Pont y Borth: Cau yn rhannol ar gyfer gwaith trwsio
- Cyhoeddwyd
Bydd Pont y Borth yn cau yn rhannol yr wythnos nesaf, er mwyn gwneud gwaith pellach fydd yn golygu gallu ailagor y strwythur yn llawn.
Yn gynharach yn y mis cafodd y bont ei hailagor i gerbydau yn pwyso llai na 7.5 tunnell yn dilyn gwaith dros dro, ond mae angen gwaith pellach cyn gallu ei hailagor i holl draffig.
Oherwydd yr angen am "waith cynnal a chadw hanfodol" fe gaewyd y bont yn ddi-rybudd fis Hydref y llynedd, gan achosi trafferthion i fusnesau a theithwyr yr ardal.
Dim ond Pont Britannia oedd yr unig ffordd i gerbydau groesi rhwng yr ynys a'r tir mawr.
Cau'n rhannol yn ystod y dydd
Cyn ailagor y bont yn llawn bydd angen gwaith i newid yr holl hangeri, gan olygu mai dim ond un l么n fydd i draffig am gyfnodau.
Yn 么l Llywodraeth Cymru bydd cyfnod treialu yn dechrau ar 6 Mawrth, gyda'r bwriad o'i gwblhau o fewn pedwar diwrnod os bydd y tywydd yn ffafriol.
Er mwyn "tarfu cyn lleied 芒 phosibl yn yr ardal leol", bydd y goleuadau traffig ond yn cael eu defnyddio rhwng 09:00 a 15:00.
Mewn datganiad dywedon nhw: "Bydd angen i ni gau l么n dros dro ar y bont er mwyn caniat谩u i beirianwyr weithio'n ddiogel a phrofi'r system newid hangeri arfaethedig.
"Pan fydd l么n ar gau, bydd goleuadau traffig yn gweithredu'n rhan amser ar bob pen i'r bont - gan ganiat谩u i gerbydau groesi i'r naill gyfeiriad neu'r llall pan fydd hynny'n cael ei ganiat谩u.
"Bydd y treialu yn dechrau ar y 6 Mawrth a'r bwriad yw ei gwblhau o fewn pedwar diwrnod, er y gallai hyn gymryd mwy o amser os oes tywydd garw neu broblem annisgwyl arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022