成人快手

Pum munud gyda Bardd y Mis: Sioned Erin Hughes

  • Cyhoeddwyd
Sioned Erin HughesFfynhonnell y llun, Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sioned Erin Hughes

Sioned Erin Hughes o Foduan, Pen Ll欧n yw Bardd y Mis, Radio Cymru ar gyfer mis Mawrth. Cipiodd Erin Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 gyda'i chyfrol Rhyngom. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.

Rwyt ti wedi gosod her i ti dy hun eleni, sef ysgrifennu cerdd/darn o l锚n meicro bob diwrnod am flwyddyn a'u rhannu ar dy gyfrif Instagram @myfyrdod365.

Sut mae'r her yn mynd a faint o sialens ydy ysgrifennu darn a'i gyhoeddi bob dydd? Oes yna ddyddiau heb ysbrydoliaeth neu ydy hi'n wastad yn hawdd i ti ffeindio rhywbeth i ysgrifennu amdano?

Mae bob dydd yn dod efo'i ysbrydoliaeth, ond dydi hynny ddim yn golygu mod i wastad yn teimlo'n ddigon tebol i greu unrhyw beth o'r ysbrydoliaeth hwnnw. Weithia, ma'r geiria mewn st芒d hirhoedlog o pending. Weithia, fydda i'n gorwedd yn fy ngwely wrth iddi nesu am hanner nos, a dwi'n teimlo fel mod i wedi cyrraedd y diwrnod tyngedfennol hwnnw, lle mae fy syniadau creadigol i gyd wedi rhedeg yn sych.

Ffynhonnell y llun, Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Desg Erin

Ond ar 么l ychydig eiliadau melodramatig, mae'r syniad yn dod. Dwi ddim wastad isio sgwennu, nagoes, ond ar 么l gorffen sgwennu bob darn, dwi'n cael ymdeimlad mawr o werth ac yn cwestiynu pam faswn i isio gwneud unrhyw beth arall ond sgwennu.

Rwyt ti wedi sefydlu elusen Mesen, elusen sy'n mynd i'r afael 芒 hunanladdiad o ogwydd gwahanol, ac fe wnest ei sefydlu yn dilyn dy brofiadau dy hun o iselder. Ydy ysgrifennu o gymorth i ti wrth ofalu am dy iechyd meddwl? Beth arall sy'n dy helpu i ofalu amdanat ti dy hun?

Alla i fyth a sgwennu o lygad y storm, a dwi wedi bod isio dweud hynny'n glir wrth bobl ers tro. Pan ro'n i'n dioddef yn ddybryd efo salychau meddwl catatonig, roedd sgwennu yn gwbl, gwbl amhosib. Roedd hynny'n torri fy nghalon, ond doedd fy meddwl brau yn methu'n glir 芒 rhoi dau air at ei gilydd, heb s么n am ddim byd mwy na hynny.

Ond, o gyrraedd yr ochr arall, mae sgwennu wedi bod yn antidot amgenach nac unrhyw beth arall imi. Mae wedi gwneud y broses o ddygymod a dysgu byw efo'r hyn sydd wedi digwydd imi yn gymaint haws. Mae wedi bod yn ffrind triw, ac mae'n dal i fod bob diwrnod.

Eleni, rwyt ti wedi dechrau cadw ieir. O le ddaeth y penderfyniad hwnnw?

Mi brynais i ddwy i芒r i fy nghariad ar ei ben-blwydd, ac mi brynodd ddwy i芒r i finna yn bresant pen-blwydd cynnar. Gwenith a Sinsir ydi enwau fy rhai i, Iarnold Schwarzenegger a Cluck Norris ydi enwau rhai Dafydd, er mod i'n gwingo wrth ddweud hynny wrth bobl!

Ffynhonnell y llun, Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erin gyda un o'i hieir yn ferch fach

Roedd gen i gymaint o anifeiliaid yn hogan ifanc - ieir, cwningod, cathod... Ma gen i'r atgofion hyfryta erioed efo nhw i gyd - Eban Si么n, Jini a Sali, Manon a Menna, Ladi Lwyd...

