Biliau ynni i gartrefi arferol i ostwng o tua 拢426 y flwyddyn

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i brisiau ynni ostwng ym mis Gorffennaf

Fe fydd biliau ynni yn gostwng yn sylweddol o fis Gorffennaf ar 么l i'r rheoleiddiwr Ofgem gyhoeddi cap newydd.

Fe fydd y bil cyfartalog yn gostwng i 拢2,074 y flwyddyn ar gyfer y cartref arferol - gostyngiad o 拢426.

Bydd y cyhoeddiad hefyd yn debygol o ddod 芒 threfniadau presennol Llywodraeth y DU sy'n gwarantu pris uchafswm ar ynni i ben.

Fe allai hynny olygu fod cystadleuaeth yn dychwelyd i'r farchnad ynni gyda chyfle i bobl chwilio am y fargen orau.

Ond mae 'na rybudd y bydd prisiau'n dal i fod yn weddol uchel a hynny am beth amser.

Ers mis Hydref, mae bil cyfartalog ynni cartrefi wedi bod yn 拢2,500, ond fe fydd hyn yn dod i ben ddiwedd Mehefin.

Fe gafodd pob cartref 拢400 oddi ar eu biliau yn ystod y gaeaf, gan y llywodraeth, ond fe ddaeth hynny i ben fis Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd pennaeth Ofgem, y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant ynni, fod y cyhoeddiad yn newyddion da ond y bydd prisiau'n parhau yn weddol uchel ac yn debygol o aros fel hynny am beth amser.

"Yn y tymor canolig, mae'n annhebygol y byddwn ni'n gweld prisiau'n dychwelyd i'r lefelau y gwelon ni cyn yr argyfwng ynni," dywedodd Jonathan Brearley.

Fe wnaeth Mr Brearley annog pobl i gysylltu 芒'u darparwyr am gefnogaeth os oes angen.

Ychwanegodd fod Ofgem yn "obeithiol iawn" y bydd cwmn茂au ynni yn gallu ailgyflwyno bargeinion fel y gall "cwsmeriaid gael bargen well na'r cap ynni".

Mae rhai arbenigwyr yn dweud y gallai gymryd peth amser i gwmn茂au ryddhau manylion unrhyw fargeinion newydd.