Hwlffordd: Cludo plentyn i Gaerdydd wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae ambiwlans awyr wedi cludo plentyn i'r ysbyty yng Nghaerdydd yn dilyn gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty yn Sir Benfro.
Mae swyddogion heddlu yn parhau i fod yng nghyffiniau Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd, wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a cherddwyr am tua 11:50 fore Mercher.
Dywedodd y llu fod cerddwr, gyrrwr y car a theithiwr arall hefyd wedi'u cludo i'r ysbyty am driniaeth.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd presenoldeb heddlu y tu allan i'r ysbyty am sawl awr wrth i swyddogion ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
'Gwasanaethau fel arfer'
Cadarnhaodd Andrew Burns, cyfarwyddwr yr ysbyty, fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar dir Ysbyty Llwynhelyg.
"Mae gofal meddygol priodol yn cael ei roi i'r rhai a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad, a gofynnwn yn garedig i bobl beidio 芒 chysylltu 芒'r ysbyty am ragor o wybodaeth ar hyn o bryd," meddai.
"Mae gwasanaethau'n parhau i weithredu fel arfer yn Ysbyty Llwynhelyg heddiw.
"Os ydych yn mynychu apwyntiad claf allanol, efallai y byddwch yn profi peth oedi wrth barcio tra bod ymchwiliadau ar y gweill, ond disgwylir i hyn ddychwelyd i'r arfer maes o law.
"Sicrhewch eich bod yn cael mynediad at y gwasanaeth gofal iechyd sydd fwyaf priodol i'ch anghenion gan ein bod yn profi rhywfaint o bwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau gofal brys ar hyn o bryd."
Ychwanegodd y dylai pobl ond defnyddio'r adran ddamweiniau ac achosion brys os ydynt yn s芒l neu ag anaf difrifol.
"Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion yn briodol, rydym yn eich annog i ddewis eich gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn," meddai.