成人快手

Brwydr 20 mlynedd i gael gorsaf hygyrch yn Cathays

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Cathays
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim lifft ar y bont droed rhwng y ddau blatfform, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod fod y grisiau'n serth

Mae galw am wneud gwelliannau i un o orsafoedd tr锚n prysuraf Cymru, gyda phobl anabl wedi cwyno ers dros 20 mlynedd eu bod yn cael trafferth ei defnyddio.

Gorsaf Cathays yng Nghaerdydd ydy'r seithfed prysuraf yng Nghymru, ond dydy pobl sydd mewn cadair olwyn neu sy'n cael trafferth cerdded ddim yn gallu croesi o un platfform i'r llall yn hawdd.

Does dim lifft ar y bont droed rhwng y ddau blatfform, ac mae Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cydnabod ar eu gwefan fod y grisiau'n serth.

Dywedodd TC fod pont hygyrch wedi cael ei gynnig fel rhan o ddatblygiadau Metro De Cymru.

Ffynhonnell y llun, Alice Moore
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alice Moore sy'n cynrychioli myfyrwyr ag anableddau ym Mhrifysgol Caerdydd

Adeiladau Prifysgol Caerdydd sydd o amgylch yr orsaf, a dywedodd Alice Moore, sy'n cynrychioli myfyrwyr ag anableddau, ei bod yn "ran bwysig o drafnidiaeth gyhoeddus i fyfyrwyr".

Dywedodd fod cysylltiadau trafnidiaeth y ddinas yn "dda i ddim pan nad ydy myfyrwyr sydd ag anableddau - sydd o bosib eu hangen fwyaf - yn gallu ei ddefnyddio".

Cafodd gorsaf Cathays ei defnyddio bron i 515,000 gwaith yn 2021-22 - mwy na Bangor, Wrecsam a Bae Caerdydd.

Mae gwefan TC yn cynghori pobl sy'n cyrraedd yr orsaf o'r gogledd, ond sydd eisiau dod i ffwrdd ar ochr arall y platfform, i fynd un stop ymhellach i orsaf Heol y Frenhines, newid platfform yno a dod am yn 么l, gan ddweud nad oes angen prynu tocyn ychwanegol.

Ond mae Alice, sydd 芒 chyflwr ffibrosis systig, yn dweud fod hyn yn awgrym "ofnadwy a siomedig".

Ffynhonnell y llun, Natasha Hirst
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Natasha Hirst ei bod hi wedi codi'r mater ar ddiwedd y 90au

Dyw'r broblem yma ddim yn un newydd. Mae Natasha Hirst, 44, oedd yn cynrychioli myfyrwyr ag anableddau ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddiwedd yr 1990au, yn dweud ei bod hi wedi codi'r mater bryd hynny.

"Mae gennych chi'r bont droed 'na, ond os oes gennych chi broblemau symudedd, does dim ffordd hawdd o fynd o un ochr yr orsaf i'r llall," meddai.

"Yn ystod y dydd mae'n rhaid i chi fynd trwy Undeb y Myfyrwyr a defnyddio'r lifft, ond os dydych chi ddim yn fyfyriwr dydych chi ddim am deimlo bod modd i chi wneud hynny mewn adeilad dy'ch chi ddim yn ei 'nabod.

"Pam ddylai pobl orfod gwneud hynny?"

Dywedodd Ms Hirst fod gorsaf Cathays angen pont droed newydd hygyrch, gyda lifft neu esgynfa hir.

Ffynhonnell y llun, Kat Watkins
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kat Watkins yn gyrru i'w gwaith yn Cathays er mwyn osgoi cael problemau yn yr orsaf

Mae Kat Watkins, 36, yn defnyddio cadair olwyn ac yn cymudo o Abertawe i Gaerdydd yn aml.

Mae hi'n gyrru i'w gwaith yn Cathays er mwyn osgoi cael problemau yn yr orsaf.

Dywedodd fod awgrym TC o newid platfform mewn gorsaf arall yn "drafferth", yn enwedig o ystyried fod angen disgwyl am y tr锚n nesaf i ddod i'r cyfeiriad arall er mwyn eich cludo'n 么l i Cathays.

'Camau cychwynnol' wedi dechrau

Dywedodd elusen Anabledd Cymru ei bod yn "allweddol fod pobl anabl a defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus".

"Mae'n bwysig fod cyrff cyhoeddus yn siarad 芒 sefydliadau fel ni er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed," meddai llefarydd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn gweithio ar "gamau cychwynnol" i sefydlu pont droed hygyrch yng ngorsaf Cathays.

Ychwanegodd llefarydd fod y cwmni "wedi ymrwymo i wella mynediad i orsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau".

Dywedodd Prifysgol Caerdydd ei bod yn rhannu pryderon myfyrwyr ac y byddai'n gweithio gyda TC er mwyn sicrhau fod "gorsaf Cathays yn hygyrch cyn gynted 芒 phosib".

Pynciau cysylltiedig