Dwi'n teimlo bod llawer o fy ngwellhad i a fy ffordd o brosesu trawma yn golygu mynd yn 么l at bwy o'n i pan ro'n i'n iau, cyn i bethau fynd o chwith. Mi wnes i sgwennu am hyn yn ddiweddar, bod cymaint o ran o dyfu i fyny - i mi, beth bynnag - yn golygu mynd yn 么l at y plentyn tu mewn.

Mae'r ieir wir wedi bod yn fendithiol o ran hynny. Mae'n rhan mawr o fy therapi personol i ofalu am anifeiliaid - i wneud yn si诺r eu bod nhw'n iach, i'w mwytho nhw, i'w bwydo nhw. A dwi'n dotio at eu gweld nhw'n mynd o gwmpas eu pethau bob dydd, hefyd. Fyddai'n dal fy hun yn eu hastudio nhw drwy'r ffenest yn aml. Maen nhw'n hyfryd o ddigri.

Ffynhonnell y llun, Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erin gydag un o'i hieir heddiw

Llynedd, enillaist Y Fedal Ryddiaith gyda dy gyfrol Rhyngom. Beth yw dy hoff gyfrwng; barddoniaeth neu ryddiaith?

Mi fydd y cwestiwn yma'n fy nghadw i'n effro heno! Mae'r ddau gyfrwng wedi cipio fy nghalon i'n llwyr, ac wedi fy nysgu sut i fyw mewn tynerwch ac addfwynder, ac ymarfer y ddau beth elfennig yma bob dydd. O ran fy sgwennu, rhyddiaith fuodd hi am flynyddoedd, a dim ond eleni dwi wedi troi fy llaw at farddoniaeth. Ond o ran dylanwad ar fy mywyd a'r person ydw i heddiw, mae'r ddau gyfrwng yn gwbl, gwbl hafal.

Ffynhonnell y llun, Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erin yn cipio'r Fedal Ryddiaith

Petaet yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Mi fyddwn i'n licio blas ar y bywyd mae'r bardd Rupi Kaur yn ei fyw. Mae hi'n trafeilio'r byd efo'i barddoniaeth, ac yn un o'r lleisiau mwyaf grymus sy'n bod ar hyn o bryd, yn fy marn i. Dwi'n meddwl bod ei gwaith wedi bod yn gynhaliaeth i lot o bobl dros y byd, merched yn enwedig, gan fy nghynnwys i fy hun.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddet ti wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Fy hoff gerdd yn y byd ydi Hedydd yn yr Haul. Mi wnes i ei hadrodd yn ddeuddeg oed mewn steddfod neu'i gilydd, a dwi'n cofio'r ymarferion dirifedi yng nghegin Rhian Crugeran, lle nes i wirioneddol ddisgyn mewn cariad efo geiriau a'r grefft o gyfleu. Dwi'n dal i'w chofio air am air. Pan mae'r bardd yn galw Cymru yn smotyn, ac yn dweud i dduw lenwi'r smotyn '芒 thrugaredd, ac etifeddiaeth, a hanes; a'i lapio'n dyner mewn deigryn, fel bod 'och' ymhob calon.' Bendigedig.

Ffynhonnell y llun, Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erin gyda'i chi, Eldra fydd yn 10 oed eleni

Beth sydd ar y gweill gen ti ar hyn o bryd?

Dwi'n mynd i aros ym mwthyn encil T欧 Newydd, Nant, dros y penwythnos, a dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy. Mae'r lle yn agos iawn at fy nghalon i, ac yn noddfa pan dwi angen rhoi fy mhen i lawr a chau drws ar y byd am ychydig.

Mae gen i ddrama fer i'w sgwennu erbyn canol y mis, felly dyna fydd gen i ar y gweill y diwrnodau nesaf. Does wbod beth ddaw wedyn - mae bywyd yn un antur fawr ar hyn o bryd a dwi'n dotio at y cyfleoedd sy'n dod i'm rhan, ac yn cydnabod maint fy mraint bob dydd. Dwi'n teimlo'n wirion o ffodus.

Hefyd o ddiddordeb: