成人快手

Y Cymro yn Awstralia sy'n dylunio cart诺n Bluey

  • Cyhoeddwyd
BlueyFfynhonnell y llun, Ludo Studio

Yn wreiddiol o Benybont, mae Owain Emanuel bellach yn ddylunydd proffesiynol ym Melbourne, ac wedi bod yn gweithio ar y gyfres cart诺n plant, Bluey, sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd ers iddo ymddangos ar ein sgriniau yma ym Mhrydain ddwy flynedd yn 么l.

Ond sut beth yw hi i weithio yn y byd animeiddio, a sut mae Owain yn helpu i ddod 芒 chymeriad Bluey yn fyw?

Roedd Owain yn gwybod ers yn ifanc iawn ei fod eisiau arlunio, mewn rhyw ffordd, pan oedd yn h欧n.

"Ers i mi fod yn fach o'n i mo'yn arlunio," meddai. "Dwi'n arlunio drwy'r amser, ac mae pobl yn gofyn weithiau, be' fyddwn i'n wneud os fyddwn i ddim yn arlunio neu'n gweithio fel animeiddiwr, a does gen i ddim cliw... dwi wedi caru arlunio fy holl fywyd.

"Es i i Brifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, ac astudio animeiddio. Ar 么l hynny, nes i symud i Lundain i weithio ar y cart诺n Mr Bean; dyna oedd fy swydd animeiddio gynta i."

Ffynhonnell y llun, Owain Emanuel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does yna ddim papur a phensil yn agos at arlunio Owain y dyddiau yma; mae popeth yn cael ei wneud ar y cyfrifiadur, lle mae'r botwm 'dadwneud' yn ddefnyddiol iawn!

Er ei fod yn hapus yn Llundain, a ddim 芒 chynlluniau i symud oddi yno, yn 2016 digwyddodd dau beth a drawsnewidiodd ei fywyd.

Yn gyntaf, derbyniodd e-bost gan Joe Brumm, animeiddiwr draw yn Awstralia, yn gofyn i Owain a fyddai ganddo ddiddordeb mewn mynd draw i weithio ar gart诺n roedd ganddo syniad ar ei gyfer.

Ac yn ail, cyfarfyddodd Owain 芒'i bartner Kristen, sydd o Awstralia.

Draw i Awstralia

Y syniad oedd gan Joe oedd cart诺n am deulu o g诺n, ac felly dyna sut y ffeindiodd Owain ei hun, rhyw flwyddyn yn ddiweddarach, yn Brisbane yn gweithio ar Bluey fel Prif Ddylunydd. Yn anffodus, roedd Kirsten yn byw yn Melbourne.

"Roedd rhaid i mi fod yn Brisbane, oherwydd roedden nhw eisiau defnyddio meddalwedd o'n i wedi ei ddefnyddio yn Llundain, oedd ddim yn Brisbane eto. So oedd rhaid i Kristen a fi 'neud long distance Melbourne a Brisbane... ond oedd yn well na Melbourne a Llundain!

"Ar 么l dwy gyfres, ges i symud lawr i Melbourne i wneud cyfres 3 o Bluey. A'r wythnos 'nes i symud lawr, roedd lockdown Covid enfawr, a 'nes i weithio o gartref, felly roedd e'n iawn."

Ffynhonnell y llun, Owain Emanuel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Owain a Kristen bellach ferch fach o'r enw Nia

Dod 芒 Bluey yn fyw

Mae Bluey wedi bod yn ffenomenon; wedi ennill gwobrau di-ri yn Awstralia, ac wedi dod yn ffefryn i blant yno a draw yma ym Mhrydain, gyda phawb wrth eu boddau 芒'r ci direidus a'i theulu annwyl. Er fel y dywedodd Owain, "doedd neb yn gwybod pa mor fawr oedd e am fod."

Gweithio fel dylunydd a rigiwr (rigger) mae Owain yn ei wneud ar y gyfres... ond beth yw hynny? A sut mae ei waith yn ffitio yn yr holl broses o ddod 芒'r cart诺n yn fyw ar y sgrin?

"Fy r么l i ydi i gymryd y propiau a'r cymeriadau mae'r Cyfarwyddwyr Celf yn eu harlunio, a'u hadeiladu gan ddefnyddio meddalwedd arbennig, yn barod ar gyfer yr animeiddwyr," eglura Owain.

"Os yw'r cymeriad angen siarad, cerdded, gafael mewn propiau, troi 360掳... rydyn ni angen dylunio pob si芒p ceg, si芒p troed, si芒p llaw ayyb, nes creu popeth mae'r cymeriad angen ei wneud.

"Ti fel mechanic yn adeiladu'r tu mewn; mae'n rhaid i ran isaf y corff symud y rhan uchaf a'r pen, a mae rhan uchaf y fraich angen gallu symud y rhan isaf, sydd wedyn yn symud y llaw. Yna, mae'r animeiddwyr yn gweithio er mwyn dod 芒'r cymeriadau yn fyw.

