³ÉÈË¿ìÊÖ

Yma o Hyd: 'Peidiwch â'i defnyddio i brotestio ceiswyr lloches'

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd ar ddiwedd buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr WcrainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gân Yma o Hyd wedi dod yn gysylltiedig gyda thîm pêl-droed Cymru

Mae'r canwr Dafydd Iwan wedi gofyn i bobl beidio â defnyddio ei ganeuon er mwyn gwrthwynebu cartrefu ceiswyr lloches yng Nghymru.

Dywedodd ei fod wedi derbyn neges yn dweud fod y gân boblogaidd Yma o Hyd yn cael ei defnyddio gan grŵp asgell dde sy'n gwrthwynebu ceiswyr lloches.

Mewn neges ar y gwefannau cymdeithasol dywedodd: "Mae wedi dod i'm sylw fod Yma o Hyd yn cael ei defnyddio gan bobol sy'n gwrthwynebu rhoi cartref i geiswyr lloches. Os gwelwch yn dda, peidiwch!!"

Yn siarad ar y Post Prynhawn ddydd Llun ychwanegodd: "Mae'r gân yn cael ei defnyddio i bob math o bwrpasau ac wrth gwrs ma' hynny'n gallu bod yn 'chydig o bryder."

Ychwanegodd ei fod "wedi cael llawer yn cefnogi y ffaith bo' fi ddim eisiau'r gân i fod yn erbyn ceiswyr lloches".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Dafydd Iwan

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Dafydd Iwan

Dywedodd ei fod hefyd wedi cael neges ers hynny gan grŵp sy'n gwrthwynebu defnyddio Gwesty'r Strade yn Llanelli ar gyfer ceiswyr lloches.

Mae anghydfod ynghylch cynlluniau i gartrefu 300 o geiswyr lloches yn y gwesty.

Dywedodd Mr Iwan bod y grŵp wedi esbonio eu bod yn pryderu am swyddi yn y gwesty, ond eu bod o blaid cartrefu pobl mewn mannau eraill yn y sir.

"Dwi'n derbyn eu safbwynt nhw a dwi'n cefnogi eu safbwynt nhw... dwi'n deall y pryder ynglŷn â'r swyddi," meddai.

"Ond dydw i ddim eisiau neb o'r asgell dde i ddefnyddio Yma O Hyd i wrthwynebu ceiswyr lloches."

'Rhaid cael rheolaeth'

Yn trafod ymhellach y gwrthwynebiad i'r cynllun yn Llanelli dywedodd: "Roedden nhw'n ymddiheuro eu bod nhw ddim wedi gofyn caniatâd ond ar ôl gweld eu safbwynt nhw 'oedden nhw'n defnyddio hi am y rhesymau cywir.

"Ond fel maen nhw ac eraill yn dweud, beth sy'n digwydd mewn achosion fel hyn yw bod grwpiau o'r chwith a'r dde... yn defnyddio amgylchiadau fel hyn, yn defnyddio protest fel hyn er mwyn gwrthwynebu ceiswyr lloches.

"Hynny yw pobl sy'n tueddu tuag at safbwynt ffasgaidd a hiliol a dwi ddim eisiau dim byd i wneud 'efo pobl felly.

"Wrth gwrs dwi'n falch bod y gân yn cael ei defnyddio ond mae'n rhaid cael rhyw reolaeth dros ei defnydd hi."

Pynciau cysylltiedig