Safon llety 'annerbyniol' i dimau rygbi byddar Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae timau rygbi byddar Cymru wedi gwneud ap锚l am arian i'w helpu gyda'u costau, ar 么l gorfod symud o lety "annerbyniol" gafodd ei ddarparu iddyn nhw yng Nghwpan y Byd.
Dros y penwythnos fe lwyddodd timau'r dynion a menywod i ddod yn bencampwyr byd yn y gamp saith-bob-ochr yn Yr Ariannin.
Ond ers hynny mae wedi dod i'r amlwg fod y timau wedi gorfod symud o'u llety gwreiddiol oherwydd yr amodau yno, a hynny ar eu cost eu hunain.
Gyda'r chwaraewyr eisoes wedi talu eu costau eu hunain i deithio i'r gystadleuaeth, maen nhw nawr yn gobeithio codi arian i dalu am rywfaint o'r costau ychwanegol.
'Meddwl mai j么c oedd e'
Fe enillodd t卯m y dynion eu cystadleuaeth nhw am y trydydd tro o'r bron ar 么l trechu Awstralia o 20-5 yn y rownd derfynol.
Fe wnaeth y menywod chwalu Lloegr o 32-0, wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf.
Daeth hynny er y trafferthion i'w paratoadau nhw, gyda'r llety gafodd ei ddarparu iddyn nhw yn Cordoba yn "warthus".
Pan nes i weld y lluniau ro'n i'n meddwl mai j么c oedd e," meddai cadeirydd Undeb Rygbi Byddar Cymru, Tyrone Hughes, wrth siarad ar 成人快手 Radio Wales Breakfast.
"Roedd rhaid i ni symud y chwaraewyr allan o'r llety i westy, ac mae hynny wedi costio.
"Mae'r chwaraewyr yma'n rhai amatur felly dydyn nhw ddim yn cael eu talu. Nhw sy'n talu eu hunain, neu'n cael noddwyr.
"Gobeithio yn y dyfodol allwn ni sicrhau mwy o gyllid er mwyn datblygu ymhellach."
Ar dudalen GoFundMe y timau maen nhw'n dweud fod pob chwaraewr ac hyfforddwr wedi "talu 拢1,625 o'u harian eu hunain" ar gyfer cost y trip, sydd wedi dod i gyfanswm o 拢80,000.
Mae'r dudalen hyd yma wedi codi 拢3,000, gydag Undeb Rygbi Byddar Cymru yn dweud y bydd yr arian yn mynd tuag at "gostau'r chwaraewyr... a sicrhau dyfodol iach i rygbi byddar yng Nghymru".
URC yn cynnig helpu
Dyw Undeb Rygbi Byddar Cymru ddim yn rhan swyddogol o Undeb Rygbi Cymru, ond mewn datganiad dywedodd URC eu bod yn rhoi cymorth i'r gamp a'u bod yn ceisio helpu'r timau yn eu sefyllfa bresennol.
"Rydyn ni wedi bod mewn cyswllt agos gyda Tyrone Hughes ers dydd Gwener, pan roddodd wybod i ni am yr amodau hollol annerbyniol yr oedd t卯m rygbi byddar Cymru wedi cael cynnig yn Yr Ariannin," meddai llefarydd.
"Rydyn ni'n hollol gefnogol o'u penderfyniad i symud i lety newydd, ac wedi gofyn am fanylion y costau er mwyn gweld sut allwn ni helpu ymhellach yn yr achos yma."
Ychwanegodd URC eu bod yn "falch iawn" o weld llwyddiant y timau, a bod ganddyn nhw ymrywmiad i helpu ac ysbrydoli pobl "i chwarae rygbi waeth beth yw eu hanabledd".
Mae cais wedi cael ei roi i World Deaf Rugby ac Undeb Rygbi Sordos yn Yr Ariannin, a oedd yn gyfrifol am drefnu'r daith, am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023