成人快手

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Eidal 10-36 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Cymru'n dathlu cais yn erbyn Yr EidalFfynhonnell y llun, Gareth Everett

Mae Cymru wedi darfod yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Yr Eidal yn Parma.

Dyma perfformiad gorau'r t卯m yn y gystadleuaeth mewn 14 o flynyddoedd - y tro diwethaf iddyn nhw ennill tair g锚m.

Roedd Cymru ond angen pwynt i sichrau'r trydydd safle tu 么l i Loegr a Ffrainc, ond fe wnaethon nhw lwyddo i fachu'r uchafswm posib ar 么l sgorio pum cais.

Mae Cymru o ganlyniad wedi codi i chweched safle detholion y byd - eu safle uchaf erioed.

Fe gafodd Cymru - ac amddiffyn Yr Eidal - ddechrau da ac fe sgoriodd Keira Bevan bwyntiau cyntaf y prynhawn gyda chic gosb.

Bethan Lewis wnaeth sgorio cais cyntaf y g锚m, gan ganfod gofod prin o blith amddiffynwyr y t卯m cartref, a gyda throsiad cyntaf Bevan roedd hi'n 0-10 wedi 23 munud o chwarae.

Fe darodd yr Eidalwyr yn 么l wedi ychydig funudau - pas campus gan Michela Sillari i'r wythwr Giado Franco oedd sbardun yr ymosodiad, ac er i Hannah Jones lorio Veronica Madia wrth iddi anelu am y llinell fe groesodd y maswr yn y gornel i sgorio.

Fe giciodd Sillari'n gywir i gau'r bwlch i 7-10 - ac eto ychydig funudau yn ddiweddarach i unioni'r sg么r wedi i Gymru ildio cic gosb.

Wedi cyfnod sigledig ac ambell i gamgymeriad wrth drin y b锚l, fe diriodd y prop Sisilia Tuipulotu - ei phedwerydd cais yn y Chwe Gwlad eleni. Gyda throsiad Bevan, roedd Cymru 10-17 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sisilia Tuipulotu yn sgorio ei phedwerydd cais yn y Chwe Gwlad eleni

Deng munud i mewn i'r ail hanner roedd t卯m Ioan Cunnigham wedi agor y fantais eto - i 10-24 - wedi ymosodiad a ddechreuodd gyda thafliad chwim o'r lein. Sioned Harries wnaeth groesi gyda throsiad cywir eto fyth gan Bevan.

Ar yr awr, daeth pedwerydd cais Cymru - gan seren y g锚m, Alex Callender - i sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws. Hi oedd wedi dechrau'r symudiad gan gyfnewid sawl pas gyda Carys Williams-Morris cyn tirio. Methodd Bevan 芒 throsi y tro hwn.

Gyda 10 munud ar y cloc, fe ddaeth cais olaf y prynhawn - gan Kerin Lake. Roedd Elinor Snowsill yn rhan o'r ymosodiad a hi wnaeth trosi i wneud y sg么r terfynol yn 10-36.

Trwy godi yn nhabl detholion y byd, mae Cymru hefyd wedi sicrhau lle yn haen uchaf y gystadleuaeth ryngwladol newydd WXV ynghyd 芒 Lloegr a Ffrainc.

Fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn tri th卯m uchaf Cyfres y Pacific Four - sy'n cynnwys timau o Seland Newydd, Awstralia, Canada ac UDA - yn yr hydref.