Pobl Llanfrothen yn galw ar fragdy i ailagor tafarn 'Y Ring'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi ei lansio mewn ymgais i ailagor tafarn poblogaidd yng Ngwynedd sydd wedi bod ar gau ers mis Hydref y llynedd.
Mae'r Brondanw Arms - neu'r 'Ring' fel mae'n cael ei adnabod yn lleol - wedi bod yn rhan o gymuned Llanfrothen ers yr 17eg ganrif.
Ond mae pryderon o'r newydd am ei ddyfodol.
Mae gr诺p ymgyrchu yn gofyn ar y bragdy sy'n rhedeg y dafarn i'w ailagor neu ryddhau'r les er budd y gymuned.
Yn 么l bragdy Robinsons, sy'n berchen ar y brydles ers 1986, mae ymdrechion i geisio sicrhau tenant newydd yn parhau.
'Anfodlonrwydd yn lleol'
Oni bai am gyfnod Covid, y gred ydy mai dyma'r cyfnod hiraf yn ei hanes i'r dafarn fod ar gau.
Yn 么l Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanfrothen, mae'r dafarn wastad wedi bod yn un poblogaidd ac mae bod ar gau yn golled i'r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Povey wrth Cymru Fyw: "Robinsons sydd bia'r les ar y Brondanw, ond y Ring mae pobl leol yn ei alw bob amser.
"Mae 'na lot o anfodlonrwydd yn lleol, mae'r lle wedi cau r诺an ers misoedd.
"Erbyn hyn mae'r lle yn dadfeilio rhywfaint ac mae o angen gwaith i'w dacluso."
Dros y Sul fe ddechreuodd bosteri ymddangos ar yr adeilad yn galw ar y bragdy i ryddhau'r les.
Ers hynny , a hyd yn hyn mae dros 600 o bobl wedi'i harwyddo.
Ychwanegodd Nia Povey fod pryderon wedi bod am ddyfodol y dafarn hyd yn oed cyn i'r tenantiaid diweddaraf adael y llynedd.
"Mae 'na sefyllfa r诺an lle mae pobl yn trio rhoi pwysau ar Robinsons," meddai.
"'Da ni fel cyngor cymuned wedi siarad hefo [yr Aelod Senedd] Mabon ap Gwynfor, ond ymddengys nad ydy Robinsons yn fodlon gwerthu'r brydles.
"Dwi'n credu fod y cyfnod les bresennol yn mynd tan 2052.
"Ond mae pobl yn siomedig iawn fod y dafarn wedi cau, mae o wedi bod yn dipyn o le dros y blynyddoedd ac wedi bod yn dafarn da.
"Mae'n bwysig iawn i'r gymuned ac mae 'na deimlad cryf o siom."
Bu Emlyn Roberts yn rhedeg y dafarn am 20 mlynedd ac mae hefyd yn byw yn Llanfrothen.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru ychwanegodd: "Mae wedi mynd i deimlo fod o'n cau am byth hefo gyn lleied o fuddsoddiad gan y bragdy dros 20 mlynedd.
"'Da ni wedi deffro a penderfynu mai'r unig ffordd ymlaen ydy iddyn nhw ryddhau'r les i ni gael symud ymlaen a chreu rhywbeth cymunedol.
"Gawson ni ddipyn o brotest yna ryw chydig o ddyddiau'n 么l drwy roi baneri ar y dafarn ac o fewn dau neu dri diwrnod roeddan nhw wedi anfon cwmni i'w tynnu i lawr.
"Mae 'na gr诺p cryf iawn yn y pentref sydd eisiau symud ymlaen hefo'r peth."
'Cyfnod heriol i dafarndai'
Mewn datganiad dywedodd William Robinson, cyd reolwr-gyfarwyddwr Robinsons, eu bod yn parhau i geisio sicrhau tenant newydd.
"Rydym hefyd yn tristau bod drysau'r Brondanw Arms/Y Ring yn parhau ar gau," meddai.
"Mae'r gaeaf hwn wedi bod yn gyfnod heriol i dafarndai, gyda chwyddiant costau bwyd a phrisiau ynni uwch nag erioed o'r blaen, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i dafarndai.
"Rydym yn cydnabod yr angen am ail-osod y Brondanw a phenderfynwyd, yn anfoddog, i gau'r busnes am gyfnod tra bod gweithredwr newydd yn cael ei ddewis."
Ychwanegodd tra roedd darpar denant wedi dangos diddordeb, roedd yn rhaid iddynt dynnu'n 么l oherwydd rhesymau personol.
"Rydym wrthi'n recriwtio ac yn edrych ar opsiynau buddsoddi i ddod 芒'r dafarn bentref poblogaidd hon yn 么l i'w hen ogoniant yng nghanol y gymuned leol.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyfodol y Brondanw Arms o fewn ein stad ac yn gobeithio y bydd ein buddsoddiadau diweddar yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Tafarn yr Afr yng Ngarndolbenmaen, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi a datblygu ein tafarndai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022