M么n: Tro pedol wrth ganiat谩u 32 o fythynnod gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr M么n wedi gwneud tro pedol drwy ganiat谩u cais i adeiladu 32 o fythynnod gwyliau ar gyrion Llangefni, er gwaethaf pryderon am yr effaith ar fywyd gwyllt yr ardal.
Fis diwethaf fe wrthododd pwyllgor cynllunio M么n gais gan Anglesey Lodge and Caravan Ltd i adeiladau'r chalets ar l么n Penmynydd.
Gan fynd yn groes i argymhelliad swyddogion i ganiat谩u'r cais, ymysg y pryderon oedd yr effaith bosib ar boblogaeth y wiwer goch.
Ond brynhawn Mercher yn dilyn cyfnod o "gnoi cil" - sy'n arferol wedi mynd yn groes i argymhelliad swyddogion - fe wnaed tro pedol, gydag aelodau'r pwyllgor yn cymeradwyo'r datblygiad.
Buddion economaidd
Dywedodd Jamie Bradshaw, asiant cynllunio Owen Devenport Ltd ar ran y datblygwyr, eu bod yn "siomedig iawn" fod y cais wedi ei wrthod gan aelodau'r pwyllgor fis diwethaf.
"Mae'r cais yn un am gynllun o ansawdd eithriadol o uchel sydd wedi ei ddylunio'n ofalus ac yn sensitif i barchu'r safle a'r amgylchedd, fel y dangosir gan gefnogaeth glir a diamwys gan swyddogion proffesiynol yr Awdurdod, a chan gyrff megis CNC a D诺r Cymru," meddai wrth Cymru Fyw bryd hynny.
"Mae'r cynnig hefyd yn cydymffurfio'n llwyr 芒'r holl bolis茂au yn y Cynllun Datblygu Lleol.
"Mae gan y cynllun y potensial i gyflawni dros 拢2m o wariant adeiladu i'r economi leol, ac o leiaf 拢1m y flwyddyn wedi hynny i bobl a busnesau Llangefni."
Wedi ei leoli'n agos at gampws Coleg Menai a'r ffordd gyswllt newydd, barn swyddogion cynllunio'r cyngor oedd bod y cais yn un addas.
Dywedon nhw nad oedd pryderon wedi'u datgan gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda disgwyl hefyd i'r datblygiad greu dwy swydd lawn amser a hyd at chwech arall rhan amser, yn ogystal 芒 swyddi glanhau a chynnal a chadw.
'Y lleoliad anghywir'
Roedd beirniadaeth o adroddiad gwreiddiol y cyngor, gyda sylw nad oedd ffyniant y wiwer goch wedi cael digon o sylw gan swyddogion tra'n paratoi ac ystyried y cais.
Brynhawn Mercher dywedodd un o'r cynghorwyr lleol, Dylan Rees, ei fod yn croesawu fod yr adroddiad bellach yn cydnabod presenoldeb wiwerod coch yn lleol, ond ei fod yn parhau i wrthwynebu'r datblygiad.
"Mae'r cais tu allan i'r ffin ddatblygu, a siawns mai holl bwynt y ffin yma ydy amddiffyn ein tiroedd glas," meddai.
"Rwy'n teimlo fod y pwyllgor wneud gwneud penderfyniad da fis diwethaf ac rwy'n erfyn arnyn nhw i gadw at yr un penderfyniad heddiw."
Pwysleisiodd aelodau lleol arall, Geraint Bebb a Nicola Roberts, fod "pobl leol yn meddwl fod y cais yn y lleoliad anghywir".
Ond dywedodd swyddogion cynllunio fod "y coed a'r gwrychoedd o amgylch y safle o ansawdd isel", ac y dylai'r cynllun plannu "wella bioamrywiaeth" drwy blannu 3,500 o goed.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Lewis byddai'r cais yn "gwneud i'r safle edrych yn llawer gwell", gyda'r Cynghorydd Jeff Evans yn codi'r buddion economaidd i'r ardal.
Fe benderfynodd y pwyllgor i ganiat谩u'r cais o saith pleidlais i bump.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023