn ni weld echoes o'r glec fawr ei hun. Da ni erioed wedi gwneud hynna o'r blaen. Fatha rhan o fy mhrosiect PhD, dwi'n gobeithio trio cael hyd i 'rheina."

Gall hynny olygu bod theor茂au enwog gwyddonwyr fel Albert Einstein yn anghywir erbyn hyn.

'Mae'r tonnau yma'n rhan o'i ddamcaniaeth. Er enghraifft, gawn ni brofi pa mor sydyn mae'r tonnau yma yn symud. Da ni'n disgwyl iddyn nhw symud ar gyflymder golau, ond os ydyn nhw'n symud ychydig yn arafach na hynny, mi 'nawn ni weld patrwm bach yn ein signal ni yn y dyfodol pan da ni hefo lot mwy o ddata na hyn, a gawn ni weld pa mor gywir ydi o"

Awyr glir Eryri yn ei ddenu dros yr Iwerydd

Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien

Ond sut mae person ifanc o Benisarwaun wedi cyrraedd Nashville i astudio'r fath beth? Datgelodd mai ei gynefin oedd y dylanwad mwyaf arno pan yn ifanc.

"Wel, dwi'n dod o Benisarwaun, jest tu allan i Eryri. Oni'n gweld yr awyr yn y nos, pan doedd hi ddim yn gymylog, a gweld y s锚r. O'n i'n gwybod bo' fi isio astudio hynna yn y dyfodol.

"Ges i'r cyfle yma i ddod i Nashville, dwi'n gwrando ychydig ar 'country music' felly o'n i'n gwybod bod y lle yn bodoli. Nes i jest trio amdano fo a ges i le. Nes i symud yma tair blynedd yn 么l ac wedi mwynhau bod yma ers hynny."

Gwrandewch ar sgwrs William gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio yma.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig