Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwahodd Eisteddfod yr Urdd i Ynys M么n yn 2026
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, 成人快手 Cymru Fyw
Bydd Ynys M么n yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ynys yn 2026.
Yn ystod cyfarfod llawn o'r cyngor sir ddydd Mawrth, cafodd cynnig gan yr arweinydd i wahodd yr 诺yl ei basio'n unfrydol.
Y tro diwethaf i'r 诺yl ymweld 芒'r ynys oedd 2004 pan fynychodd 106,000 o bobl faes Sioe M么n ger Gwalchmai.
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae'r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid drwy Ewrop a does unman gwell na M么n er mwyn llwyfannu digwyddiad Cymreig i bobl ifanc Cymru."
Fis diwethaf daeth cadarnhad fod Eisteddfod yr Urdd 2025 i'w chynnal ym Mharc Margam, Port Talbot gyda Meifod, Powys yn gartref i'r 诺yl yn 2024.
Dywedodd Llinos Medi, arweinydd y cyngor sir, fod croesawu'r 诺yl ieuenctid am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd yn gyfle gwych i'r ynys.
"Mae hwn yn fater 'da ni wedi ei drafod yn fewnol ers dipyn ond mae Covid wedi drysu," meddai wrth Cymru Fyw.
"Tydi hi heb fod yma ers rhai blynyddoedd bellach a 'da ni isho ffurfioli'r gwahoddiad.
"Dwi wir yn gobeithio fydd y cynghorwyr i gyd yn gefnogol achos mae denu un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop yn bwysig iawn i ni a hefo'r Urdd yn llwyddiannus yma.
"Mae Cymreictod hefyd yn bwysig iawn i ni a dwi'n gobeithio'n fawr fydd y bleidlais yn gadarnhaol."
Gyda maes 'y Primin' yn safle pwrpasol i'r sioe amaethyddol flynyddol ym Mona, mae dyddiad y sioe ar ddechrau Awst wedi bod yn rhwystr rhag cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn y gorffennol.
Ond dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi nad oes unrhyw drafodaethau wedi bod am y lleoliad eto.
"Mae'n rhy gynnar ar y funud, gan obeithio r诺an fydd ein cais ffurfiol yn mynd i mewn, wedyn fydd angen cyfarfod cyhoeddus i weld faint o bobl yr ynys sydd yn barod i gefnogi a chasglu arian.
"Ar 么l hynny fydd y trafodaethau am unrhyw leoliad yn digwydd."