成人快手

Ad-daliad o 拢10 i gwsmeriaid D诺r Cymru ar 么l gwall data

  • Cyhoeddwyd
tapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ofwat wedi lansio ymchwiliad i'r camgymeriadau data

Bydd cwsmeriaid D诺r Cymru yn derbyn ad-daliad o 拢10 ar eu bil nesaf wedi i'r cwmni gyfaddef iddo wneud camgymeriadau wrth adrodd data yngl欧n 芒 gollyngiadau a defnydd d诺r.

Mae Ofwat - sy'n rheoleiddio'r diwydiant d诺r - wedi lansio ymchwiliad, ar 么l i'r cwmni eu hysbysu nhw o'r sefyllfa.

Mae prif weithredwr D诺r Cymru wedi ymddiheuro a dweud ei fod yn "siomedig fod hyn wedi digwydd".

Roedd adolygiad mewnol wedi darganfod "diffygion" o ran prosesau goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth yn ymwneud ag adrodd data.

Darganfuwyd bod gollyngiadau d诺r o isadeiledd y cwmni yn digwydd ar lefel "uwch nag a nodwyd yn wreiddiol", tra bod ffigyrau yngl欧n 芒 defnydd cwsmeriaid o dd诺r yn is.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y sychder yn amlwg ledled Cymru yn haf 2022, fel yma yng Nghronfa Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog

Daw hyn ddyddiau wedi i D诺r Cymru, ar y cyd 芒 Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau amgylcheddol, annog y cyhoedd i fod yn gall wrth ddefnyddio d诺r, er mwyn osgoi ailadrodd cyfyngiadau sychder haf y llynedd eto yn y dyfodol.

Dywedodd Ofwat eu bod wedi lansio ymchwiliad gorfodaeth, yn ymwneud 芒 chywirdeb y wybodaeth a adroddwyd gan y cwmni.

Mae'r rheoleiddiwr yn gosod targedau perfformiad ar gyfer pob cwmni d诺r yn ymwneud 芒 gollyngiadau, a defnydd d诺r fesul cwsmer.

Mae'r cwmn茂au'n cael eu hasesu yn unol 芒'r targedau yma yn flynyddol ac yn gallu cael eu cosbi neu eu gwobrwyo ar sail eu perfformiad.

Dywedodd David Black, prif weithredwr Ofwat, y byddai'r ymchwiliad yn ystyried "yr amodau arweiniodd at y cwmni'n adrodd perfformiad anghywir, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael 芒'r ffaeleddau".

"Ry'n ni'n cydnabod i D诺r Cymru ddod aton ni pan sylweddolon nhw'r problemau gyda chywirdeb eu data," ychwanegodd.

Pryd gai'r 拢10?

Bydd pob cwsmer oedd 芒 chyfrif byw gyda D诺r Cymru ar 31 Mawrth 2023 yn derbyn 拢10 o ad-daliad.

Dywedodd y cwmni bod trefnu taliad o'r fath ar gyfer pob cartref a busnes yn "her sylweddol" ond mai'r bwriad oedd sicrhau bod pawb wedi'i dderbyn o fewn y chwe mis nesaf.

Byddai cwsmeriaid yn gweld y 拢10 oddi ar eu bil nesaf.

Os oes gennych chi fesurydd d诺r, yna fe fydd hyn yn ymddangos o fewn chwe mis.

Os nad oes gennych chi fesurydd d诺r yna fe fydd yn ymddangos ar y bil ry'ch chi'n ei dderbyn ym mis Chwefror/Mawrth 2024.

Dywedodd D诺r Cymru bod eu prosesau sicrwydd mewnol wedi datgelu'r pryderon yn wreiddiol a bod y rhain wedi cael eu "hadolygu'n llawn dros y 15 mis diwethaf gyda chymorth arbenigwyr annibynnol".

Cyfanswm y gollyngiadau ar gyfer 2021/22 oedd 240.3 miliwn litr y diwrnod o gymharu 芒'r 157.4 miliwn litr y diwrnod a nodwyd yn wreiddiol.

Mae hyn gyfwerth 芒 8.6m3 y km o brif bibellau y dydd, gyda ffigyrau cwmn茂au eraill yn amrywio o rhwng 4.5m3/km/dydd (Anglian Water) ac 18.7 m3/km/d (Thames Water).

Fe ostyngodd y ffigyrau o ran defnydd d诺r y pen o 174.7 o litrau y dydd yn y data gwreiddiol i 154.8 o litrau y dydd.

Mae ffigyrau ar gyfer cwmn茂au eraill yn amrywio o 131.5 o litrau y dydd (Yorkshire Water) i 160.3 o litrau y dydd (Portsmouth Water), gan olygu bod D诺r Cymru ymysg y cwmniau a'r ffigyrau uchaf o ran faint mae cwsmeriaid yn ei ddefnyddio bob dydd.

Mae'r cwmni wedi cyhoeddi 拢54m yn ychwanegol o fuddsoddiad i daclo gollyngiadau, gan gynyddu'r cyfanswm y mae'n ei wario rhwng 2020 a 2025 ar hyn i 拢284m.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Peter Perry fod y cwmni wedi gwneud y 'newidiadau angenrheidiol'

Dywedodd Peter Perry, prif weithredwr D诺r Cymru, er taw nhw wnaeth ganfod y broblem, yn y pen draw roedd yn cydnabod fod "yna ddiffygion yn ein prosesau goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth a ganiataodd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf".

"Rydyn ni wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol o ran ein dulliau o adrodd ar ollyngiadau, ac wedi cau'r bylchau yn ein prosesau adrodd a llywodraethu," meddai.

Yn 么l Emma Clancy, prif weithredwr Cyngor Defnyddwyr D诺r (CCW) y byddai'r "ad-daliad o 拢10 yn mynd beth o'r ffordd tuag at dawelu meddyliau cwsmeriaid fod D诺r Cymru yn difaru'r difrod y bydd hyn wedi achosi i ymddiriedaeth pobl" yn y cwmni.

"Mae'n gysur hefyd gweld i'r cwmni adnabod y problemau yma eu hunain drwy eu prosesau sicrwydd," meddai.

"Bydd cwsmeriaid yn awyddus i weld y cwmni yn cymryd y camau cywir i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

"Mae'n ymchwil ni yn dangos bod gollyngiadau o gwmn茂au d诺r yn effeithio ar y gallu i ysgogi cwsmeriaid i arbed d诺r."

Pynciau cysylltiedig