Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caniat芒d parc gwyliau Penrhos 'ddim yn ddilys' yn 么l ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu datblygiad pentref gwyliau ar Ynys Cybi ym M么n yn honni nad ydy'r caniat芒d cynllunio a roddwyd i'r prosiect yn 2016 yn ddilys erbyn hyn.
Yn 么l twrneiod ar ran y gr诺p Achub Parc Arfordirol Penrhos Caergybi, mae'r datblygwr wedi methu 芒 chyflawni rhai o ofynion y caniat芒d.
Maen nhw'n dweud bod angen i'r cwmni - Land and Lakes, sy'n dod o Ardal y Llynnoedd - gyflwyno cais o'r newydd.
Mae'r cais i godi 500 o unedau gwyliau a phwll nofio ar ran o barc gwledig Penrhos yn rhygnu ymlaen ers 2012.
Mae'r safle - sy'n cynnwys coedwigoedd wiwer goch, ac sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig - yn hafan i fyd natur, ac wedi ennill gwobr fel y parc gwledig mwyaf poblogaidd yn y DU.
Dywed y cwmni y byddai'r datblygiad yn denu bron i 500 o swyddi i'r ardal, ond mae'r cynlluniau wedi denu gwrthwynebiad hefyd.
Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ac yn 么l y cwmni, byddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.
Mewn llythyr at Gyngor M么n yr wythnos hon, dywed cyfreithwyr yr ymgyrchwyr nad yw Land and Lakes wedi ateb rhai o ofynion y caniat芒d.
Mae cwmni Land and Lakes yn mynnu bod peth gwaith wedi'i wneud ar y safle a bod hynny'n ddigon i "ddiogelu" y caniat芒d cynllunio am oes.
Ond dywed cwmni cyfreithwyr Richard Buxton, sy'n arbenigo mewn cyfraith cynllunio a'r amgylchedd, nad oedd y gwaith a wnaethpwyd ar y safle'n ddigonol i ateb gofynion y caniat芒d.
'Heb ei wireddu'
Roedd y gwaith hwnnw'n cynnwys adnewyddu rhan o lwybr pren a oedd wedi pydru, a symud carped o adeilad gwag oedd yn rhan o'r cais, meddent.
"Mae'n glir nad yw'r caniat芒d (amlinellol a llawn) wedi cael ei wireddu, a gan fod y dyddiad cau wedi pasio nid yw'n bosib iddo gael ei wireddu," meddai'r cyfreithwyr.
"O ganlyniad fe ddylai fod gofyn i'r datblygwr (os yw'n awyddus i barhau 芒'r datblygiad) gyflwyno cais newydd."
Nid oedd neb ar gael i wneud sylw ar ran cwmni Land and Lakes, ond mewn datganiad ar wefan Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Cafodd datblygiad Penrhos ei ddechrau yn 2021, sydd yn golygu bod caniat芒d cynllunio ar y safle yn parhau yn ddilys am byth."
Mae'r 成人快手 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ynys M么n.