Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.
Datgelwyd y rhestr Cymraeg, sy'n cynnwys 12 o lyfrau mewn pedwar categori, ar raglen Ffion Dafis ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru brynhawn Sul.
Am y tro cyntaf ers 2019 bydd seremoni fyw yn cael ei chynnal i gyhoeddi'r enillydd eleni, a hynny yn y Tramshed yng Nghaerdydd nos Iau, 13 Gorffennaf.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, tra bod enillydd y brif wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol a thlws Llyfr y Flwyddyn, wedi'i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.
'Dangos mor fyw yw'r Gymraeg'
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r bardd a Meuryn Talwrn y Beirdd ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru Ceri Wyn Jones, yr awdur ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter, y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam, ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a'r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones.
Dywedodd Ceri Wyn Jones ar ran y panel: "Wedi misoedd o ddarllen a phwyso a mesur, mae mor braf medru rhannu'r rhestr hon o lyfrau â'r cyhoedd.
"Rhestr sy'n dangos unwaith eto mor fyw yw'r Gymraeg fel iaith greadigol ac mor barod yw hi, yn ei hamrywiol ffurfiau, i fentro i fannau newydd, yn ogystal ag ailymweld â'r mannau oesol."
Rhestr Fer Gymraeg 2023
Y Wobr Farddoniaeth
Tosturi, Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)
Y Lôn Hir Iawn, Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Sgen i'm Syniad - Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)
Cylchu Cymru, Gareth Evans Jones (Y Lolfa)Â
Cerdded y Caeau, Rhian Parry (Y Lolfa)
Gwobr Ffuglen
Pumed Gainc y Mabinogi, Peredur Glyn (Y Lolfa)
Rhyngom, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)
Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Plant a Phobl IfancÂ
Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)Â
Byd Bach Dy Hun, Sioned Medi Evans (Y Lolfa)
Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Cyhoeddwyd y rhestr fer Saesneg ddydd Sul hefyd, a hynny ar raglen Lynn Bowles ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales.
Ar y panel beirniadu Saesneg mae'r awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA Emily Burnett, yr awdur a'r athro Emma Smith-Barton, y bardd a'r golygydd Kristian Evans, a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn Mike Parker.
Rhestr Fer Saesneg 2023
Y Wobr Farddoniaeth
As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd) Â
The language of bees, Rae Howells (Parthian Books)Â
A Marginal Sea, Zoë Skoulding (Carcanet Press) Â
Gwobr Ffeithiol GreadigolÂ
And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books) Â
The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives, Jude Rogers (Weidenfeld and Nicolson) Â
Original Sins, Matt Rowland-Hill (Chatto & Windus) Â
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
This Is Not Who We Are, Sophie Buchaillard (Seren Poetry Wales Press Ltd)
Fannie, Rebecca F. John (Honno Ltd.)Â Â
Drift, Caryl Lewis (Doubleday - Transworld, Penguin Random House) Â
Gwobr Plant a Phobl IfancÂ
The Mab, Various Authors (Unbound)Â Â
The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children's) Â
When the War Came ³ÉÈË¿ìÊÖ, Lesley Parr (Bloomsbury Children's Books)
Mae Llenyddiaeth Cymru - y cwmni cenedlaethol â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth - wedi cynnal Gwobr Llyfr y Flwyddyn ers 2004.
Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr ym mhob categori a prif enillydd, cyhoeddir pa lyfrau sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd trwy ddatgelu enillwyr Barn y Bobl Golwg360 a Wales Arts Review.
Yn ôl cyfarwyddwr gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: "Fel un o uchafbwyntiau'r calendr llenyddol yng Nghymru, pleser o'r mwyaf yw cael cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn a dathlu amrywiaeth a chyfoeth ein llên.
"Mae rhai wythnosau tan y cawn glywed pwy sy'n cipio'r prif wobrau eleni, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y cyfrolau arbennig hyn, a lle bynnag y byddwch chi - mewn llyfrgell, yn y swyddfa, wrth giatiau'r ysgol - trafodwch nhw, dathlwch nhw, ac anogwch eraill i wneud yr un peth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021