成人快手

Prifwyl yr Urdd: Dim t芒l mynediad i deuluoedd incwm isel

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eisteddfod Sir Ddinbych 2022Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Eisteddfod Sir Ddinbych 2022 ddenu 118,000 o ymwelwyr, medd y trefnwyr

Bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri eleni yn sgil cefnogaeth ariannol o 拢150,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyllid yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio.

Bydd yr arian, yn 么l prif weithredwr yr Urdd Si芒n Lewis yn helpu'r mudiad "i sicrhau cyfle i bawb fynychu a phrofi cyffro Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin".

'Urdd i Bawb'

"Ein gobaith fel mudiad yw sicrhau 'Urdd i Bawb' a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gystadlu ac elwa o weithgareddau'r Urdd," meddai.

"Mae dros 75,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

"Yn barod fel mudiad rydym yn barod yn cynnig aelodaeth 拢1 yr Urdd i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.

"Eleni mae'r Urdd hefyd wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i'r rhai sydd yn derbyn aelodaeth 拢1 yr Urdd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n Lewis: "Y nod yw bod pob person ifanc yn cael cystadlu ac elwa o weithgareddau'r Urdd"

Y llynedd roedd yna fynediad am ddim i bawb yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 wedi buddsoddiad ariannol gwerth 拢527,000 gan Lywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant yr Urdd.

Sut mae hawlio tocynnau?

Mae dwy ffordd i deuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd:

  • Bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn aelodaeth 拢1 yr Urdd ac yn rhoi manylion hawlio tocynnau, ynghyd 芒 chod disgownt unigryw i'r cyfri hwnnw;

  • Ffurflen gais - i hawlio tocyn incwm isel bydd gofyn i deuluoedd lenwi ffurflen gais ar wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o'r meini prawf cyn gellir gwneud cais am docyn.

Mae'r rhestr lawn o'r meini prawf ar ac yn cynnwys teuluoedd neu unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.

Fel rhan o'r cynllun tocyn incwm isel, gall person neu deulu hawlio hyd at chwe thocyn dyddiol i Faes Eisteddfod yr Urdd.

Bydd gofyn i unigolion neu deuluoedd sydd yn derbyn tocyn incwm isel fod yn barod i ddangos prawf o'r gofynion ar ddiwrnod yr Eisteddfod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ym mis Medi roedd cannoedd yn bresennol yng ng诺yl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac yn ffordd wych i'n plant a'n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael.

"Rwy'n falch bydd y cyllid hwn yn helpu fwy o deuluoedd i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yn ystod y digwyddiad."

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yr Urdd hefyd yn cydweithio 芒 Chyngor Sir G芒r, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau sydd yn cefnogi teuluoedd incwm isel i sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pobl a all elwa o'r cynllun.

Bydd tocynnau Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn mynd ar werth ddydd Mawrth, 28 Mawrth.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri o 29 Mai tan 3 Mehefin.