Cwmni Cymreig yn anelu unwaith eto am y gofod

Ffynhonnell y llun, Space Forge

  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig 成人快手 Radio Cymru

Mae cwmni o Gaerdydd yn paratoi ar gyfer ymdrech newydd i anfon un o'i lloerennau i'r gofod.

Roedd lloeren gafodd ei chynhyrchu gan gwmni Space Forge ar fwrdd ymdrech aflwyddiannus Virgin Orbit yn gynharach yn y mis.

Ond mae'r cwmni o'r brifddinas nawr yn dweud bod gwaith eisoes ar y gweill i drio unwaith eto i gyrraedd y gofod cyn diwedd y flwyddyn.

Dywed Josh Western ei bod hi'n siom nad oedden nhw wedi llwyddo i fynd i'r gofod mis yma, ond eu bod wedi dysgu gwersi pwysig.

Roedden nhw hefyd yn ymfalchio yn y ffaith eu bod wedi adeiladu a lansio'r lloeren gyntaf erioed i'w chynhyrchu yng Nghymru.

"Ry'n ni hefyd yn gwybod," meddai, "fod Forge Star 0 wedi gweithio yn berffaith ac wedi pasio pob prawf.

"Mae'n drueni na chawson ni gyfle i ddangos hynny yn y gofod."

Disgrifiad o'r llun, Mae Josh Western yn anelu am y s锚r gyda Forge Star 1

Ond er y siom mae'r cwmni eisoes yn gweithio ar gynhyrchu lloeren newydd - Forge Star 1.

Maen nhw'n gobeithio lansio hon yn hwyrach eleni o Florida yn yr Unol Daleithiau.

"Mae hon tua 10 gwaith yn fwy na Forge Star 0 ac yn dangos sut ni'n datblygu technoleg arloesol i ailgylchu ac ailddefnyddio lloerennau," ychwanegodd Mr Western.

'Huge' i Gymru

Mae Steffan Henry, o Gaerfyrddin yn wreiddiol, yn beiriannydd morwrol gyda'r cwmni ac wedi bod yn gweithio ar y prosiect.

"Mae hwn yn rhywbeth gwbl unigryw. I Gymru ma hwn yn huge," meddai.

"Ni wir yn y dyfodol ac yn gwbl arloesol fan hyn ac mae e mor gyffrous.

"Mae hwn yn arwain y ffordd trwy'r byd, a phobl o bob man yn gwybod pwy i ni, ac mae gyment o botensial i Gymru yn y maes yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae Steffan Henry yn credu fod y cyfan yn arwyddocaol i Gymru

I'r t卯m yng Nghaerdydd mae posiblrwydd cryf y byddan nhw nawr yn rhan o chwyldro diwydiannol newydd, nid ar y ddaear, ond yn y gofod.

Maen nhw'n disgrifio pob lloeren fel ffatr茂oedd micro lle fydd "pethau yn gallu cael eu cynhyrchu".

Dywed Mr Henry: "Ry'n ni'n trio newid y ffordd ry'n ni yn meddwl am gynhyrchu pethe.

"Ar y funed pan bo' ni siarad am gynhyrchu ry'n ni'n meddwl am ffatr茂oedd.

"Ry'n ni am newid hwnna fel ein bod yn y dyfodol yn meddwl mwy am gynhyrchu pethe yn y gofod."