Ap锚l heddlu wedi gwrthdrawiad ger Llanuwchllyn
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu'r Gogledd bod dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Stoke wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Llanuwchllyn brynhawn Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw oddeutu 1210 wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur BMW gwyn a fan Mercedes Vito arian.
Mae gan y dyn anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.
Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd yr A494 rhwng Dolgellau a'r Bala ac a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu 芒'r heddlu.
"Roedd y beiciwr modur yn teithio fel rhan o gr诺p o ddeg ar hyd ffordd yr A494 o Ddolgellau i'r Bala.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd 芒 lluniau dashcam o un o'r cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu 芒 ni."
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon ambiwlans, cerbyd ymateb brys a'u bod wedi cael cymorth Ambiwlans Awyr Cymru.