'Dylai plant sydd 芒 nam golwg gael yr un cyfleoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae dros 70 o blant wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiwn rygbi i bobl sydd 芒 nam ar eu golwg ym Mharc yr Arfau.
Mae Sefydliad Rygbi Cymunedol Caerdydd yn ceisio hyrwyddo'r gamp gan mai dim ond un t卯m sydd yng Nghymru.
Cafodd y sesiwn ddydd Mercher - y digwyddiad mwyaf o'i fath erioed - ei drefnu ar y cyd rhyngddyn nhw ac elusen RNIB Cymru.
Dywedodd un o gynrychiolwyr yr elusen y dylai plant sydd 芒 nam ar eu golwg "gael yr un cyfleodd 芒 phawb".
Dywedodd Emma Jones: "Dw i'n si诺r fod pobl yn meddwl bod hi'n anodd i bobl sydd 芒 nam er eu golwg i chwarae rygbi a dyna bwysigrwydd diwrnodau fel heddi yw ein bod ni'n gallu dangos i bobl eu bod nhw'n gallu chwarae rygbi gyda ffrindiau.
"Dyle' plant gyda nam er eu golwg gael yr un cyfleoedd 芒 phawb i gymryd rhan mewn chwaraeon er mwyn cadw'n iach a mwynhau eu hunain."
'Braf ymestyn y g锚m'
Yn 14 oed, fe roddodd Cai Emlyn o Gastellnewydd Emlyn y gorau i chwarae rygbi. Roedd tiwmor ar ei ymennydd yn golygu ei fod wedi colli 80% o'i olwg ac nid oedd hi felly'n ddiogel iddo chwarae.
Roedd Cai, sy'n 27 erbyn hyn, ar ben ei ddigon ar 么l darganfod rygbi i bobl gyda nam ar eu golwg ar 么l symud i Gaerdydd.
"Mae'n brilliant," dywedodd, "mae'r gymuned sydd lawr fan hyn mor gefnogol i ni. Mae g锚m yn dod lan dros y penwythnos yn erbyn yr Harlequins a'r Worcester Warriors.
"Bydd hi'n braf iawn ymestyn y g锚m nam golwg ymhellach a gobeithio un dydd bydd yna gynghrair gystadleuol i ni gystadlu ynddi.
"I fi, yn 14, daeth rygbi i ben ac o'n i'n meddwl bod e drosodd. I'r plant yma heddi maen gr锚t gweld y w锚n ar eu hwynebau nhw achos nhw yw'r dyfodol i gario'r g锚m yma ymlaen."
Ymhlith y plant oedd yno oedd rhai o ddisgyblion Ysgol Gartholwg ger Pontypridd.
Mae gan Liberty, sy'n 11, nam er ei golwg.
"Mae'n anhygoel. Rygbi yw fy hoff gamp," dywedodd.
"Dw i ddim yn gweld yn dda o gwbl... mae gen i broblem yn fy llygad chwith. Mae'n bwysig bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan."
Mae Dewi sy'n 12 yn gorfod gwisgo sbectol i wneud chwaraeon.
"Mae pobl sydd 芒 nam ar eu golwg yn ffeindio chwaraeon yn fwy anodd felly dwi'n meddwl bod e'n dda fod pawb yn chwarae gyda'i gilydd. Mae chwarae ym Mharc yr Arfau wedi bod yn un o fy mreuddwydion."
Yn 么l Gethin sy'n 13, mae'r sesiynau'n anfon neges bwysig.
"Llawer o amser dyw pobl anabl ddim yn credu eu bod nhw'n gallu gwneud llawer o bethau. Os y'n nhw'n gwbod bod yna gymuned o bobl yn gwneud hyn bydd e'n codi hyder pobl."
G锚m saith-bob-ochr yw rygbi i bobl sydd 芒 nam ar eu golwg.
Mae'r gamp yn debyg i rygbi cyffwrdd gyda th卯m yn colli meddiant ar 么l chwe chyffyrddiad.
Does dim cystadlu yn y sgryms na'r llinellau ac mae dynion a merched yn chwarae gyda'i gilydd. Mae cloch yn y b锚l hefyd.
'Pwysig gwybod bod llwybr datblygu'
Yn 么l Gareth Davies a sefydlodd y t卯m yng Nghaerdydd bedair blynedd yn 么l, roedd y digwyddiad ddydd Mercher yn bwysig gan nad yw pobl wastad yn deall sut beth yw bod yn rhannol ddall.
"Mae gan 90% o bobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall rywfaint o olwg felly maen nhw'n gallu gwneud y rhan fwya' o bethau mae pawb arall yn gallu 'neud.
"Mae pobl yn meddwl falle nad y'ch chi'n gallu gweithio, cymdeithasu na chymryd rhan mewn chwaraeon felly mae heddi'n gyfle i herio hynny.
"Hwn yw'r digwyddiad cynta o'i fath yn y byd, be ni'n neud yw creu diddordeb fel bod plant sydd 芒 nam ar eu golwg yn gw'bod bod yna lwybr datblygu iddyn nhw. Mae'n ddiwrnod pwysig o ran datblygu chwaraeon anabl yng Nghymru.
"Mae rygbi byddar a rygbi cadair olwyn wedi hen sefydlu. Ni eisiau gweld rygbi i bobl gyda nam ar eu golwg yn hawlio'i le hefyd."
Ar hyn o bryd, Caerdydd yw'r unig ranbarth Cymreig sydd 芒 th卯m rygbi i bobl 芒 nam er eu golwg ond mae'r criw brwd yn gobeithio gweld y gamp yn tyfu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018