Gwent: Cynllun fferm solar cwmni Budweiser yn 'anaddas'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r tir corsiog yn fregus ac yn bwysig ar gyfer byd natur, yn 么l ymgyrchwyr
  • Awdur, Ben Price
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae cynlluniau cwmni cwrw adnabyddus wedi arwain at alwadau gan ymgyrchwyr natur i roi gwaharddiad dros dro ar ddatblygu parciau solar ar safle ger Magwyr.

Bwriad cwmni Budweiser yw adeiladu parc solar ar dir Gwastadeddau Gwent, fyddai'n cynhyrchu hyd at 17MW o drydan i helpu rhedeg Bragdy Magwyr.

Pryder gwrthwynebwyr yw'r effaith negyddol y gallai'r cynlluniau gael ar fioamrywiaeth yr ardal.

Mae Budweiser Brewing Group yn dweud bydd y cynllun yn sicrhau gwelliannau ecolegol uniongyrchol.

Gobaith y cwmni yw datblygu'r parc solar ar gorstir ger pentref Magwyr, i'r dwyrain o Gasnewydd.

Bydd y safle yn cynhyrchu trydan ar gyfer ffatri hydrogen gerllaw, sy'n rhan o gynllun y bragdy i dorri ei allyriadau carbon.

Ond mae ymgyrchwyr bywyd gwyllt ac elusennau natur lleol yn ofni bydd datblygu parciau solar o'r fath yn tanseilio ecosystemau bregus Gwastadeddau Gwent.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mike Webb yn dweud fod y safle dan sylw yn anaddas

Dywedodd swyddog cynllunio Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Mike Webb: "Wrth gwrs rydyn ni'n edrych ar safle bregus, pwysig iawn ar gyfer bywyd gwyllt.

"Mae'n ardal gyda mathau gwahanol o fywyd gwyllt fel cornchwiglod, lot o bryfed sy'n brin iawn yng ngweddill Cymru, felly dydy o ddim yn addas i adeiladu'r math yma o ddatblygiad ar y safle yma.

"Rydyn ni o blaid datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy achos rydyn ni'n cydnabod bod yna broblem newid hinsawdd, ond yn anffodus dyw Gwastadeddau Gwent ddim yn addas."

'Deall pwysigrwydd cynefinoedd bywyd gwyllt'

Fel rhan o'r gwaith ymgynghori ar y prosiect, dywedodd Budweiser Brewing Group eu bod yn "deall pwysigrwydd Gwastadeddau Gwent a chynefinoedd bywyd gwyllt lleol fel corstir Magwyr".

"Yn gyfreithiol, mae'n rhaid i ni sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth o o leiaf 10% drwy'r prosiect, felly rydyn ni'n awyddus i glywed barn pobl leol ar ba rannau o'r gymuned fyddai'n elwa fwyaf o gyfoethogiad ecolegol," meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae cwmni BSR Energy hefyd eisiau defnyddio tir Gwastadeddau Gwent ar gyfer cynllun parc solar

Yn Rhagfyr 2022, fe ohiriodd Llywodraeth Cymru benderfyniad dros barc solar arall ar Wastadeddau Gwent.

Mae disgwyl i barc solar Rush Wall gynhyrchu digon o drydan ar gyfer dros 18,000 o dai.

Mae yna ofyn i ddatblygwr safle Rush Wall, BSR Energy, ddarparu tystiolaeth bellach yngl欧n 芒 sut y bydd y prosiect yn cydymffurfio 芒 pholis茂au amgylcheddol cenedlaethol.

Dywedodd BSR Energy: "Rydyn ni yng nghanol y broses o greu dogfen fydd yn amlinellu sut mae ein cynllun presennol yn cydymffurfio gyda'r gofynion newydd.

"Rydyn ni'n credu bod ein cais yn ystyried gwytnwch ecosystemau ac rydyn ni'n hapus i esbonio sut y bydd ein cynllun yn ychwanegu gwerth i fioamrywiaeth ac yn datblygu rhwydweithiau ecolegol.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i adeiladu perthynas dda gyda rhanddeiliaid lleol ac i wrando ar farn pawb, ac yn addasu ein cynlluniau i dawelu unrhyw bryderon."

Disgrifiad o'r llun, Mae angen sicrwydd na fyddai'r cynlluniau'n niweidio bywyd gwyllt yn gyntaf, medd Catherine Linstrum

Mae datblygwyr parc solar yng Ngwynll诺g ar y gwastadeddau i'r gorllewin o Gasnewydd wedi gwneud newidiadau i gynlluniau gafodd eu gwrthod yn wreiddiol gan arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru.

Bellach, mae datblygwyr Hwb Ynni Adnewyddadwy Gwynll诺g wedi lleihau nifer paneli solar y prosiect gan addo i gynyddu maint coridorau bywyd gwyllt o fewn y datblygiad.

Dywedodd Catherine Linstrum, aelod o Ffrindiau Gwastadeddau Gwent: "Rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru osod gwaharddiad dros dro ar bob datblygiad mawr ar Wastadeddau Gwent.

"Dydyn ni ddim yn dweud 'na' i ffermydd solar, ond rydyn ni yn dweud, ar hyn o bryd, does dim digon o dystiolaeth i brofi nad yw ffermydd solar yn effeithio'n negyddol ar fioamrywiaeth y gwastadeddau.

"Tan ein bod ni'n sicr nad ydyn nhw'n niweidiol i'r fath amgylchedd, rhaid i ni beidio datblygu ar y tir yma."

Dywedodd Llywodraeth Cymru na all wneud sylw gan y gallai effeithio ar benderfyniadau posib Gweinidogion Cymreig ar y mater.