³ÉÈË¿ìÊÖ

Môn: 'Siom' ymgyrchwyr ar ôl caniatáu fferm solar

  • Cyhoeddwyd
Paneli solar
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion wedi caniatáu cais i adeiladu paneli ar dri safle rhwng Bryngwran a Chaergeiliog

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi caniatáu cais i adeiladu fferm solar ar Ynys Môn.

Bydd y datblygiad 35 MW yn golygu gorchuddio tua 150 acer o dir ger pentrefi Bryngwran a Chaergeiliog gyda phaneli.

Yn ôl cwmni Low Carbon, oedd wedi cyflwyno'r cais, bydd y trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu gyfystyr â phweru 11,630 o gartrefi bob blwyddyn.

Bydd hefyd yn arbed 7,161 tunnell y flwyddyn o CO2.

Cafodd y cais ei basio yr wythnos hon gan y Gweinidog dros Newid Hinsawndd, Julie James, yn seiliedig ar argymhelliad arolygwyr cynllunio.

Ond nid pawb sy'n fodlon, gyda grŵp o ymgyrchwyr lleol a oedd yn erbyn y datblygiad wedi datgan eu siom o golli "tir amaethyddol da".

Maen nhw hefyd wedi barnu Llywodraeth Cymru am anfon gohebiaeth uniaith Saesneg iddyn nhw yn cadarnhau'r penderfyniad.

'Effaith ar gymuned Gymreig'

Roedd y grŵp 'Dywedwch Na i Solar Traffwll' wedi datgan gwrthwynebiad i'r cynllun ac yn cymharu colli tir yn lleol i foddi Capel Celyn i greu cronfa ddŵr Tryweryn yn y 1960au.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Lleoliad y paneli arfaethedig, fydd wedi'u gwasgaru ar draws tair safle

Roedd pryder am pa mor weladwy fyddai'r paneli, effaith colli tir amaethyddol ac hefyd amheuon os fydd unrhyw fuddion i'r gymuned leol.

Dywedodd Hywel Hughes, cadeirydd y grŵp wrth Cymru Fyw: "'Da ni'n siomedig iawn i ddweud y gwir.

"Mae 'na frand i ardal Traffwll, da ni'n ei chysylltu efo'r nofel Madam Wen a cherdd Cynan sef Nico Annwyl... dydi'r datblygiad ddim yn gydnaws hefo hanes yr ardal lenyddol gyfoethog hon.

"'Da ni'n amlwg yn gorfod symud ymlaen rŵan a byw efo'r penderfyniad, ond o gael cipolwg ar adroddiad yr arolygydd a sylwadau'r gweinidog mae rhywun yn teimlo falla' dydyn nhw ddim wedi talu sylw digonol i'r effaith ar y gymuned Gymreig hon.

"Yn amlwg mae rhywun yn deall yr angen am ynni adnewyddadwy - a da ni ddim yn erbyn hynny - ond roeddan ni yn gweld hwn yn dod i galon y gymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Hywel Hughes: "Ddim yn gydnaws hefo hanes yr ardal lenyddol gyfoethog hon"

Ychwanegodd: "Mae Menter Môn wedi ei benodi i arwain y drafodaeth ar berchnogaeth leol, felly mae'n bwysig rŵan fod ni fel grŵp yn cadw'r pwysau i gael elfen o berchnogaeth leol ar hwn."

'Uniaith Saesneg'

Ond roedd siom hefyd fod llythyr y gweinidog yn cadarnhau'r caniatâd cynllunio wedi'i anfon i'r grŵp yn uniaith Saesneg.

Ychwanegodd Mr Hughes: "Mae wedi'n cythruddo ni fod adroddiad yr arolygydd a llythyr y gweinidog yn uniaith Saesneg, o ystyried fod hi'n hollol amlwg fod ni'n gymuned Cymraeg a Chymreig mae anfon yr ohebiaeth yna yn uniaith Saesneg bron yn fwy sarhaus na'r penderfyniad ei hun.

"Da ni angen codi hyn hefo Comisiynydd y Gymraeg, yn amlwg mae'n ofyniad ar weinidogion y llywodraeth i ohebu yn y ddwy iaith felly da ni'n siomedig ar yr ochr hynny hefyd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais i ymateb.

'Gorddatblygiad solar?'

Oherwydd fod y datblygiad yn un sydd i greu dros 10 MW o drydan ac yn cael ei gysidro'n gynllun o bwys, roedd y penderfyniad terfynol yn un i Lywodraeth Cymru yn hytrach na Chyngor Ynys Môn, sydd fel arfer yn penderfynu ar geisiadau cynllunio'r sir.

Roedd Low Carbon wedi disgrifio'r fenter fel cyfle "i gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy… heb effeithio'n ormodol ar yr ardal leol".

Ffynhonnell y llun, Hywel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd protestiadau wedi'u cynnal yn erbyn y datblygiad

Mae cwmni Low Carbon wedi penderfynu peidio ymateb i gais am sylw.

Ond yn ôl gwefan y datblygiad: "Bydd gan y cynllun hwn gapasiti allforio o tua 35MW - mewn geiriau eraill, byddai'n cynhyrchu digon o ynni glân i bweru tua 11,630 o gartrefi'r flwyddyn ac yn gwrthbwyso tua 7,161 tunnell o CO2 bob blwyddyn, sy'n cyfateb i dynnu dros 3,818 o geir oddi ar y ffordd."

Yn eu dogfennau cynllunio, ychwanegodd y cwmni fod bwriad i "ddi-garboneiddio economi Cymru".

"Bydd y buddion economaidd yn cynnwys creu swyddi dros dro, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a chefnogi cynhyrchu ynni carbon isel datganoledig ar Ynys Môn fel sector twf allweddol."

Ond nid hwn yw'r unig gynllun solar ar yr ynys, gyda cheisiadau pellach yn disgwyl penderfyniad

Byddai 2,000 acer o dir yn cael eu neilltuo ger Amlwch, Llannerch-y-medd a Llyn Alaw gyda chapasiti o 350 MW - digon i gynnal dros 130,000 o gartrefi'r flwyddyn, a chynllun arall cyfagos dros 750 acer.

Wrth ymateb dywedodd Aelod Senedd yr ynys, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "siomedig iawn" ar ran yr ymgyrchwyr oedd wedi brwydro yn erbyn datblygiad Traffwll.

Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth: "Rhaid sicrhau bod buddion cymunedol gwirioneddol yn cael eu gwireddu"

"Mae solar yn cynnig cymaint o botensial ynni adnewyddadwy, ond mae yna ffyrdd llawer mwy arloesol o wneud hynny na defnyddio peth o'n tir ffermio gorau a mwyaf cynhyrchiol," meddai wrth Cymru Fyw.

"Gyda nifer o ddatblygiadau solar arwyddocaol ar y gweill ar Ynys Môn, rwyf wedi codi yn y Senedd yr angen i warchod tir amaethyddol rhag gorddatblygiad solar.

"Mae fy niolch yn fawr i'r grŵp ymgyrchu - mae'n rhaid i ni rŵan weithio i sicrhau fod Low Carbon yn ymgysylltu'n llawn â'r gymuned, a bod buddion cymunedol gwirioneddol yn cael eu gwireddu."

Pynciau cysylltiedig