Cyfle i brynu darn o hanes rhaglen eiconig C'mon Midff卯ld

Disgrifiad o'r fideo, Mae cyfle i rhywun brynu'r cwilt o dyweli cwrw o dafarn y Bull, Bryncoch

Mae cyfle unigryw wedi codi i brynu darn o hanes cyfres boblogaidd C'mon Midff卯ld gyda'r elw yn mynd at achos da.

Mae Dei Elfryn yn gwerthu blanced wedi'i wneud allan o dyweli cwrw o dafarn y Bull, Bryncoch a gafodd eu cynnwys yn y gyfres.

Yn ystod y 1990au roedd tad Dei, Morus Elfryn, yn gweithio ar gyfres C'mon Midff卯ld fel Rheolwr Cynhyrchu.

Bu farw Morus bron i flwyddyn yn 么l, a bydd yr elw sydd yn cael ei wneud ar 么l gwerthu'r flanced yn cael ei roi i elusen canser er cof amdano.

Un o olygfeydd enwocaf y gyfres yw pan mae Wali Thomas yn dweud wrth blismon mai ei enw yw 'Glyn Ffidich' wrth gael ei gwestiynu ar 么l aros yn y Bull ar 么l oriau cau.

Ffynhonnell y llun, Dei Elfryn

Disgrifiad o'r llun, Roedd Morus Elfryn yn gweithio fel Rheolwr Cynhyrchu ar gyfres C'mon Midff卯ld

"Mae'r stori yna mor ddoniol yn C'mon Midff卯ld. Mae'n neis bod hwnna ar y flanced, achos dwi'n meddwl mai hwnna ydy un o'r j么cs gorau yn y rhaglen," meddai Dei wrth 成人快手 Cymru Fyw.

Wrth i Morus ddychwelyd adref o'i waith gyda'r tyweli cwrw, penderfynodd mam Dei i greu cwilt allan o'r holl dyweli.

"Dyna oedd fy nghwilt gwely i am flynyddoedd maith," meddai Dei.

"Am ein bod ni wedi colli Dad flwyddyn diwethaf i ganser, o'n i'n meddwl os oes gan unrhyw un ddiddordeb ynddo fo neu rywun isho fo, fysan ni'n bidio amdano a chodi pres."

Mae'r ocsiwn yn agored am rai dyddiau ac mae modd gweld yr holl fanylion drwy chwilio am enw Dei Elfryn ar Facebook.