成人快手

Costau byw: Cynnydd o 9.4% mewn cymorth i fyfyrwyr prifysgol

  • Cyhoeddwyd
Maddie DarlingtonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maddie yn gorfod gweithio tra'n astudio gan fod y cymorth ariannol presennol i gyd yn mynd ar "fwyd, biliau a rhent"

Bydd myfyrwyr Cymru yn derbyn cynnydd o 9.4% mewn cefnogaeth ariannol i'w helpu yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae'n golygu y gall myfyriwr prifysgol llawn-amser hawlio 拢11,720 ar gyfartaledd mewn cymorth cynhaliaeth, o'i gymharu 芒'r 拢10,710 presennol.

Mae disgwyl i'r cynnydd ddod i rym ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.

Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU newydd gyhoeddi codiad o 2.8% ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr.

Daw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn sgil adroddiadau bod costau byw uwch yn arwain at nifer o broblemau i fyfyrwyr, yn cynnwys straen, tlodi, a gorfod dewis rhwng bwyta a chymdeithasu.

Myfyrwyr addysg uwch llawn-amser a rhan-amser, ac sydd wedi dechrau cwrs ers Awst 2018, fydd yn gymwys ar gyfer y codiad.

'Rhent yn mynd lan 拢100 y mis'

Mae Maddie Darlington, 19 o Abertawe, yn gorfod gweithio tra'n astudio'r Gyfraith yng Nghaerdydd ac yn "falch iawn" o glywed am y cymorth ychwanegol.

"Fi'n gweithio ar y funud a mae'n rili anodd cadw lan gyda gwaith a phopeth ar yr un pryd, yn enwedig gan bo' fi'n mynd mewn i fy mlwyddyn olaf ym mis Medi," dywedodd wrth Cymru Fyw.

"Bydda i eisiau canolbwyntio ar waith a falle ddim gyda'r amser i weithio swydd hefyd."

Mae'n derbyn benthyciad cymorth myfyrwyr ar hyn o bryd ond mae'r arian, meddai, "i gyd yn mynd ar bethau dwi angen i fyw".

"Mae'r loan yn mynd ar fwyd, rhent a biliau. Beth dwi'n ennill yn y gwaith dwi'n gwario ar gymdeithasu ac mae hwnna'n rhan bwysig o fod yn y brifysgol.

"Flwyddyn nesa' bydd rhent ni'n mynd lan 拢100 y mis felly mae hwn yn mynd i fod yn help."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Megan Davies yn dweud ei bod hi a'i ffrindiau yn osgoi defnyddio'r gwres yn gyfan gwbl er mwyn arbed arian

Mae'r cyhoeddiad yn cael ei groesawu gan Megan Davies hefyd, sy'n 19 ac yn astudio'n y brifddinas.

"Ni'n byw heb wres rili achos y costau'n mynd lan, ni'n llym iawn o ran be ni'n gwario."

Mae Megan hefyd yn gweithio ar ben ei hastudiaethau er mwyn "llenwi'r bwlch" ariannol.

Ond mae'n poeni am y straen o wneud hynny wrth iddi ddechrau yn ei thrydedd flwyddyn ym mis Medi.

"Bues i'n brysur iawn ym mis Rhagfyr gydag oriau gwaith a rhan o hwnna oedd gw'bod bod digon o arian gyda fi ar gyfer biliau mis Ionawr.

"Flwyddyn nesa', sa i'n gweld bydd hwnna'n bosib gyda gwaith prifysgol."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Gwenidog Addysg Jeremy Miles na ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio

Mae'r gefnogaeth ar gyfer costau byw yn codi yn unol 芒'r cynllun Cyflog Byw Cenedlaethol, sy'n unigryw i Gymru.

Bydd y cymorth uchaf yn cael ei roi i'r rhai sydd fwyaf ei angen.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol.

"Bydd y cynnydd hwn yn y cymorth yn sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu cael mynediad i addysg uwch."