Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Costau'r Nadolig: 'Dwi'n gwario ar fwyd a biliau - dyna fe'
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
I Charlotte Chapman, ei phlant yw'r flaenoriaeth o hyd.
"Bydda i'n bwyta'r bwyd sydd ganddyn nhw dros ben. Fydda' i ddim yn gwneud pryd o fwyd i mi fy hun," meddai'r fam i bump yn eu cartref yng Nghaerdydd.
Mae'r t欧 tair ystafell yn l芒n ac yn daclus, heb unrhyw arwydd o'r anhrefn a ddaw ar 么l ysgol na'r ymdrechion gwyllt i dalu'r biliau.
"Rydyn ni i gyd yn ei chael hi'n anodd," meddai.
"Os oes gennych chi'r gefnogaeth, a theulu, dwi'n meddwl eich bod chi'n mynd i fod yn iawn."
'Dy'n ni ddim yn mynd allan'
Roedd Charlotte, sy'n 30 nawr, yn 17 oed pan gafodd ei phlentyn cyntaf.
Yn ogystal 芒 gofalu am ei phum plentyn, mae brawd Charlotte, sy'n 16 oed, hefyd yn byw gyda nhw.
"Fy arian - dwi'n gwario ar fwyd a biliau. Dyna fe," meddai.
"Dy'n ni ddim yn mynd allan. Os ydyn ni, ni'n gwneud pethau am ddim.
"Awn i lawr i Afon Taf neu'r parc. Does dim treats fel sinema na bowlio - alla i ddim fforddio hynny."
Charlotte yw'r alarch yn y t欧, yn padlo'n wyllt o dan yr wyneb i sicrhau bod ei phlant yn cael taith esmwyth trwy eu bywydau ifanc.
"Rydyn ni wedi gorfod defnyddio elusennau sawl gwaith i helpu. Es i i'r banc bwyd ychydig yn 么l er mwyn gallu prynu rhai anrhegion Nadolig," meddai.
"Mae'n rhaid i mi fynd at elusennau am ddillad, oherwydd dwi'n gweld bod hynny'n ddrud ar hyn o bryd."
Fe brynodd hi esgidiau ysgol y plant ar-lein, gan dalu fesul tipyn.
Mae Charlotte hefyd wedi defnyddio credyd i ledaenu cost rhai eitemau, a dim ond newydd orffen talu am anrhegion Nadolig y llynedd mae hi.
Er bod yr argyfwng costau byw wedi gwneud i'r rhan fwyaf ohonom ailystyried yr hyn yr ydym yn ei wario, dywedodd Charlotte ei bod wedi arfer 芒 chyllideb dynn.
"Dyma fywyd normal i fi, a dweud y gwir. Dwi'n fam sengl ers [mod i'n] 17, felly mae wedi bod yn frwydr am bethau erioed.
"Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r help a'r gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi. A dyna dwi wedi'i wneud am y 10 mlynedd ddiwethaf, a dweud y gwir."
Cynnydd yn y galw
Daw rhywfaint o'r cymorth hwnnw gan 成人快手-Start Cymru - elusen sy'n cefnogi pobl ifanc 芒 phlant yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.
"Rydym yn bendant wedi gweld cynnydd yn y teuluoedd sydd angen rhai o'r pethau hanfodol bob dydd hynny," meddai cydlynydd yr elusen, Ruth Triggs.
"Help gyda nappies, cadachau, llaeth babanod, ac os nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r rheiny, does dim arian ar 么l i ddarparu'r luxuries bach hynny ar gyfer y Nadolig chwaith."
Yr adeg hon o'r flwyddyn mae gwaith 成人快手-Start yn cynnwys ap锚l anrheg Nadolig, gyda'r anrhegion yn cael eu dosbarthu i'r teuluoedd maen nhw'n eu cefnogi.
Dywedodd Ms Triggs y gallai pwysau'r Nadolig effeithio ar rieni ifanc.
"Rydyn ni'n gweld llawer mwy o atgyfeiriadau ar gyfer teuluoedd sy'n cael trafferth gyda materion iechyd meddwl, gyda straen bywyd bob dydd - ceisio cael dau ben llinyn ynghyd a darparu ar gyfer eu teuluoedd.
"Mae'n amlwg yn cael effaith arnyn nhw."
'Gwneud o gorau ohono'
Bydd Charlotte Chapman a'r teulu yn cael picnic ar lawr yr ystafell fyw ar gyfer cinio Nadolig, gan nad oes lle iddyn nhw i gyd o amgylch y bwrdd.
Mae hi'n meddwl bod rhai yn ei chymuned yn ei barnu, gan ddweud fod pobl wedi galw enwau arni yn y stryd.
Ond mae'n gobeithio y bydd ei hagwedd gadarnhaol yn goresgyn y pwysau a ddaw gyda'r Nadolig.
"Gallwch chi wneud pethe da iawn gydag ychydig bach - does dim angen llawer o arian arnoch chi," meddai.
"Mae lan i chi wneud o gorau ohono. Gwnewch o'n hudol. Byddwch yn hapus."