成人快手

'Her, ond mor bwysig, ailgydio mewn eisteddfodau lleol'

  • Cyhoeddwyd
Ebony ac Ariya
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Ebony ac Ariya yn cystadlu gyda ch么r yr ysgol yn Eisteddfod yr Hendy

Mae'n her, ond yn galonogol fod nifer helaeth o eisteddfodau lleol Cymru wedi ailgydio eleni, yn 么l Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Dywedodd swyddog datblygu'r gymdeithas fod bron i 90% o eisteddfodau wedi ailsefydlu ers y pandemig.

Ond, fe ddywedodd Aled Wyn Phillips fod heriau ariannol yn wynebu pwyllgorau a bod rhai pryderon am nifer cystadleuwyr.

Un ardal sy'n falch, ond yn cydnabod bod heriau wrth ailgydio yn y traddodiad ers cyn y pandemig yw'r Hendy yn Sir Gaerfyrddin.

Mae plant yr ysgol leol wedi bod yn paratoi i groesawu'r eisteddfod yn 么l i'r pentref wedi pedair blynedd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 13 Mai yn neuadd yr ysgol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Beca a Hannah'n bwriadu cystadlu mewn sawl cystadleuaeth ac yn edrych ymlaen at hynny ar 么l pedair blynedd

"Pan dw i'n eisteddfod yr Hendy dw i'n teimlo'n gyffrous a tipyn bach yn nerfus achos ma' lot o bobl yn gwylio ti," dywedodd Hannah, 9.

"Ond mae'n rili gyffrous i allu canu ac actio o flaen lot o bobl eraill."

Ychwanegodd Lily, 11 oed: "Dw i mor gyffrous achos mae'n ysgol ni a fi'n dwlu 'neud y llefaru hefyd."

"Dw i'n canu ben fy hunan, dw i'n llefaru a dw i'n canu yn gr诺p parti unsain... dwi'n dwlu ymarfer," dywedodd Beca, 10.

Ac i Ebony, 10, sy'n rhan o ffrwd Saesneg yr ysgol: "Mae'n anhygoel cael cystadlu oherwydd ry'n ni'n cael canu yn Gymraeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r eisteddfod yn gyfle i bawb "ymfalch茂o yn y Gymraeg unwaith eto" yn 么l pennaeth Ysgol yr Hendy, Mrs Rhian Kenny

Mae'r pennaeth, Mrs Rhian Kenny, yn falch fod gan y plant gyfle i arddangos eu doniau ar lwyfan lleol.

"Ma' nhw mor lwcus - achos maen nhw'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd - ond i gystadlu yn eu milltir sgw芒r, mae'n rhywbeth sbesial iawn.

"Mae'n dod 芒'r ysgol, mae'n dod 芒'r gymuned gyda'n gilydd a bydd hi'n hyfryd i weld cyn-ddisgyblion, bydd hi'n neis agor yr ysgol lan i'r gymuned unwaith eto.

"Ma' pawb yn cael cyfle, a jyst i ymfalch茂o yn y Gymraeg unwaith eto."

'Her'

Ond er mor falch yw un o'r ysgrifenyddion hefyd, dywedodd Delyth Mai Nicholas fod y gwaith paratoi - yn ariannol ac wrth ddenu cystadleuwyr - wedi bod yn her ar 么l y seibiant.

"Ni wedi bod yn apelio at fusnesau a siopau lleol - 'wi wedi bod rownd y siopau a'r busnesau a nhwythau hefyd wedi bod yn gefnogol iawn i ni.

"O'dd rhaid, os o'n ni am i'r 'steddfod lwyddo 'leni, o ran cael gwobrau ac yn y blaen, o'dd rhaid mynd ar 么l bobl fel hyn i'n cefnogi ni.

"Mi roedd ein coffrau ni wedi mynd lawr ers 2019 - dim byd wedi digwydd wrth gwrs."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Delyth Mai Nicholas yw un o ysgrifenyddion yr eisteddfod yn yr Hendy

Ychwanegodd: "O'n ni yn sylweddoli wrth fynd at ambell i fusnes, bo' nhw'n dweud 'o, gallwn ni byth rhoi llawer i chi', o'n i yn sylweddoli ei bod hi'n galed iawn ar fusnesau hefyd wrth ein bod ni'n mynd atyn nhw.

"Wi'n credu ei bod hi'n her, nid yn unig i 'steddfod yr Hendy, mae'n her i steddfodau'n gyffredinol."

'Calonogol ond rhai'n bryderus'

Mae Aled Wyn Phillips, swyddog datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cytuno, er bod nifer helaeth wedi llwyddo i ailsefydlu.

"Ar y naill law mae 'na newyddion calonogol iawn lle ni'n gweld rhywbeth fel 80 i bron i 90% o eisteddfodau wedi ailffurfio.

"O'dd na un 'steddfod bythefnos nol yn y Ff么r, y neges ges i o fanno oedd bod hi'n chaos wrth y drws achos o'dd na gyment wedi troi lan.

"Mae 'na bobl eraill falle wedi mynegi siom [gyda nifer y cystadleuwyr]."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r niferoedd sydd wedi ailsefydlu eisteddfodau'n galonogol, yn 么l Aled Wyn Phillips, ond mae 'na heriau hefyd

Dywedodd bod costau'n "fwrn ychwanegol" wrth fynd ati i drefnu eto.

"Mae rhai 'steddfodau yn ffynnu'n ariannol, dw i'm yn gweud bod llwythi o arian ar gael achos mae'n costio arian i gynnal eisteddfod - o logi'r adeilad, talu beirniaid, cyfeilyddion, tystysgrifau, gwobrwyon ac yn y blaen.

"Ond y nod ydy cael pobl i gystadlu, cynnig y llwyfan 'na, fel bod gynnon ni dalentau cenedlaethol a rhyngwladol i'r dyfodol."