Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd yn mynychu angladd Joshua Lloyd Roberts
Mae cannoedd wedi mynychu angladd dyn 19 oed o Gaernarfon a fu farw mewn gwrthdrawiad yn gynharach yn y mis.
Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Joshua Lloyd Roberts hefyd yn b锚l-droediwr dawnus.
Gyda'r hers yn cychwyn ei daith o'r Oval, sef cae p锚l-droed Caernarfon, roedd mynychwyr yn cael eu hannog i wisgo crysau p锚l-droed.
Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Llanbeblig y dref.
Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19, yn dilyn gwrthdrawiad ger Caeathro, Gwynedd ar 2 Mehefin.
Mae dyn 32 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ac wedi ei ryddhau ar fechn茂aeth.
Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Yn 么l ei deulu roedd Josh wastad 芒 "gw锚n ar ei wyneb"
Yn yr wythnos wedi ei farwolaeth roedd dros 600 o bobl yn bresennol mewn g锚m b锚l-droed yn Bontnewydd er cof iddo, gyda thudalen casglu arian hefyd wedi hel dros 拢20,000 i'w deulu.
Cafodd y cwest i'w farwolaeth ei ohirio wrth i ymchwiliad Heddlu'r Gogledd barhau.