Ar drywydd hanes coll Deiseb Heddwch Menywod Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi ei disgrifio fel stori ryfeddol ac ysbrydoledig - un a fu'n gudd am ddegawdau, cyn cael ei hail-ddarganfod drwy hap a damwain.
Union ganrif yn 么l yng Nghymru, cafodd deiseb heddwch ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod, yn galw ar fenywod yr Unol Daleithiau i roi pwysau ar eu llywodraeth i ymuno 芒 Chynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig.
Roedd erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw yn y cof, ac roedd hon yn ap锚l o'r galon er mwyn rhoi terfyn ar dywallt gwaed.
Bu'n ymgyrch enfawr mewn oes lle nad oedd cyfleustra'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol yn bod. Casglwyd enwau o ddrws i ddrws ymhob tywydd a phob cwr o'r wlad, a chafodd y ddeiseb ei gosod mewn cist fawr dderw i'w chludo ar draws m么r Iwerydd i'r Unol Daleithiau. Yno, cafodd ei chyflwyno i fenywod y wlad a'r Arlywydd ar y pryd, Calvin Coolidge.
Mynd yn angof
Ond dros y degawdau aeth y ddeiseb 芒'i 390,296 o lofnodion yn angof, ac ar 成人快手 Radio Cymru am 4 o'r gloch brynhawn ddydd Sul 7 Mai, byddaf yn cyflwyno rhaglen arbennig - Deiseb Heddwch Menywod Cymru - yn olrhain y stori hynod hon, gan ofyn pwy oedd y tu cefn i'r ymgyrch yn 1923, pam yr aeth hi'n angof, a sut ddaeth yr hanes yn 么l i sylw'r byd?
Er fy mod wedi clywed s么n am y ddeiseb ychydig flynyddoedd yn 么l, doeddwn i ddim wedi gwerthfawrogi rhyfeddod y stori.
Ar hap y cafodd y ddeiseb ei hailddarganfod. Daeth y cliw cyntaf yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 2014, pan aed ati i chwilio am ddeunydd ar gyfer prosiect Cymru Dros Heddwch yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.
Yng nghanol y cyfrolau archif yn Siambr y Cyngor, daethpwyd o hyd i rwymyn lledr gyda geiriau mewn aur wedi eu hargraffu arno: "Yr Ap锚l. Oddi wrth ferched Cymru a Mynwy at Ferched Unol Daleithiau yr America."
Yn y rhwymyn, roedd datganiad mewn llawysgrifen gain - datganiad o Heddwch ac Undod rhwng merched Cymru ac America - yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno ac ymgymryd 芒 r么l ryngwladol-flaenllaw yng Nghynghrair y Cenhedloedd i sicrhau 'heddwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol' yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond prin iawn oedd y wybodaeth am gefndir y ddogfen ac fe arweiniodd hynny at waith ditectif a helfa drysor sydd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi datgelu hanes ysbrydoledig.
Yn y rhaglen Deiseb Heddwch Menywod Cymru, fe glywaf am y menywod ddaeth at ei gilydd yn Aberystwyth ym mis Mai 1923 i lansio'r ap锚l, i lunio'r datganiad a threfnu'r ddeiseb. Bydda i'n clywed hefyd am y gwaith diflino fu i gasglu llofnodion menywod dros 18 oed, o bob cefndir a modd.
Yn Siambr Cyngor y Deml Heddwch, bydda i'n cael gweld y rhwymyn lledr oedd yn glawr i'r ap锚l a hynny yng nghwmni Jill Evans, y cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd a'r ymgyrchydd heddwch.
Byddaf yn siarad 芒'r awdur a'r ymgyrchydd Meg Elis, am ei mam-gu Annie-Jane Hughes-Griffiths - un o'r cenadesau heddwch aeth 芒'r ddeiseb draw i'r Unol Daleithiau - a pham nad oedd hithau hyd yn oed yn ymwybodol o lawer o'r hanes tan yn ddiweddar.
Fe glywaf am yr ysbrydoliaeth i ffurfio gr诺p Heddwch Nain Mam-gu, fu'n gyfrifol am lawer o'r gwaith ditectif i ddatrys dirgelwch lleoliad y ddeiseb.
Bydd Wynford Jones yn datgelu sut ddaeth o hyd i dderbynneb yn nodi bod y gist a'r ddeiseb wedi mynd i un o amgueddfeydd Sefydliad y Smithsonian, a bydda i'n siarad gydag Ann Griffith a gafodd y gwaith o wirio a oedd y trysor coll yn dal i fodoli yn eu casgliadau yn Washington DC.
A bydd y prifardd Mererid Hopwood - Cadeirydd yr Academi Heddwch - yn s么n am y wefr o gael y darn pwysig hwn o hanes yn 么l i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Sut nad o'n ni'n gwybod am hyn?"
Mae'n hanes cyfareddol, ond mae sawl un wedi gofyn yr un cwestiwn 芒 fi: "Sut nad o'n i'n gwybod am hyn?"
Tra bo hynny i raddau'n parhau'n dipyn o ddirgelwch, mae un peth yn sicr, dyw'r stori ddim ar ben. Megis dechrau mae'r gwaith o fynd drwy bentyrrau tudalennau'r ddeiseb, a fyddai - mae'n debyg - yn ymestyn rhyw saith milltir o'u gosod mewn rhes.
Trwy hynny, o bosib, daw hanes eto'n fyw. Y tu 么l i bob un enw ar y ddeiseb, mae 'na stori bersonol, a phan fydd y gwaith o drawsgrifio a digido'r enwau wedi ei gwblhau, bydd modd i bob un ohonon ni chwilio am ein perthnasau a'n cysylltiadau, boed yn fam-gu, yn nain, yn hen-fodryb.
Pwy a 诺yr pa straeon ddaw'n fyw?
Mae'r gwaith ditectif yn parhau.
Hefyd o ddiddordeb: