O Berlin i'r byrfyfyr: Dylanwadau cerddorol Bethan Lloyd
- Cyhoeddwyd
O ganu gyda chorau ysgol mewn eisteddfodau, i wrando ar gerddoriaeth yn selerau tywyll bariau Berlin, i berfformio'n fyrfyfyr mewn gigs ar draws y byd... mae profiadau'r gantores Bethan Lloyd wedi bwydo i mewn i'r gerddoriaeth mae hi'n ei chreu heddiw.
A hithau ar fin rhyddhau ei halbwm gyntaf, Metamorphosis - mae hi'n ei alw yn 'bop arbrofol' - mae'r cerddor o Landdulas, sydd bellach yn byw yn Llanberis, yn trafod y dylanwadau amrywiol ar ei chaneuon.
Corau'r ysgol
Dwi wedi bod yn canu ers blynyddoedd maith. Nes i gychwyn efo'r athrawon gorau; dwi'n oweio gymaint i Dafydd Lloyd Jones (Ysgol y Creuddyn) a Gwyneth Vaughan (Ysgol Bod Alaw) am y profiadau gwych o gystadlu a pherfformio. O'dd hwnna jest yn anhygoel, a dwi'n teimlo fod hwnna wedi bod yn ran mawr o fy hyfforddiant canu i.
Pan es i'r brifysgol, nes i sylweddoli faint o'n i wedi bod yn canu; nes i ddim sylwi ella ar y pryd. Yn y brifysgol, do'n i ddim yn canu gymaint, ac o'n i'n teimlo rhyw fath o iselder yn dod i mewn - fod rhywbeth ar goll! O'n i falle heb sylweddoli ar y pryd pa mor bwysig oedd o i fod mewn cymuned a chanu efo pobl eraill.
Y Gymraeg a Chymru
Mae'r mwyafrif o'r EP diwetha yn Gymraeg, felly dyma'r tro cynta dwi 'di sgwennu yn Saesneg, ac mae'r stwff dwi wedi eu sgwennu y gaeaf yma yn y ddwy iaith, felly dwi'n ôl at y Gymraeg eto.
Mae 'na beth cerddoriaeth sydd jest yn siwtio Saesneg, ac eraill y Gymraeg, ond mae 'na lefel ychwanegol o gysylltiad efo'r Gymraeg - mae o'n agor rhywbeth arall i fyny ynddo fi. A dwi definitely yn canu ychydig bach yn wahanol yn Gymraeg.
Mae pobl yn caru pan dwi'n canu'n Gymraeg, ac yn ei golli o pan dwi ddim. Alla i fynd allan a chanu'n Gymraeg ar draws y byd, ac mae pobl yn gallu teimlo pa mor hen ydi'r iaith.
Dwi'n meddwl fod cerddoriaeth yng Nghymru heddiw yn rili impressive. Dydan ni ddim yn lot o bobl ond mae 'na gerddoriaeth rili da allan yna. Mae'r traddodiad canu yma a dwi'n gallu clywed ein hanes yn y gerddoriaeth. Mae 'na lot o gefnogaeth ar hyn o bryd, a dwi'n teimlo fod hwnna am helpu'r gerddoriaeth i dyfu a thyfu.
Sîn gerddoriaeth Berlin
O'n i wedi bod yn byw yn Llundain am amser hir a thrio creu cerddoriaeth, ond o'n i'n ffeindio'r ddinas yn eitha anodd i fyw ynddi. Es i i fyw i Berlin, heb fod yna o'r blaen, achos mod i wedi clywed pethau da amdano fo. Mae'n ddinas hawdd i wneud ffrindiau ynddi, ac mae 'na gymaint o bethau yn mynd ymlaen, ond mae o hefyd yn rili relaxed.
Mae 'na lot o scenes cerddoriaeth gwahanol; o'n i'n hoffi'r scenes experimental, improv, noise... lle faset ti yn llythrennol yn gallu gwneud unrhywbeth. O'n i'n mynd i lot o gigs ac yn perfformio lot mewn gigs basement style.
O'dd o'n gyfle rili da i gael dros yr ofn o ganu unrhywbeth o flaen unrhyw un. 'Nath hwnna rili agor fi fyny yn greadigol, a sylweddoli does dim rhaid i mi gadw at strwythur pop... galla i jest gwneud unrhywbeth. Dyna dwi'n ei garu.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
O'dd 'na ryddid yn Berlin; mae'r gerddoriaeth a'r agwedd greadigol fan'na yn 'do whatever'. A dwi'n teimlo mod i wedi dod â hwnna'n ôl efo fi.
O'dd gen i ddiddordeb mewn cymryd y rhannau hynny o'n i wedi eu dysgu a'u rhoi nhw mewn i gân mai dim jest pobl mewn basements yn Berlin fyddai'n ei mwynhau!
Cerddoriaeth arbrofol
Mae'r cwestiwn am genre yn rili anodd, achos dwi'n meddwl bo' fi'n tynnu ar lot o bethau gwahanol, achos dwi'n caru lot o gerddoriaeth wahanol. Dwi'n licio'r gorau o bopeth, a dwi'n gallu mwynhau unrhywbeth.
Mae'r albwm yma yn experimental pop ella, ond dwi ddim yn gwybod os mai dyna fydda i'n ei neud nesa'. Mae lot o bobl yn galw fi'n werinol hefyd, yn y ffordd dwi'n canu. Felly electronic folk pop...?!
Mewn ffordd, dwi ddim yn teimlo mod i wedi ffeindio fy sain eto. Dwi dal ar y siwrne yna, a gobeithio fydda i am weddill fy oes, achos dyna sy'n ddiddorol.
O'n i'n arfer sgwennu efo jyst llais; cychwyn efo jyst llais a looper, a pitcho fo i lawr i greu y bâs, a'i dorri i fyny i neud y rhythm. O'n i wastad yn meddwl ma' dyna'r cwbl 'swn i'n ei 'neud. Ond pan nes i gychwyn gweithio ar yr albym, o'n i rili isho gneud rhywbeth mawr, in your face, a rŵan dwi 'di gneud hynny, galla i wneud rhywbeth gwahanol nesa'.
Ysbrydoldeb
Dwi wedi cael profiadau ysbrydol - hyd yn oed jest teimlo'n agos at natur - ers bo' fi'n rili ifanc. A dyna beth wnaeth 'neud i fi fod â diddordeb mewn addysg grefyddol yn yr ysgol, a wedyn yn y brifysgol.
A dwi wedi trafeilio lot o gwmpas y byd ar ben fy hun, yn astudio fy hun a thrio pethau allan a dysgu mwy wrth wneud. O'dd hwnna yn fy ysbrydoli i lot yn fy ngherddoriaeth i hefyd. Mae'r ddau rili yn mynd efo'i gilydd; y gerddoriaeth a'r ysbrydoldeb.
Proses fi o sgwennu ydi treulio lot o amser ar ben fy hun yng nghanol nunlle, yng nghanol natur. Dwi'n licio bod yn rhywle sydd yn fy ysbrydoli i. Does 'na neb arall yn gallu clywed fi, a weithiau mae o'n 45 munud o wneud synau a thrio pethau allan a mynd i mewn i altered state.
Dwi jest yn licio pigo fyny ar egnïoedd sydd o gwmpas. Dwi'n teimlo'n connected i bopeth a phawb, a dwi'n teimlo'n rili present ac yn rili fyw.
Canu byrfyfyr
Oedd lot o bethau o'n i'n 'neud yn Berlin ddim yn bethau o'n i wedi eu cyfansoddi, ond jyst yn bethau o'n i'n gneud i fyny ar y spot, a dwi wedi teithio yn nwyrain Ewrop efo band improv.
Mae lot am jyst gadael fynd a dim malio beth mae neb yn ei feddwl (er haws dweud na gwneud). Ond 'da ni'n gallu ymarfer a trystio a gwybod whatever will be, will be.
Mae hwnna'n cymryd lot o'r pwysau i ffwrdd. Ti'm yn gorfod ei gael yn 'gywir'; does 'na ddim cywir ac anghywir mewn cerddoriaeth.
Weithiau mae o'n anoddach sefyll ar y llwyfan a chanu stwff ti wedi ei ymarfer... a wedyn ella fod pobl dal ddim yn licio fo.
Ar ddiwedd y dydd, beth sydd yn bwysig ydi creu rhywbeth 'da ni'n ei licio ein hunain. Dyna'r unig ffordd i fod yn hapus efo fo.