Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Betsi Cadwaladr: 'Nid nawr yw鈥檙 amser' i rannu'r bwrdd iechyd
Nid nawr yw'r amser i "wneud newidiadau strwythurol" i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.
Wrth drafod ei phenderfyniad i roi bwrdd iechyd y gogledd yn 么l dan fesurau arbennig, dywedodd nad oedd ganddi "unrhyw fwriad i rannu'r bwrdd iechyd yn sefydliadau llai".
Galwodd y Ceidwadwr Darren Millar am ymddiheuriad i bobl yr ardal am "fethiant" Llywodraeth Cymru i ddatrys "problemau dwfn" y gwasanaeth.
Pwysleisiodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price alwad ei blaid am "strwythur gwahanol" yn hytrach nag "unwaith eto aildrefnu'r cadeiriau ar long sy'n suddo".
'Angen gwelliant sylweddol a chyflym'
Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai bwrdd iechyd mwyaf Cymru'n dychwelyd i fesurau arbennig, cafwyd cadarnhad bod holl aelodau'r bwrdd arweinyddiaeth wedi ymddiswyddo.
Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd ddydd Mawrth ei bod hi nawr yn "bwysig canolbwyntio ar ansawdd a darpariaeth gwasanaethau, sydd angen gwelliant sylweddol a chyflym".
"Felly nid oes gennyf unrhyw fwriad i rannu'r bwrdd iechyd yn sefydliadau llai, yn enwedig ar adeg pan rydym yn annog cydweithredu a gweithio rhanbarthol sydd ei angen i gefnogi gwell canlyniadau clinigol i gleifion," meddai.
"Byddai ad-drefnu yn aflonyddgar iawn ac yn tynnu sylw oddi ar yr angen i ganolbwyntio yn awr ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl gogledd Cymru."
Ychwanegodd: "Er y bydd mesurau arbennig yn berthnasol i'r sefydliad, hoffwn roi sicrwydd i'r cleifion a'u cymunedau a wasanaethir gan y bwrdd iechyd, yn ogystal 芒'r staff sy'n gweithio ar ei gyfer, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau dydd i ddydd yn parhau yn 么l yr arfer, gan ganolbwyntio'n gynyddol ar ansawdd a diogelwch.
"Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad ar staff gweithgar ac ymroddedig rheng-flaen y bwrdd iechyd, sy'n gweithio'n ddiflino i helpu cleifion a gwella eu bywydau."
Ei gobaith, meddai, yw y bydd y penderfyniad "yn mynd 芒 ni ar y llwybr at fwrdd iechyd y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu, y mae ganddyn nhw hyder ynddo ac yn gallu bod yn falch ohono".
Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi cytuno gyda'i gilydd na ddylai'r bwrdd iechyd fod wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn y lle cyntaf.
"Rwy'n dal i gredu bod y penderfyniad hwnnw'n wleidyddol, waeth beth yr ydych wedi'i ddweud heddiw, ac ni ddylai byth fod wedi digwydd," meddai'r Ceidwadwr Darren Millar AS.
"Fe wnaethon ni alw yn y Siambr hon fis Mehefin diwethaf ar i'r sefydliad fynd yn 么l i fesurau arbennig, ac fe wnaethoch chi wrthod gwrando ar ein galwadau."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, ar ran Plaid Cymru, fod "hyder yn y llywodraeth hon a gallu gweinidogion i roi trefn ar Betsi wedi hen ddiflannu".
Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, ac fe ddaeth allan o fesurau arbennig yn 2020.