"Mae'n job fawr oherwydd mae gan bob cymeriad ar Bluey dros 150 o siapiau ceg, dros 200 o ddwylo a 40 troed."

Disgrifiad,

GWYLIWCH: Peth o waith Owain, wrth iddo ddod 芒 chymeriadau a phropiau Bluey yn fyw

Saith munud yw hyd pennod, ond mae pob pennod gorffenedig yn benllanw ar bedwar mis o waith, o'r dechrau i'r diwedd, ac mae nifer o elfennau angen cael eu tynnu ynghyd er mwyn creu pennod:

  • Sgriptio a recordio'r deialog

  • Animatics - bwrdd stori bras o ddigwyddiadau'r bennod

  • Cyfarwyddo celf - arlunio popeth

  • Dylunio - yr holl siapiau a rigio

  • Layout - rhoi popeth at ei gilydd, mewn trefn

  • Animeiddio - dod 芒 phopeth yn fyw; proses sy'n cymryd pedair wythnos

  • Effeithiau - dylunio 芒 llaw yr elfennau 'naturiol' fel d诺r, t芒n a mwg

  • Sain - ychwanegu synau cefndir

  • Golygu - gwirio fod popeth yn ei le (e.e. ydi'r sain yn cydfynd 芒'r lluniau?), sicrhau fod y bennod yr hyd cywir

Y byd animeiddio

Yn ogystal 芒 gweithio ar Bluey, mae Owain hefyd wedi cael y cyfle i weithio ar gartwnau plant eraill yn Awstralia. Ond, meddai, mae hi'n gallu bod yn eithaf anodd i gael swydd fel dylunydd yn y byd animeiddio, ac wrth gwrs, er fod angen talent, mae yna elfen o lwc a 'phwy ti'n ei 'nabod'.

"O'n i'n lwcus, 'nes i'n dda yn y brifysgol, felly roedden nhw wedi'n anfon i i Lundain am industry night, a 'nes i gwrdd 芒 pherson oedd yn gweithio ar gart诺n Mr Bean. A thrwy lwc, roedd fy mhrosiect terfynol i yn edrych fel steil Mr Bean, a gofynnodd e i mi fynd i weithio ar y gyfres.

"Ers hynny, mae fy swyddi wedi bod drwy bobl dwi'n eu 'nabod.

Ffynhonnell y llun, Owain Emanuel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owain a gweddill y criw a weithiodd ar drydydd cyfres Bluey

"Pan 'nes i symud i Brisbane, doedd gen i ddim network, ond ers symud i Melbourne, es i i industry night a chwrdd 芒 phobl, a'r tri swydd yn Melbourne dwi 'di gael yw drwy e-bostio pobl dwi'n 'nabod. Mae e yn anodd, ond pan ti'n 'nabod rhywun, mae'n haws."

"A bod yn neis hefyd. Dwi'n gwybod am bobl sydd yn well arlunwyr na fi, ond dydyn nhw ddim yn cael gymaint o waith... ti ddim mo'yn gweithio gyda phobl anodd!"

Y dyfodol

Mae Owain nawr wedi bod yn Awstralia ers chwe blynedd, ac mae ganddo a Kristen bellach ferch fach o'r enw Nia.

Mae'r t卯m cynhyrchu yn aros i weld os fydd pedwerydd cyfres o Bluey, ond beth yw uchelgais hirdymor Owain?

Mae eisoes wedi dechrau cwmni animeiddio gyda chyd-weithwraig iddo, ac maen nhw'n edrych am brosiectau ar hyn o bryd, ond mae Owain hefyd 芒'i fryd ar weithio ar rywbeth sydd am ei atgoffa o'i famwlad:

"Dwi erioed wedi gwneud unrhyw beth yn Gymraeg," meddai. "Dwi mor bell o adref - mae fy nheulu i gyd n么l yng Nghymru - a dwi'n colli Cymru gymaint.

Ffynhonnell y llun, Owain Emanuel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dychwelodd Owain i Gymru fis Chwefror 2022, er mwyn cyflwyno'i ferch Nia i'w deulu ym Mhenybont - ei rieni, Meurig a Sue, ei frawd bach, Morgan, ei chwaer fawr, Emma a'i mab, Harri

"Dwi'n trio darllen i Nia yn Gymraeg, felly dwi mo'yn arlunio llyfrau Cymraeg. Does dim rhaid i mi ddod lan gyda'r syniad, jest bod 'Arlunwyd gan Owain Emanuel' arno.

"A byddai cart诺n Cymraeg yn wych. Ond un cam ar y tro...!"

Gallwch wylio Bluey ar 成人快手 iPlayer, CBeebies a Disney+

Hefyd o ddiddordeb: