成人快手

Carfan Cymru yn 么l gyda'i gilydd am 'bennod newydd'

  • Cyhoeddwyd
Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn dilyn siom Cwpan y Byd mae carfan wahanol iawn yr olwg yn ymgynull o flaen dwy g锚m fawr

Wrth i garfan Cymru ddod yn 么l gyda'i gilydd am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd yn Qatar, mae 'na wynebau amlwg yn absennol.

Yn sgil ymddeoliadau Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams, dim ond pedwar chwaraewr sydd ar 么l bellach o'r 'genhedlaeth aur' wreiddiol aeth i Euro 2016.

Ond gydag ymgyrch newydd ar droed, mae'r rheolwr Rob Page hefyd yn dechrau ar "bennod newydd" i'r t卯m.

Y wobr ar ddiwedd yr ymgyrch fydd Euro 2024 yn Yr Almaen - ac felly, heb Covid na thaith bell i'r Dwyrain Canol i amharu, bydd y chwaraewyr a'r cefnogwyr yn dechrau breuddwydio'n barod am haf arall fel Ffrainc.

'Haeddu ei le'

Cyn hynny, fodd bynnag, mae'r rhaid cyrraedd yno.

Bydd Cymru'n agor eu hymgyrch ddydd Sadwrn i ffwrdd yn Croatia - t卯m a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn Qatar - cyn croesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd dridiau'n ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Cymru'n wynebu Croatia yn Split cyn chwarae'n erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Parhau fydd yr ymgyrch i Fehefin, Medi a Hydref, cyn gorffen gyda thrip i Armenia a gornest - dyngedfennol o bosib - gartref yn erbyn Twrci ym mis Tachwedd.

Bydd y ddau uchaf o'r pump t卯m yn y gr诺p yn sicrhau eu lle yn Euro 2024, ac mae disgwyl mai gornest rhwng Croatia, Cymru a Thwrci fydd honno.

Ond yn ffodus i garfan Page, oherwydd eu safle yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2022, mae Cymru fwy neu lai yn saff o le yn y gemau ail gyfle hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gorffen yn y ddau uchaf.

Mae'r rheolwr wedi cynnwys pedwar o wynebau newydd yn y garfan, sydd eto i ennill cap - yn ogystal 芒 chyn-ymosodwr Aberystwyth Tom Bradshaw, 30, a enillodd yr olaf o'i dri chap yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tom Bradshaw yn mwynhau tymor llewyrchus gyda'i glwb, Millwall

Mae'r blaenwr wedi sgorio 13 g么l dros Millwall yn y Bencampwriaeth y tymor yma, ac yn "haeddu ei le" yn garfan eto yn 么l y sylwebydd Malcolm Allen.

"Nes i ddeud dyla fo 'di mynd i Gwpan y Byd, ond 'naeth [Page] fynd 芒 Mark Harris," meddai ar bodlediad Coridor Ansicrwydd.

"Mae o'n cynnig rhywbeth gwahanol. Mae ganddo fo reddf naturiol i sgorio goliau."

Wynebau newydd

Ychwanegodd cyn-ymosodwr Cymru ei fod "wrth ei fodd" bod Page wedi dod 芒 wynebau newydd i'r garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

S锚r y dyfodol? (O'r chwith i'r dde) Jordan James, Nathan Broadhead, Luke Harris ac Oli Cooper

"Mae o fatha pennod newydd," meddai.

"Ti'n edrych ar y chwaraewyr heb gapiau - Ollie Cooper, Jordan James, Nathan Broadhead a Luke Harris.

"Dwi wrth fy modd fod 'na elfen newydd, pennod newydd, ac wedi 'neud un neu ddau o benderfyniadau mawr.

"Mae o wedi dallt, dwi'n meddwl, bod calon y t卯m yng nghanol cae angen newid."

Gallai Harris, blaenwr Fulham sydd ond yn 18 oed, fod yn "seren fawr nesaf" y garfan, meddai Malcolm Allen.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Wales 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Wales 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Ond mae hefyd yn disgwyl gweld Jordan James, chwaraewr canol cae 18 oed Birmingham City, yn cael ei gyfle dros y dyddiau nesaf.

"Hogyn bach ifanc yng nghanol cae, digon o fynd arno fo, ac mae ganddo fo ryw olwg bach creadigol," meddai.

"Dwi'n meddwl bendant fydd o'n cael g锚m ar ryw adeg."

"Neith [Page] fynd yn brofiadol yn erbyn Croatia, ond yn bendant neith rhein gael munudau ar y cae [yn erbyn Latfia]."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r capten newydd, Aaron Ramsey, bellach yn chwarae ei b锚l-droed ym mhrif adran Ffrainc

Er y wynebau newydd fodd bynnag, mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru Owain Tudur Jones yn credu fod digon o brofiad ar 么l yn y garfan o hyd.

"Yn y gemau dwi'n meddwl bydd Page yn ddibynnol ar yr 14, 15 chwaraewr mae o'n eu 'nabod yn dda," meddai.

"Mae o fyny [i'r chwaraewyr newydd], dros cwpl o garfanau, i brofi i Rob Page - neu os mae 'na anafiadau, maen nhw'n barod i ddod mewn."

'Un o'n chwaraewyr pwysica' ni'

Bydd Aaron Ramsey'n cymryd yr awenau fel y capten newydd ar gyfer yr ymgyrch i ddod, gyda Ben Davies yn is-gapten iddo - y ddau yn siaradwyr Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yn rhaid i Ben Davies adael y maes tra'n chwarae i Spurs brynhawn Sadwrn

Ond mae amheuon dros ffitrwydd Davies wedi iddo orfod gadael y cae i Tottenham dros y penwythnos gydag anaf.

"Mi fysa hwnna'n ergyd - un o'n chwaraewyr pwysica' ni," meddai Owain Tudur Jones wrth siarad ar Chwaraeon Radio Cymru ddydd Sul.

"Y chwaraewr, dros y blynyddoedd dwytha', sydd wedi chwarae ei b锚l-droed ar y lefel uchaf o unrhyw un yn y garfan, a dwi'n cynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn y rhestr yna.

"Felly mae Ben mor bwysig i ni - bosib neith o orfodi Rob Page i fynd efo pedwar yn y cefn."