'Rhesymol' i newid arwyddair 'byd gwyn' Eisteddfod Llangollen

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Disgrifiad o'r llun, Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn bwriadu newid geiriau'r arwyddair erbyn 2024
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, 成人快手 Cymru Fyw

Mae angen i'r rheiny sydd eisiau cadw arwyddair 'byd gwyn' Eisteddfod Ryngwladol Llangollen fod yn "gallach ac yn fwy sensitif" i ystyr y geiriau yn y Gymru gyfoes, yn 么l pennaeth ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.

Galwodd Matthew Evans ar feirdd i gofleidio'r her o geisio creu arwyddair newydd, gan ddweud bod angen ystyried sut mae Cymry Cymraeg o leiafrifoedd ethnig "yn darllen y geiriau hynny".

Roedd Mr Evans, prifathro Ysgol Glantaf, yn ymateb i lythyr gan 85 o bobl yn galw ar yr eisteddfod i ailystyried y penderfyniad am ei fod yn "diraddio" y Gymraeg.

Ychwanegodd awdur y llythyr - y cyn-ddarlithydd a'r awdur, yr Athro Gruffydd Aled Williams - fod y penderfyniad yn "deillio o anwybodaeth ronc o'r sefyllfa ddiwylliannol yng Nghymru", ac yn "fygythiad diwylliannol go ddifrifol".

'Beth yw'r ystyr i Gymry o dras gwahanol?'

Mae'r arwyddair 'Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo' gan y bardd T Gwynn Jones wedi bodoli ers dros 75 mlynedd.

Ond mewn ymgynghoriad diweddar ar foderneiddio'r 诺yl, daeth i'r amlwg fod rhai yn poeni fod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth gael eu cyfieithu, gyda phryder y gallen nhw gael eu camddehongli yn hiliol.

Cafodd yr arwyddair ei gyfieithu i'r Saesneg gan T Gwynn Jones i 'Blessed is a world that sings, gentle are its songs'.

Disgrifiad o'r fideo, Matthew Evans: "Mae pob darn o farddoniaeth yn perthyn i'w gyfnod"

Yn dilyn cyfarfod o fwrdd yr eisteddfod yn gynharach yn y mis, daeth cadarnhad bod penderfyniad wedi cael ei wneud i gomisiynu bardd i greu arwyddair newydd.

Cytuno gyda'r penderfyniad hwnnw mae Mr Evans, gan ddweud bod angen i'r arwyddair nawr "adlewyrchu'r Gymru gyfoes".

"Roedd gweld sylwadau'r Athro Gruffydd Aled Williams yn codi consyrn difrifol gen i yngl欧n ag ymateb y Gymru Gymraeg i benderfyniad hollol resymol gan yr Eisteddfod yn Llangollen," meddai wrth 成人快手 Cymru Fyw.

Fel prifathro yng Nghaerdydd - yr ardal gyda'r canran uchaf o bobl o leiafrif ethnig yng Nghymru - ychwanegodd Mr Evans ei fod yn gweld yr angen i "adlewyrchu 'chydig bach yn gallach ac yn fwy sensitif tuag at y byd a'r gymdeithas 'dan ni'n byw ynddi hi".

"Beth yw ystyr y geiriau yma nawr pan 'dan ni'n s么n am Gymry o dras wahanol, sydd yn Gymry Cymraeg rhonc?" meddai.

"'Di o ddim i 'neud efo cyfieithiad, ond sut mae Cymry Cymraeg o dras Bangladeshi, o dras Pacistani, beth bynnag ydyn nhw, yn darllen y geiriau hynny ac yn dweud 'dach chi'n gwybod beth, dwi ddim yn wyn'."

Disgrifiad o'r llun, Gwledd o faneri lliwgar yn y par锚d yn EIsteddfod Llangollen 2018

Yn ei lythyr fe ddywedodd yr Athro Gruffydd Aled Williams fod ystyr Cymraeg geiriau T Gwynn Jones yn "gwbl gymeradwy".

"Ni wyddom am enghreifftiau o ieithoedd lle cytunai ei siaradwyr i ymwrthod 芒'r defnydd o ymadroddion cwbl ddiniwed a derbyniol oherwydd y posibilrwydd y gallai eu cyfieithu'n llythrennol ac annigonol beri tramgwydd i rywrai yn rhywle," meddai.

Ond yn 么l Mr Evans, mae "pob darn o farddoniaeth yn perthyn i'w gyfnod" ac mae angen symud gyda'r oes.

"Beth am i ni ddefnyddio ieithwedd felly, a geirfa, sy'n croesawu?" meddai.

"Nid mater o anwybodaeth ac annealltwriaeth ydy hyn o ran yr eisteddfod, ond gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sefyllfa ddiwylliannol go iawn yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Yr Athro Gruffydd Aled Williams bod 85 o academyddion a ffigyrau llenyddol o chwech o wledydd wedi arwyddo'r llythyr

Byddai hynny'n help, meddai, wrth i ysgolion a sefydliadau eraill yng Nghymru "geisio symud yr iaith i barthau newydd, bydoedd newydd a theuluoedd newydd".

"Un o'n problemau ni fel ysgolion ydy bod ein gweithlu ni i gyd yn edrych yn debyg i fi, neu'n edrych yn debyg i'r Athro Gruffydd Aled Williams," esboniodd Mr Evans.

"Ein gwaith ni ydy sicrhau bod athrawon o gefndiroedd cyfoethog iawn yn dod yn athrawon, a bod plant yn gweld modelau r么l Cymreig a Chymraeg."

Ychwanegodd nad oedd yn credu fod ei safbwynt yn "fater o'r agenda PC yn mynd yn ddwl", ond yn hytrach yn "ymateb yn syml iawn i'r geiriau fel maen nhw".

"Mae 'byd gwyn' bellach yn cael ei gysylltu ag agenda nad ydw i moyn bod yn gysylltiedig 芒 hi," meddai.

"Ac felly yn syml iawn dwi'n galw ar feirdd Cymru i fynd ati i gael geiriad ychydig bach yn well o'r hyn 'dan ni'n ei olygu o Gymru, groesawgar Cymreig a charedig."