Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dementia: 'Byth yn holi am y merched a'r wyrion nawr'
- Awdur, Sara Down-Roberts
- Swydd, 成人快手 Cymru Fyw
"Mae cymdeithas a chefnogaeth mor bwysig i deuluoedd dementia," medd gweinidog o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n gofalu am ei wraig.
Daw sylwadau y Parchedig Hywel Wyn Richards wrth i Undeb yr Annibynwyr arwain ymgyrch i wneud "eu heglwysi yn rhai dementia-gyfeillgar" ac ar ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Mae 'Heulwen Dan Gymylau' yn addysgu aelodau a swyddogion eglwysi am dementia, yn cynghori teuluoedd ynghylch y cymorth sydd ar gael ac yn annog cydweithio gyda mudiadau ac enwadau eraill.
Cafodd Dilys Richards ddiagnosis o gyflwr Alzheimers yn 2020.
Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg mae'r Parchedig Hywel Wyn Richards yn rhannu ei brofiad ac yn disgrifio sut mae cof a chyflwr ei wraig yn dirywio'n raddol.
"Mae Dilys wedi cyrraedd y pwynt dyw hi ddim yn gallu 'neud dim dros ei hun - dim byd o gwbl," meddai.
"Ni'n trio cario ymlaen 芒 bywyd fel o'n ni a'i chynnwys hi ym mhopeth. Fydd hi ddim yn ymateb. Does dim sgwrs o gwbl bellach.
"Fydd hi byth yn gofyn am y merched a'r wyrion nawr. O'dd 'na gyfnod y byddai hi'n codi llaw ar luniau o'r wyrion cyn noswylio ond mae hynna wedi mynd yn llwyr.
"Does dim diddordeb o gwbl ynddyn nhw nac yn eu bywyd.
"Yn rhyfedd iawn fydd hi byth yn s么n am y teulu o gwbl, byth yn holi am ei chwaer na'i brawd.
"Mae'n 'nabod nhw'n iawn ond does dim sgwrs o gwbl."
Wrth i nifer y rhai sy'n byw 芒 dementia gynyddu mae Undeb yr Annibynwyr yn credu bod eglwysi mewn sefyllfa gref i gynnig cefnogaeth werthfawr i ddioddefwyr ac i'w teuluoedd a'u gofalwyr.
Ymhlith y syniadau mae cynnig man cyfarfod diogel i gynnal gweithgareddau amrywiol fel awr grefftau, caffi cof, sesiwn gerddorol neu chwarae gemau.
Syniad arall yw ffurfio rota wythnosol i warchod am awr neu ddwy neu i sgwrsio ar ben arall y ff么n.
"Gall ein hoedfaon presennol fod yn gysur fel man cyfarwydd a chynnes i rai sydd 芒 brith gof am ganu emynau a chlywed adnodau," medd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Dyfrig Rees.
"Hyd yn oed os yw'r cof diweddar yn dirywio, gall fod teimladau cynnes yn parhau am brofiadau melys o'r gorffennol mewn oedfaon a chyfarfodydd cymdeithasol o fewn muriau'r capel neu'r festri.
"Efallai bod tuedd i rai gadw draw o'r oedfaon, ond rhaid pwysleisio na ddylai dementia fod yn rhwystr i bobl fedru dod i addoliad.
"Dylem eu croesawu a llunio oedfaon arbennig ar eu cyfer lle bo angen."
'Colli cwmn茂aeth'
Mae cael cefnogaeth yn bwysig i ofalwyr yn ogystal ag i'r rheiny sydd 芒'r cyflwr, ychwanega'r Parchedig Hywel Wyn Richards.
"Mae 'na ddyddiau lle fi'n treulio lot o amser yn y stydi achos fanno mae Duw yn byw yn ein t欧 ni - ond yr un person yw Dilys, wrth gwrs, ac mae angen gweld y tu 么l i'r wyneb o hyd.
"Dyna sy'n anodd ar adegau. Yr arswyd [i mi] yw bod Dilys yn gaeth yn ei chorff ei hun - yn methu mynegi ei hun.
"I fi, dwi wedi colli'r gwmn茂aeth. Fyddai Dilys a fi yn treulio oriau yng nghwmni ein gilydd heb ddweud gair - o'n ni'n deall ein gilydd.
"Erbyn hyn, dwi'n teimlo bod rhaid i fi drio cael sgwrs 芒 hi. Fi sy'n ei chael hi'n anodd dygymod 芒'r sefyllfa.
"Ni'n trio cario 'mlaen gyda'r un math o batrwm. Ma' cinio dydd Sul a ni'n gweud pader WD gyda'n gilydd ond fi'n sylwi nawr dyw hi ddim yn cydio yn yr englyn cystal."
Mae Mr Richards yn pwysleisio bod cael cymdeithas yn eithriadol o bwysig er bod hi'n anodd i bobl ymateb weithiau.
"Mae'r teulu yma yn Y Tabernacl ym Mhen-y-bont yn bwysig eithriadol ac yn gonsyrnol ond mae'n anodd iddyn nhw hefyd.
"Ni'n mynd i'r cwrdd bob bore Sul. Ar ddiwedd oedfa bydd y rhan fwyaf yn cyfarch Dilys ac yn gofyn iddi 'shwmae' ond fydd hi byth yn gofyn 'shwt y'ch chi'.
"Ydy mae'r gymdeithas mor bwysig - ma' dyn yn gwybod ei bod yno.
"Mae'n amlwg bod dementia ar gynnydd. Mae'n dangos ei hun mewn lot o wahanol ffyrdd ac mae angen bod yn effro i hynny hefyd."
Mae modd clywed y cyfweliad yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul ac yna ar 成人快手 Sounds.