Newid enw Prifysgol Glynd诺r i Brifysgol Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Glynd诺r wedi penderfynu newid ei henw'n swyddogol i Brifysgol Wrecsam o hyn ymlaen - yn rhannol oherwydd "proffil uwch" y ddinas erbyn hyn.
Yn dilyn ymgynghoriad dros yr haf y llynedd, mae uwch swyddogion y brifysgol bellach wedi cadarnhau'r bwriad i newid yr enw.
Fe wnaeth y brifysgol grybwyll y sylw o gwmpas Clwb P锚l-droed Wrecsam, a statws dinesig diweddar y ddinas, fel rhai o'r rhesymau dros newid.
Mae disgwyl i'r ailfrandio gael ei wneud yn swyddogol yn nes ymlaen eleni, ac i mewn i'r flwyddyn nesaf.
'Cyrraedd cynulleidfaoedd'
Roedd y brifysgol yn arfer cael ei hadnabod fel Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI), cyn iddi gael statws prifysgol llawn yn 2008.
Ers hynny mae hi wedi cael ei hadnabod fel Prifysgol Glynd诺r Wrecsam, gyda'r enw'n deyrnged i'r tywysog Owain Glynd诺r, oedd 芒'i gartref yn Sycharth gerllaw, ac oedd wedi ceisio sefydlu prifysgolion cyntaf Cymru.
Mewn datganiad wrth 成人快手 Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Glynd诺r y byddai'r enw nawr yn newid yn dilyn "ymgynghoriad eang".
"Bydd ailenwi ein prifysgol yn ein helpu i farchnata'n well, a chryfhau ein brand a'n hunaniaeth," meddai.
Ychwanegodd bod y ddinas wedi bod yn "denu sylw byd eang am nifer o resymau", gan gynnwys llwyddiant diweddar y clwb p锚l-droed ers i'r s锚r Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ei brynu, a'r sylw ddaeth o'r rhaglen ddogfen a ddilynodd hynny.
Fe wnaeth y dref hefyd ennill statws dinas y llynedd, yn ogystal 芒 dod yn ail gyda'u cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Dywedodd y brifysgol ei bod hi'n "falch o fod wedi ein lleoli yn Wrecsam", ac mai cael y brifysgol i ddefnyddio'r un enw 芒'r ddinas oedd y "ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd".
"Bydd cael ein galw'n Brifysgol Wrecsam/Wrexham University yn golygu bod modd i ni gyfathrebu enw'r brifysgol yn haws i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn genedlaethol a rhyngwladol," ychwanegodd y llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022