Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Miloedd yn dathlu yng ngorymdaith fwyaf Pride Cymru
Mae Pride Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cynnal eu gorymdaith fwyaf erioed ers dechrau'r digwyddiad 24 mlynedd yn 么l.
Am y tro cyntaf yn hanes yr 诺yl fydd holl berfformiadau'r penwythnos yn digwydd yng Nghastell Caerdydd - gan gynnwys perfformiadau drag, comedi a'r gantores Sophie Ellis Bextor.
Bydd hefyd tipyn o Gymraeg i'w chlywed ymysg yr holl adloniant ar lwyfan S4C yn y castell. Nos Sadwrn mae Tara Bandito ac Ellis Lloyd Jones yn perfformio ac yn cynnwys Cymraeg yn eu setiau.
Tra bod miloedd wedi dod i ddathlu'r gymuned LHDTC+ yn y brif ddinas ddydd Sadwrn dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod angen sicrhau bod digwyddiadau Pride yn digwydd ledled y wlad.
"Gwych dathlu trwy'r Gymraeg"
Yn 么l Ellis Lloyd Jones, sydd yn perfformio yn yr 诺yl, mae'r Gymraeg wedi bod ar goll o ddigwyddiadau Pride yn y gorffennol.
"Mae mor wych bod ni'n gallu dathlu rhywbeth fel hwn ond hefyd yn yr iaith Gymraeg."
"Pryd o'n i'n tyfu lan oedd dim lot o bethau fel hwn trwy'r iaith Gymraeg. O'n i'n teimlo bach yn unig yn y ffordd 'na."
Ar 么l i filoedd o bobl orymdeithio drwy ganol y ddinas mae'n dangos pa mor bell mae'r gymuned LHDTC+ wedi dod yng Nghymru.
Dywedodd yr actor Stifyn Parri: "Tan o'n i'n 26 oedd gennai ofn mynd i unrhyw far hoyw. Ac erbyn hyn mae'n edrych fel bod Cymru gyfan wedi dod heddiw i'n supportio ni."
"Mae'r holl beth wedi newid yn gyfan gwbl. Mae 'na lot o waith i'w wneud wrth gwrs. Yn anffodus iawn mae pobl dal yn cael eu lladd oherwydd eu bod nhw yn hoyw."
Mae'n debyg wnaeth dros 10,000 o bobl gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd. Dyma'r nifer fwyaf yn hanes Pride Cymru.
Roedd y dorf dros filltir a hanner o hyd, ac yn gorymdeithio am dros ddwy awr.
Yn 么l Dan Walsh cyfarwyddwr Pride Cymru mae'r niferoedd i'w croesawi.
"Mae'n hollol wych gweld fel mae'r digwyddiad wedi tyfu a faint o bobl sy'n cefnogi ac yn barod i ymgyrchu," dywedodd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Fel Llywodraeth ni'n hapus dros ben i ffeindio arian i helpu i gael pethau nid jest fan hyn yng Nghaerdydd neu Abertawe neu Casnewydd ond ledled Cymru mewn cymunedau fach hefyd.
"Ni ar llwybr nawr ar 么l llwyddo i neud pethau fan hyn i neud pethau o'r un fath ledled Cymru."
"Mae angen edrych ymlaen a neud mwy yn y dyfodol."