'Angen gwneud mwy' i gyrraedd targedau sero net
- Cyhoeddwyd
O osod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan i blannu coed, dyw Cymru ddim yn gweithredu'n ddigon cyflym i dorri allyriadau t欧 gwydr.
Dyna'r rhybudd mewn adroddiad sylweddol sy'n cyhuddo Llywodraeth Bae Caerdydd o ddiffyg ymdrech.
Dywedodd y Climate Change Committee (CCC), sy'n cynghori gweinidogion, nad oedd digon yn cael ei gyflawni mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn cydnabod yr angen i wneud mwy er mwyn cyrraedd targedau heriol yn y dyfodol.
Mae gan Gymru, fel y DU, darged cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050 - sy'n golygu torri allyriadau t欧 gwydr yn ddramatig fel nad yw'r wlad yn cyfrannu bellach at gynhesu byd eang.
Yn eu hadroddiad cyntaf yn asesu sut mae Cymru'n ei wneud ers 2020 mae'r CCC yn rhybuddio nad yw llywodraeth Bae Caerdydd yn symud yn ddigon cyflym i ddatblygu isadeiledd pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.
Gydag ond 282 o bwyntiau gwefru cyflym cyhoeddus, mae Cymru "yn bell o fod ar y trywydd iawn" yn 么l yr adroddiad, ac ar ei hol hi o'i gymharu 芒 Lloegr a'r Alban.
Dywedodd y CCC fod lefelau plannu coed ac adfer mawndiroedd hefyd yn "rhy isel o lawer".
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn methu a chyrraedd ei tharged ei hun o greu 2000 hectar newydd o goetir y flwyddyn ar hyn o bryd - nod oedd yn "llai uchelgeisiol" na'r hyn fyddai'r CCC yn dymuno ei weld.
Mae'r corff hefyd yn cwyno am "ddiffyg cyrhaeddiad" wrth dorri allyriadau o amaethyddiaeth a defnydd tir, gyda Chymru'n dal i fethu "strategaeth gyfun ar gyfer y sectorau hyn".
'Methu targedau'r dyfodol'
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfres o gyllidebau carbon bob pum mlynedd, gan leihau yn raddol ar gyfanswm y nwyon mae Cymru'n eu allyrru i'r atmosffer ar y daith i sero net.
Cafodd y targedau ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf rhwng 2016-2020 eu cyrraedd, gyda thoriadau mewn allyriadau o ffynonellau ynni a diwydiannau yn bennaf gyfrifol am hynny - gan gynnwys cau pwerdy glo ola' Cymru yn Aberddawan, Bro Morgannwg yn 2019.
Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio y bydd Cymru yn methu targedau'r dyfodol heb waith ar frys i gyflymu ymdrechion i ddatgarboneiddio ar draws pob rhan o'r economi.
I roi syniad i chi o fawredd y dasg - mae angen gweld cwymp o 39% mewn allyriadau o'u cymharu 芒'r lefel cyn y pandemig yn ystod y 5 mlynedd nesa er mwyn sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir.
Mae'r adroddiad si诺r o fod yn anodd ei ddarllen i weinidogion Llywodraeth Cymru, sydd yn ddiweddar wedi comisiynu gr诺p o arbenigwyr i ymchwilio i ffyrdd o gyrraedd sero net hyd yn oed yn gynt - erbyn 2035 - fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.
"Diffyg gweithredu"
Dywedodd Chris Stark, prif weithredwr y CCC bod yna "fwlch" yn datblygu rhwng uchelgais a gweithredu yng Nghymru.
"Yn y gorffennol fe fydden ni wedi s么n am sut mae Cymru yn un o'r llefydd gorau yn y DU am ailgylchu - ry'n ni wedi trio canmol," meddai.
"Ond nawr wrth i ni edrych at y dyfodol dyw hynny ddim yn mynd i fod yn ddigon.
"Yn y meysydd rheini lle mae ganddyn nhw'r grymoedd dy'n ni just ddim yn gweld gweinidogion Llywodraeth Cymru yn mynd a'r maen i'r wal a rhoi'r polis茂au yn eu lle fydd yn golygu bod y targedau cyfreithiol yn cael eu cyrraedd."
Mae'r adroddiad yn egluro hefyd bod 'na risg i ymdrechion Cymru i ddatgarboneiddio o ganlyniad i "ddiffyg gweithredu ar lefel Llywodraeth y DU."
Mae hyn yn cynnwys meysydd fel cynhyrchu dur gyda'r gweithfeydd ym Mhort Talbot - un o'r safleoedd sy'n allyrru'r mwyaf o garbon deuocsid drwy Brydain - yn dal i aros am gytundeb ariannol gyda gweinidogion yn San Steffan i'w helpu i addasu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu'r adroddiad ac y byddai'n "ystyried y casgliadau'n ofalus" cyn cyhoeddi ymateb llawn.
"Pan wnaethon ni gyhoeddi ein Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Carbon 1 ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni bwysleisio ein bod ni wedi llwyddo byw o fewn i'n cyllideb carbon ac wedi cyrraedd ein targed interim ar gyfer 2020," meddai llefarydd.
"Fe wnaethon ni gydnabod hefyd yr angen i wneud mwy - ni ac eraill - er mwyn cyrraedd targedau heriol y dyfodol.
"Mae'r CCC wedi tanlinellu y camau pellach ry'n ni'n eu cymryd, fel ein hadolygiad ffyrdd diweddar, ond hefyd lle allwn ni fod yn gwneud mwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023