'Gwaith papur p脿s teithio yn annheg i bobl anabl'

Ffynhonnell y llun, Ant Evans

Disgrifiad o'r llun, "Byddai byw heb fws yn gwneud pethau'n anodd iawn i mi," meddai Ant Evans
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru

Mae pryder bod nifer o bobl ag anableddau yng Nghymru yn colli allan ar docynnau teithio am bris llai oherwydd meini prawf "annheg", yn 么l elusen.

Dywedodd un dyn o Gaernarfon fod y broses o orfod cyflwyno tystiolaeth yn "gur pen", ac y byddai byw heb fws yn rhwystro ei annibyniaeth.

Mae'n rhaid i bobl gyflwyno tystiolaeth fel gwaith papur eu bod nhw'n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol - neu PIP - er mwyn derbyn p脿s teithio.

Ychwanegodd menyw o Ben-y-bont sy'n byw ag anabledd nad yw hi'n gadael y t欧 wrth wynebu problemau'n gwneud cais am ei ph脿s.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), sy'n gyfrifol am yr asesiadau PIP, yn dweud eu bod nhw'n blaenoriaethu cwblhau'r ceisiadau yn gyflym.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ant Evans fod gorfod trefnu'r gwaith papur yn "gur pen"

Mae Ant Evans o ardal Caernarfon yn un sydd wedi derbyn cais i gyflwyno tystiolaeth ei fod yn gymwys ar gyfer y Cerdyn Teithio Rhatach.

Mae'n byw gyda hydrocephalus a nam golwg, ac yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

"Mi fyddai byw heb fws yn gwneud pethau'n anodd iawn i mi," meddai. "I fi, mae'n hollbwysig i sicrhau annibyniaeth."

'Cur pen'

Er bod ei gerdyn teithio yn gweithio ar y bws o hyd, mae Ant yn y broses o drefnu'r gwaith papur er mwyn ei adnewyddu unwaith eto.

"Yn bennaf, y prif reswm mae'n gymaint o gur pen yw fy mod i wedyn yn gorfod mynd a gofyn am dystiolaeth," meddai.

"Ar y funud yr ansicrwydd yn fy mhen i yw os fydd y dystiolaeth yn ddigonol."

Yn 么l Ant, mae'r broses yn "boen meddwl", yn enwedig wrth i gostau byw gynyddu.

"Mae methu defnyddio bysus oherwydd y diffyg p脿s i bobl anabl yn mynd i fod yn ddrud iawn hefyd."

Disgrifiad o'r llun, Fe syrthiodd Lara o ffenestr yn 2017, ac mae'n byw ag anabledd ers hynny

"Dwi ddim yn gadael y t欧 rhagor," meddai Lara Warlow o Ben-y-bont, sydd hefyd wedi profi heriau wrth wneud cais am b脿s teithio.

Mae Lara'n byw ag anabledd ers iddi syrthio o ffenestr yn 2017 a chael niwed i'r nerfau.

Dydy hi ddim yn gallu gweithio oherwydd ei hanabledd, ac mae felly'n gymwys i gael tocynnau am bris llai wrth fynd ar dr锚n neu fws.

Ond ar hyn o bryd, mae'n aros am waith papur i brofi ei bod hi'n gymwys.

"Dwi angen llythyr PIP arall," meddai, "ond does dim dyddiad eto ar gyfer fy nghyfarfod am PIP. Dwi methu dangos llythyr sydd ddim yn bodoli."

'Pethau'n mynd yn anoddach'

O dan y rheolau presennol, sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i bobl anabl gyflwyno prawf o daliadau PIP i Drafnidiaeth Cymru i brofi eu bod yn gymwys i deithio'n rhatach - rhywbeth sy'n rhaid ei wirio yn rheolaidd.

Roedd Lara wedi cael gwybod bod angen iddi brofi eto ei bod hi'n anabl i Drafnidiaeth Cymru, ond oherwydd ei bod hi'n aros am asesiad PIP, dyw hi ddim yn gallu derbyn tocynnau am bris llai.

Wrth aros am ei hasesiad, mae hi wedi penderfynu teithio llai, gan olygu ei bod hi'n colli ei gwersi dawnsio yng Nghaerdydd.

"Dwi ddim yn byw ar lot o arian, felly mi fyddai'r cerdyn yn bendant yn helpu. Mae pethau'n mynd yn anoddach."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae elusen Anableddau Cymru yn galw am newid i'r meini prawf gan fod nifer yn cysylltu gyda nhw 芒'r un pryderon

Yn 么l elusen Anableddau Cymru, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd yn cysylltu 芒 nhw gyda'r un pryderon.

Maen nhw'n dweud bod angen ailystyried y meini prawf er mwyn gwneud y broses yn haws i bobl sydd eu hangen.

Yn 么l Alex Osborne, sy'n gweithio i'r elusen, mi ddylai fod yn haws i bobl brofi eu bod nhw'n anabl.

"Mae pobl anabl ar draws Cymru yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n eu bod wedi eu heithrio ac yn styc adre oherwydd eu bod nhw'n methu adnewyddu eu pasys," meddai Alex, sydd hefyd yn byw gydag anabledd.

"Mae'r sefyllfa yn gwneud i bobl deimlo'n bryderus oherwydd bod eu bywydau o ddiwrnod i ddiwrnod yn fwy costus nag i bobl eraill."

Yn 么l Alex, mi fyddai newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

"Dwi rili yn teimlo bod angen ehangu'r meini prawf felly, yn hytrach na dibynnu ar PIP, 'falle y byddai modd derbyn bathodyn glas fel tystiolaeth, neu hyd yn oed nodyn gan feddyg."

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau fod asesiadau yn digwydd yn gyflym, gan ychwanegu fod hawliau pobl anabl yn flaenoriaeth.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sy'n cynnig cerdyn teithio, yn dweud ei fod yn rhoi digon o rybudd i bobl er mwyn iddyn nhw baratoi'r dystiolaeth sydd ei hangen.

Yn 么l y cwmni, mae'r broses yn gweithio ar sail argymhellion Llywodraeth Cymru.

'Gweithio'n gyson i wella'

Dywedodd llefarydd ar ran y DWP eu bod yn sicrhau bod pobl yn gallu cael cymorth ariannol PIP mewn "modd amserol" a bod "lleihau amseroedd teithiau cwsmeriaid yn flaenoriaeth i'r adran".

"Rydym yn gweithio'n gyson i wneud gwelliannau i'n gwasanaeth trwy hybu adnoddau ac agor asesiadau dros y ff么n a fideo, ac mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod amseroedd clirio wedi gwella'n sylweddol, gan ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig."

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd, ewch i bbc.co.uk/siaradanabledd.